Daeth y mudiad yn enwog drwy'r byd am drefnu protestiadaubronnoeth yn erbyn y diwydiant rhyw, yn erbyn sefydliadau crefyddol ac "asiantau priodas rhyngwladol" yn ogystal â nifer eraill o faterion llosg, rhyngwladol.[1][2][3][4][5][6][7] Ymhlith amcanion y mudiad y mae: "datblygu arweinyddiaeth, nodweddion deallusol a moesol merched ifanc yr Wcráin. Mae gweithredwyr FEMEN wedi cael eu cadw'n gaeth yn aml gan heddluWcráin oherwydd eu protestiadau.[8]
Asgwrn cefn y mudiad pan gafodd ei ffurfio oedd merched 18-20 oed o brifysgolion y wlad. YnKiev, ceir oddeutu 300 o aelodau gweithredol o fewn y mudiad.[9] Llond dwrn o ddynion sy'n aelodau o FEMEN.[1] Mae oddeutu 20 o ferched sy'n barod i fron-noethi. Cafwyd y rhan fwyaf o'u protestiadau yn kiev, ond fe gafwyd protestiadau hefyd yn[2][6]Odesa,[10]Dnipro[11] aZaporizhia.[12]
Un o'u hamcanion yw "ysgwyd merched Wcráin gan eu hysgogi i weithredu'n gymdeithasol a threfnu erbyn 2017chwyldro'r ferch."[9] Cred y grŵp iddynt gael peth llwyddiant yn eu hymdrech i osod eu hagenda yn llygad y byd.[13] Yn Ebrill 2010 bu'r grŵp yn pendroni a fyddai'n sefyll mewn etholiadau seneddol.[1][9][14] Fodd bynnag, dewisiodd beidio a gwneud hynny.[15]
Protest Femen ynKiev, 9 Tachwedd 2009, pan roedd y protest ddim yn cynnwys noethni.
Anna Hutsol a DJ HELL mewn protest "Nidputeindy yw Wcráin", yn erbyntwristiaeth rhyw; Kyiv, Wcráin, 23 Mai 2009