| Enghraifft o: | militia |
|---|---|
| Rhan o | Spanish Republican Army |
| Olynwyd gan | I Cuerpo de Ejército de Euzkadi |
| Lleoliad | Bilbo |
| Gwladwriaeth | Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg |
| Dynodwyr | |
Euzko Gudarostea, neu mewn orgraff mwy diweddarEusko Gudarostea (Basgeg, yn golygu "Byddin Gwlad y Basg") oedd yr enw a ddefnyddid gan luoedd arfog Llywodraeth Gwlad y Basg yn ystodRhyfel Cartref Sbaen.
Ffurfiwyd y fyddin yn nechrau mis Awst1936, i ymladd yn erbyn byddinoeddFrancisco Franco. Roedd y milwyr yn cynnwyscenedlaetholwyr Basgaiss, gyda rhaisosialwyr achomiwnyddion. Roedd yn cynnwys llynges fechan, ond roedd diffyg awyrennau a magnelau yn anfantais fawr.
Bu'n ymladd yn erbyn lluoedd Franco yn ystod 1936 a1937. Wedi i gefnogwyr Franco feddiannu talaithBizkaia, ildiodd y fyddin Fasgaidd i'r Eidalwyr oedd yn ymladd gyda Franco ynSantoña (Cantabria).
Gelwid aelodau'r Euzko Gudarostea yngudaris ("milwyr" mewn Basgeg). Roedd aelodauETA yn eu galw eu hunain yngudaris ar brydiau, ac yn eu hystyried eu hunain fel olynwyr yr Euzko Gudarostea.