Cynhaliwyd 58fed etholiad arlywyddolUnol Daleithiau America neuEtholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, ar yr 8fed o Dachwedd 2016, etholiad pedeirblynyddol. Ystyrir yr etholaid hon yn un o'r rhai mwyaf negyddol erioed; canlyniad yr etholiad oedd iDonald Trump (yBlaid Weriniaethol) gael ei ethol yn Arlywydd aMike Pence yn Ddirprwy Arlywydd. Trump fydd y 45ed Arlywydd UDA.
Pleidleisiodd y cynrychiolwyr (neu 'etholwyr' /electors) ar ran yr etholaethau Arlywydd a Dirprwy-Arlywydd drwy'rColeg Etholiadol. Cytunwyd ar y cyfnod o bedair blynedd yn yr22ain Gwelliant o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau a gwaharddwyd yr Arlywydd cyfredol,Barack Obama o'rBlaid Ddemocrataidd rhag cael ei ethol am y trydydd tymor. Dyma felly etholiad y 45ed Arlywydd a'r 48fed Dirprwy Arlywydd o'r wlad.
Trechodd y dyn busnes Donald Trump y SeneddwrTed Cruz oTexas, John Kasich oOhio a Marco Rubio oFlorida ar 19 Gorffennaf 2016 gan ddod yn gynrychiolydd yBlaid Weriniaethol.[6] Pe bai'n cael ei ethol, Trump fyddai Arlywydd hynaf yr UD erioed.[7] Daeth y cyn-Ysgrifennydd GwladolHillary Clinton i gynrychioli'r Blaid Ddemocrataidd ar 26 Gorffennaf 2016, wedi iddi drechu'r Seneddwr Bernie Sanders oVermont. Pe bai'n cael ei hethol, hi fyddai'r ferch gyntaf i ddod yn Arlywydd yr UD.[8]
- Yn 70 oed, Trump yw'r ymgeisydd hynaf i gael ei ethol i dymor cyntaf fel arlywydd; 69 oed oeddRonald Reagan pan wnaed ef yn arlywydd yn 1980.
- Trump yw'r 5ed arlywydd oEfrog Newydd, gan ddilyn Martin Van Buren, Millard Fillmore, Theodore Roosevelt, a Franklin D. Roosevelt. Ef yw'r ail i'w eni yn Efrog Newydd; Theodore Roosevelt oedd y cyntaf.