Gwlad yng ngogledd-ddwyrainEwrop ywGweriniaeth Estonia neuEstonia (Estoneg:Eesti). Mae Estonia yn ffinio âLatfia i'r de, â Llyn Peipus ac â Rwsia i'r dwyrain. Gwahanir y wlad oddi wrth yFfindir ganGwlff y Ffindir i'r gogledd ac oddi wrthSweden gan yMôr Llychlyn i'r gorllewin. Un o'rGwledydd Baltig yw Estonia, ynghyd â Latfia aLithwania. Yn y cyfrifiad diwethaf roedd gan y wlad boblogaeth o 1,369,995(1 Ionawr 2025)[1], o'i gymharu â Chymru sydd a phoblogaeth o dros 3.3 miliwn.
Credir bod enw modern Estonia yn tarddu o'r hanesydd RhufeinigTacitus, a ddisgrifiodd yn ei lyfrGermania bobl a alwyd ynAestii. Yn gyffelyb, mae sagâu hynafol Sgandinafaidd yn cyfeirio at wlad o'r enwEistland. Mewn ffynonellau Lladinaidd a ffynonellau cynnar eraill, galwyd y wlad ynEstia neuHestia.
Mae tiriogaeth Estonia yn cynnwys 2,222 o ynysoedd yn y Mor Baltig yn ogystal â'r tir mawr, a mae cyfanswm ei harwynebedd yn 45,339 cilomedr sgwar (17,505 milltir sgwar).
Eglwys Kose yn Estonia. Mae'r sylfaeni'n tarddu nôl i 1370, y tŵr yn 1430 a'r pigyn yn 1873.
Mae pobl wedi byw yn nhiriogaeth Estonia ers o leiaf 6,500 o flynyddoedd. Dros y canrifoedd, fe reolwyd rhannau o'r wlad gan farchogion Ellmynaidd, Denmarc, Sweden, Pwyl-Lithwania a Rwsia yn eu tro. Bu deffroad cenedlaethol yn Estonia yn y 19g ac arweiniodd hynny at sicrhau annbyniaeth oddi wrth ymerodraeth Rwsia yn 1918.
Yn ystod yrAil Ryfel Byd, cafodd Estonia ei meddiannu gan yrUndeb Sofietaidd yn 1940, ac yna yr Almaen Naziaidd y flwyddyn ganlynol, hyd nes iddi gael ei hadfeddiannu gan yr Undeb Sofietaidd yn 1944 a hynny fel y Weriniaieth Sofiet Sosialaidd Estonaidd.
Adenillodd Estonia ei hannibyniaeth ar 20 Awst 1991. Mae bellach yn weriniaeth seneddol unedol ddemocrataidd sydd wedi'i rhannu yn bymtheg sir. Y brifddinas, a'r ddinas fwyaf, yw Tallinn. Gyda phoblogaeth o 1.3 miliwn, Estonia yw un o aelod-wladwriaethau lleiaf poblog yr Undeb Ewropeaidd a dim ond yr Islandeg sy'n iaith lai ei siaradwyr a ddefnyddir i redeg gwladwriaeth gyfan.
Mae Estonia yn wlad ddatblygiedig gydag economi flaengar, incwm uchel sydd ymhlith y rhai sy'n tyfu gyflymaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae eiMynegai Datblygiad Dynol yn uchel iawn ac mae'n perfformio'n uchel iawn ar fesuriadau rhyddid economaidd, rhyddfreiniau a rhyddid y wasg. Roedd prawfPISA 2015 yn gosod ysgolion uwchradd Estonia yn drydydd yn y byd, ar ôlSingapôr aJapan. Mae dinasyddion Estonia yn derbyn gwasanaeth iechyd, addysg am ddim, a'r cyfnod mamolaeth hiraf gyda thâl yn yr OECD. Ers iddi gael ei hannibyniaeth, mae'r wlad wedi datblygu ei sector technoleg gwybodaeth yn gyflym, gan ddod yn un o gymdeithasau digidol mwyaf blaengar y byd. Yn 2005 Estonia oedd y genedl gyntaf i gynnal etholiadau ar y rhyngrwyd, ac yn 2014 y genedl gyntaf i ddarparuE-breswyliad.