Erwin Rommel |
---|
 |
Ganwyd | Johannes Erwin Eugen Rommel  15 Tachwedd 1891  Heidenheim an der Brenz  |
---|
Bu farw | 14 Hydref 1944  o gwenwyno gan syanid  Herrlingen  |
---|
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen,Gweriniaeth Weimar,yr Almaen Natsïaidd  |
---|
Galwedigaeth | swyddog milwrol  |
---|
Priod | Lucia Maria Rommel  |
---|
Plant | Manfred Rommel  |
---|
Gwobr/au | Pour le Mérite, Military Merit Cross III. Class, Knight's Cross of the Iron Cross with Oak Leaves, Swords and Diamonds, Urdd Friedrich, Urdd Mihangel Ddewr, Iron Cross 1st Class, Iron Cross 2nd Class, Military Merit Order (Bavaria), Knight of the Württemberg Military Order of Merit, Wound Badge (1918) in Silver, Honour Cross of the World War 1914/1918, Sudetenland Medal, Memel Medal, Wehrmacht Long Service Award, Grand Officer of the Military Order of Savoy, Knight of the Colonial Order of the Star of Italy, Silver Medal of Military Valour, Order of Military Merit (Württemberg), Clasp to the Iron Cross, Military Merit Cross  |
---|
llofnod |
---|
 |
Cadfridog o'rAlmaen yn ystodyr Ail Ryfel Byd oeddErwin Johannes Eugen Rommel (15 Tachwedd1891 -14 Hydref1944).
Ganed ef ynHeidenheim an der Brenz, yn fab i ysgolfeistr. Ymunodd a'r fyddin ar gyngor ei dad, ac yn1911 aeth iDanzig am hyfforddiant fel swyddog. Ymladdodd yn yRhyfel Byd Cyntaf, a dychafwyd ef i fod yn Gapte. Enillodd y medalPour le Mérite, un o'r ieuengaf i ennill y fedal yma.
Arhosodd yn y fyddin fel hyfforddwr wedi'r rhyfel. Yn yr Ail Ryfel Byd, roedd yn gyfrifol am uned danciau yn yr ymladd ynFfrainc yn1940. Yn1941, gyrrwyd ef i Ogledd Affrica, lle enillodd nifer o fuddugoliaethau ac ennill y llyenw "Cadno'r Anialwch" oherwydd ei allu fel cadfridog. Fodd bynnag, ni allai yr Almaen ei atgyfnerthu yn hawdd, a gorchfygwyd ef ym mrwydrEl Alamein ganBernard Montgomery.
Gwnaed ef yn gyfrifol am y ffrynt gorllewinol yn Ewrop, lle roedd yn wynebu byddinoedd llawer mwy. Roedd ganddo ran ymylol yn ycynllwyn i ladd Hitler yn 1944. Pan ddaeth hyn i'r amlwg, gorfodwyd ef i'w ladd ei hun.