
RoeddEpona yn dduwiesGeltaidd a addolid yngNgâl ac ardaloedd Celtaidd eraill. Roedd yn amddiffynnyddceffylau, mulod ac asynnod, ac yn dduwies ffrwythlondeb. Awgrymodd H. Hubert fod y dduwies a'i cheffylau yn arwain eneidiau'r meirw. Ceir cerfluniau o Epona trwy'r Ymerodraeth Rufeinig, y rhan fwyaf ohonynt, ond nid y cyfan, wedi eu cysegru iddi gan Geltiaid. Dangosir y dduwies yn marchogaeth mewn llawer o'r cerfluniau.
Daw'r enwGalegEpona ‘caseg ddwyfol’ o'r Gelteg *epos ‘ceffyl’ - cymharer yr Hen Gymraegeb ‘march, cadfarch’ (a roes y Gymraegebol,cyfeb,ebran). Ceir yn elfen i enwau ambell i le, megisEpynt, yn ogystal. Mae nifer o ysgolheigion wedi ei chysylltu âRhiannon ymMhedair Cainc y Mabinogi. Y dduwies gyfatebol ym mytholegIwerddon ywMacha, duwies tra-arglwyddiaetj a gysylltir â defodau'n ymwneud â cheffylau.
Dichon fod cysylltiad rhwng cwlt Epona a'rcerflun sialc o geffyl gwyn anferth a welir ynUffington, de Lloegr heddiw, yn ogystal.