Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Epistol

Oddi ar Wicipedia

Un o lyfrau'rTestament Newydd yn yBeibl ar ffurf llythyr sy'n dysgu gwers foesol ywepistol (o'rGroeg: ἐπιστολή, "llythyr").Llythyrau Paul yw'r mwyafrif o'r epistolau hyn. Mae awdury Llythyr at yr Hebreaid yn anhysbys. Gelwir y gweddill, ganapostolion eraill, ynEpistolau Cyffredinol.

Mae hefyd sawl epistol ynApocryffa'r Testament Newydd. Roedd rhai ohonynt yn uchel iawn eu parch ganyr Eglwys Fore ond nid ydynt bellach yn cael eu hystyried yn ganonaidd.Maent yn cynnwys:

  • Llythyr Barnabas
  • Llythyrau Clement
  • Llythyr y Corinthiaid at Bawl
  • Llythyr Ignatius at y Smyrnaeaid
  • Llythyr Ignatius at y Traliaid
  • Llythyr Polycarp at y Philipiaid
  • Llythyr Diognetus
  • Llythyr Pawl at y Laodiceaid
  • Llythyr Pawl at Seneca'r Ieuaf
  • Trydydd Llythyr Pawl at y Corinthiaid
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Epistol&oldid=11463788"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp