| Ellis Wynne | |
|---|---|
| Ffugenw | Y Bardd Cwsc |
| Ganwyd | 7 Mawrth 1671 Y Lasynys Fawr |
| Bu farw | 13 Gorffennaf 1734 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd, offeiriad Anglicanaidd |
| Plant | William Wynn |
| Mae ganWicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |

Llenor crefyddol a chyfieithydd oGymru oeddEllis Wynne (7 Mawrth1671 -13 Gorffennaf1734). Mae'n adnabyddus fel awdurGweledigaethau y Bardd Cwsc, a ystyrir yn un o glasuronrhyddiaith Gymraeg.
Ganed Ellis Wynne yn y Lasynys (neu'r Lasynys Fawr), ffermdy sylweddol rhwngTalsarnau aHarlech, yn yr henSir Feirionnydd (deGwynedd), yn fab i Edward Wynne o blasdyGlyn Cywarch (heb fod ymhell o'r Lasynys). Roedd yn deulu o fan uchelwyr gyda chysylltiad â theuluBrogyntyn, gerCroesoswallt. Trwy ei daid, Elis Wyn, roedd Ellis Wynne yn perthyn iJohn Jones, Maesygarnedd, un o'r rhai a lofnododd warant dienyddio'r breninCharles I.
Yn wahanol i John Jones o Faesygarnedd, yr oedd Ellis Wynne yn frenhinwr pybyr. Mae manylion ei yrfa yn ansicr, ond ymddengys iddo dreulio cyfnod yn Ysgol RamadegAmwythig. Mae cerddLadin gan Wynne yn awgrymu cysylltiad ag Ysgol RamadegBiwmares yn ogystal. Aeth iRydychen lle graddiodd ar y 1af o Fawrth1692, yn 21 oed. Mae'n bosibl ei fod wedi cwrdd â'r athrylith amlddawnEdward Lhuyd tra oedd yno. Ym Medi1698 priododd â'i wraig gyntaf, Lowri Wynne o Foel-y-glo, Meirionnydd.
Cafodd ei ordeinio'noffeiriad adiacon ynEglwys Gadeiriol Bangor yn Rhagfyr1704. Daeth yn rheithor plwyfiLlanbedr aLlandanwg yn1705 ac wedyn cafodd ofalaethLlanfair, ger Harlech, yn1710. Yn1711 priododd â'i ail wraig, Lowri Lloyd oHafod Lwyfog (gerAberglaslyn) a symudodd i'r Lasynys eto lle bu fyw am weddill ei oes. Bu farw y 13 Gorffennaf 1734 a'i gladdu yn Eglwys Llanfair.
Cyfieithodd Ellis WynneRheol Buchedd Sanctaidd (o waith SaesnegJeremy Taylor) yn1701 ac argraffiad o'rLlyfr Gweddi Gyffredin yn1710.
Fodd bynnag, ei brif waith llenyddol yw'r testun rhyddiaithGweledigaetheu y Bardd Cwsc (Gweledigaethau'r Bardd Cwsg) (1703), sy'n seiledig yn fras ar gyfieithiadau SaesnegRoger L'Estrange aJohn Stevens o'r llyfrLos Sueños ('Y Breuddwydion') gan ySbaenwr DonFrancisco de Quevedo (1580-1645). Ychwanegiad Wynne yw'r ffigwr y 'bardd cwsc' fel prif gymeriad. Mae'r bardd cwsg yn cael tair gweledigaeth fel mae'n mordwyo drwy'r byd (Gweledigaeth cwrs y Byd), drwy angau (Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa) a thrwy uffern (Gweledigaeth Uffern). Fe'i hebryngir gan angel ar y ddaear ac mewn uffern a chan Meistr Cwsc a'i chwaer Hunllef ym Mrenhinllys isa Angau, sef eu brawd. Mae'r gwaith yn darlunio taith pechadur o'r byd hwn drwy angau at uffern. Llyfrbwrlesg a ysgrifennwyd mewnCymraeg naturiol a choeth sy'n mynegi safbwynt brenhinwr ac eglwyswr ar gyflwr y wlad yn ei oes yw'rGweledigaethau. Mae hefyd apêl grefyddol rymus i'r testun, yn galw ar y Cymry i ymateb i'r gweledigaethu gan droi at yr Eglwys, ymhle y gallent ddilyn Duw yn gywir, yn ôl safbwyntiau'r testun. Mae Wynne yn dangos meistrolaeth ar Gymraeg safonol y Beibl a'r traddodiad llenyddol yn ogystal â Chymraeg llafar y cyfnod ar ei mwyaf rhywiog. Mae'n bosibl fod Wynne wedi bwriadu ail gyfrol ar LysParadwys yn olyniant iddo, ond nid oes tystiolaeth iddo ymroi i'r gwaith. Yn ogystal â disgrifiadau llawn dychymyg oUffern adychan deifiol, ceir darnau o ryddiaith swynol iawn, yn arbennig yr agoriad enwog sy'n disgrifio'r wlad o gwmpas Harlech trwy sbienddrych yr awdur.
Roedd Ellis yn gasglwr a chopïyddllawysgrifau Cymreig yn ogystal. Un o'r llawysgrifau a gafodd oedd un yn cynnwys nifer ogerddi darogan, gan gynnwys rhai a dadogwyd ar "Y Bardd Cwsg" aRhys Fardd, mae traddodiad o gysylltu'r ddau gyda'i gilydd, ond yn y llawysgrifau a welodd Wynne, maent yn ymddangos fel dau bersona, os nad dau berson gwahanol, felly y maent yn nisgrifiadau ei gyfoedion o'u cynnwys. Nid oes tystiolaeth o blaid cred Gwyn Thomas mai Rhys Fardd yw'r 'Bardd Cwsg' yn y testun hwn o leiaf.
Nid ysgrifennodd lawer o farddoniaeth ond mae un o'i gerddi, 'Gadel Tir', a geir ar ddiwedd ail ranGweledigaethau'r Bardd Cwsg yn glasur bach sydd wedi ennill ei lle mewn sawlblodeugerdd Gymraeg. Ysgrifennodd y beirddSiôn Rhydderch aRobert Humphrey gywyddau iddo. Cyfansoddodd sawl emyn yn ogystal. a'r enwocaf yw'r un sy'n cychwyn gyda'r llinell 'Myfi yw'r Adgyfodiad Mawr.'
Cafwyd sawl argraffiad o'rGweledigaethau, e.e. ganD. Silvan Evans (Caerfyrddin, 1842, 1865)[1] a SyrJohn Morris-Jones (Bangor, 1898). Y diweddaraf yw: