| Math | municipality of Tunisia |
|---|---|
| Poblogaeth | 73,706 |
| Gefeilldref/i | Bourg-en-Bresse |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | El Kef |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 780 metr |
| Cyfesurynnau | 36.17°N 8.7°E |
| Cod post | 7100 |
![]() | |
MaeEl Kef neuEl-Kef (Arabeg: الكاف,Ffrangeg:Le Kef) yn ddinas hynafol ynNhiwnisia a phrifddinas ydalaith o'r un enw.
Lleolir El Kef ("Y Graig" yn Arabeg) yng ngogledd-orllewin y wlad, 175 km i'r gorllewin o'r brifddinasTiwnis a 40 km i'r dwyrain o'r ffin agAlgeria. Ers dyddiau'rHenfyd, El Kef yw prif ganolfan yrHaut-Tell a gogledd-orllewin Tiwnisia, gan fwynhau safle hyd yn ddiweddar iawn o fod yn ganolfan wleidyddol, crefyddol a milwrol i'r rhanbarth. Ar uchder o 780m ar ben ei graig drawiadol, El Kef yw tref uchaf y wlad o bell ffordd.
Rhennir y ddinas yn ddaudélégation (cyngor lleol), sef Dwyrain Kef a Gorllewin Kef. Mae arwynebedd y dref yn 2500 hectar gyda 45 hectar o fewn muriau hynafol y medina. Mae 45,191 o bobl yn byw yno (cyfrifiad2004).
Dominyddir El Kef ("Kef" i'r bobl leol) gan ykasbah (caer) nerthol ar gopa ysgwydd greigiog uchel sy'n ymestyn allan o lethrau deheuol Jebel Dir (1084m). Mae'r mynydd hwnnw yn ei dro yn tra-arglwyddiaethu ar y gwastadedd uchel o'i gwmpas ac yn olygfa drawiadol.
Mae strydoedd cul y medina, a dyfodd yng nghysgod ynkasbah, yn cynnwys sawl adeilad hanesyddol, e.e. Y Mosg Mawr, Mosg Sidi Boumakhlouf a Tourbet Ali Turki (beddrod sylfaenydd llinach yr Husseiniaid a reolodd Tiwnisia am 250 mlynedd hyd ei hannibyniaeth yn 1957), asynagog El-Ghriba. Yn ogystal ceireglwys hynafol Sant Pedr a Sant Paul, sy'n dyddio i'r4g.
Mae gan El Kef hanes hir iawn. Ceir olion archaeolegol sy'n dangos fod pobl yn byw yno yn yNeolithig. Sefydlwyd dinas Sicca yno gan yCarthaginiaid tua 500 CC. Daeth yn enwog am yputeiniaid teml yng nghysegrfanAstarte. Daliwyd y dref gan y breninNumidiaiddJugurtha ar ôl cwympCarthago i'rRhufeiniaid; defnyddiodd y brenin fynyddBwrdd Jugurtha, a welir i'r de-orllewin o Kef, fel amddiffynfa yn ei ryfel saith mlynedd â Rhufain (112-105 CC). Dan yrYmerodraeth Rufeinig, trowyd teml Astarte yn deml i'r dduwiesGwener a galwyd y dref yn Sicca Veneria, am ei bod yn gysegredig i Wener. Mae rhai o olion yr hen ddinas Rufeinig i'w gweld yng nghanol El Kef, ger y ffynnon sanctaidd Ras el-Aïn. Codwyd baddondai gan y Rhufeiniaid ynHammam Mellegue, 15 km o'r Kef, sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw.
Dilynwyd y Rhufeiniaid gan yFandaliaid, am gyfnod byr, a'rBysantiaid. Syrthiodd y dref i'rArabiaid yn688 a newidiwyd yr enw i Shaqbanaria (llygriad o 'Sicca Veneria'). Ond roedd y bobl leol, yBerberiaid, yn gwrthryfela'n gyson a bu El Kef yn annibynnol am lawer o'r amser tan i'rOtomaniaid gyrraedd yn yr17g. Ond blodeuodd Kef dan yr Otomaniaid ac ychwanegwyd sawl adeilad hardd i etifeddiaeth y dref.
El Kef oedd prifddinas dros dro Tiwnisia yn yrAil Ryfel Byd. Yn y1950au roedd hi'n ganolfan reoli'rFLN (Front de Libération Nationale) Algeriaidd yn ystodRhyfel Annibyniaeth Algeria yn erbynFfrainc.
Am ei bod mor uchel i fyny, mae El Kef yn mwynhau tywydd cymhedrol yn yr haf ond yn gallu bod yn oer yn y gaeaf gydag eira yn disgyn weithiau. Mae hi'n cael mwy o law na'r rhan fwyaf o lefydd yn Tiwnisia.