Heddiw, mae gan yr Eidal un o'r economïau mwyaf datblygedig yn y byd o ran CMC,[1][2][3] a hi yw'r wythfed economi fwyaf y byd yn ôlCMC enwol (y trydydd yn yrUndeb Ewropeaidd ), y chweched 'cyfoeth cenedlaethol' mwyaf ac yn ei banc canolog mae'r 3edd storfa fwyaf o aur wrth-gefnr. Fe'i rhestrir yn uchel iawn o randisgwyliad oes ei phobl, ansawdd bywyd,gofal iechyd,[4] ac addysg. Mae'r wlad yn chwarae rhan amlwg mewn materion economaidd, milwrol, diwylliannol a diplomyddol rhanbarthol a byd-eang; mae'n bwer rhanbarthol[5][6] ac yn bwer mawr,[7][8] a ganddi hi mae'rwythfed byddin mwyaf pwerus y byd. Mae'r Eidal yn aelod sefydlol a blaenllaw o'rUndeb Ewropeaidd ac yn aelod o nifer o sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys yCenhedloedd Unedig,NATO, yrOECD, ySefydliad Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop,Sefydliad Masnach y Byd, yGrŵp o Saith, yG20, Undeb Gwledydd y Môr Canoldir,Cyngor Ewrop, Uno er Consensws, Ardal Schengen a llawer mwy. Ganwyd llawer o ddyfeiswyr ac arlunwyr mawr y byd yn yr hyn rydym yn ei adnabod heddiw fel Yr Eidal. ,Bu'r wlad yn ganolfan fyd-eang yn y maesydd canlynol: celf, cerddoriaeth,llenyddiaeth, athroniaeth, gwyddoniaeth, technoleg, a ffasiwn ers amser maith, ac mae wedi dylanwadu a chyfrannu'n fawr at feysydd amrywiol gan gynnwys y sinema, bwyd, chwaraeon, y gyfraith, bancio a busnes.[9] Gan yr Eidal mae'r nifer fwyaf oSafleoedd Treftadaeth y Byd (58 yn 2020), a hi yw'r bumed wlad yr ymwelir â hi fwyaf gan dwristiaeth.
Mae hanes yr Eidal yn mynd yn ôl i gyfnod cynnar iawn, er mai yn gymharol ddiweddar yr unwyd yr Eidal i greu'r wladwriaeth fodern.
Daw'r enwItalia o'r hen enw am bobloedd a thiriogaeth de yr Eidal. Yn y rhan yma, roedd nifer o bobloedd wahanol, megis yrEtrwsciaid,Samnitiaid,Umbriaid aSabiniaid. Yn y gogledd, ymsefydlodd llwythauCeltaidd o gwmpas dyffrynafon Po.
Yn rhan ddeheuol yr orynys ac ar ynysSisili, ymsefydloddGroegiaid rhwng 800 a 600 CC, a gelwid y rhan yma ynMagna Graecia ("Groeg Fawr") mewnLladin. Yn y gogledd, yr Etrwsciaid oedd y grym mwyaf yn y cyfnod cynnar. Yn y4 CC gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid, ac yn y3 CC gorchfygodd Rhufain y Groegiaid yn y de hefyd.
Bu cyfres o ryfeloedd, yRhyfeloedd Pwnig, rhwng Rhufain aCarthago; yn ystod yrAil Ryfel Pwnig bu'r cadfridog CarthaginaiddHannibal yn ymgyrchu yn yr Eidal am flynyddoedd. Er iddo ennill nifer o fuddugoliaethau ysgubol dros y Rhufeiniaid, bu raid iddo encilio o'r Eidal yn y diewedd. Ar ddiwedd yTrydydd Rhyfel Pwnig yn146 CC, dinistriwyd Carthago.
TyfoddYmerodraeth Rhufain yn gyflym yn y cyfnod canlynol; concrwydGâl ganIŵl Cesar rhwng 60 a 50 CC. Daeth ei fab mabwysiedig,Augustus, yn ymerawdwr cyntaf Rhufain. Daeth yr ymerodraeth yn y gorllewin i ben yn y5g, a meddiannwyd yr Eidal gan bobloedd Almaenig megis yrOstrogothiaid a'rLombardiaid. Ffurfiwyd nifer o wladwriaethau.
Oherwydd ei lleoliad daearyddol canolog ynNe Ewrop a'rMôr Canoldir, yn hanesyddol bu'r Eidal yn gartref i fyrdd o bobl a diwylliannau gwahanol dros sawl mileniwm. Heddiw, mae'r rhan fwyaf yn bobloedd Italaidd Indo-Ewropeaidd a nhw a roddodd eu henw i'r penrhyn, gan ddechrau o'r oes glasurol (rhwng yr8g CC a6g ÔC). Y sefydlwyr cyntaf yn yr ardal roedd yPhoeniciaid a'r Carthaginiaid a sefydlodddrefedigaethau yar ynysoedd yr Eidal, yn bennaf.[10]Sefydlodd y Groegiaid aneddiadau ynMagna Graecia, ynNe'r Eidal, a bu'rEtrwsciaid a'rCeltiaid yn byw yng nghanol a gogledd yr Eidal, yn y drefn honno. Ffurfiodd llwyth Italaidd o'r enw'r Latinsy Deyrnas Rufeinig yn yr8g CC, a ddaeth ynweriniaeth (Gweriniaeth Rhufain) yn y pen draw, gyda llywodraeth o'r enw Senedd a'r Bobl . Aeth y Weriniaeth ati iorchfygu a chymhathu ei chymdogion ar benrhyn yr Eidal, gan orchyfygu rhannau oEwrop,Gogledd Affrica acAsia. Erbyn y ganrif gyntaf CC, daeth yrYmerodraeth Rufeinig i'r amlwg fel y pŵer cryfaf ym masn yMôr Canoldir, a gynhwysai Pax Romana, cyfnod o fwy na 200 mlynedd lle datblygodd cyfraith, technoleg, economi, celf, a llenyddiaeth yr Eidal.[11][12]
Dechreuodd yDadeni Dysg yn yr Eidal, gan ledaenu i weddill Ewrop, a chafwyd diddordeb newydd mewndyneiddiaeth, <a href="./Gwyddoniaeth" rel="mw:WikiLink" data-linkid="undefined" data-cx="{"userAdded":true,"adapted":true}">gwyddoniaeth</a>,mordwyo a chelf. Ffynnodd diwylliant yr Eidal, gan gynhyrchu ysgolheigion, artistiaid a polymathiaid enwog. Yn ystod yr Oesoedd Canol, darganfu fforwyr Eidalaidd lwybrau newydd i'rDwyrain Pell a'rByd Newydd. Serch hynny, gwanhaodd pŵer masnachol a gwleidyddol yr Eidal yn sylweddol pan agorwyd llwybrau masnach a oedd yn osgoi Môr y Canoldir.[15] Erbyn y 15g a'r 16g roedd yr Eidal yn dameidiog, yn wleidyddol, a chafodd ei gorchfygu a'i rhannu ymhellach ymhlith nifer o bwerau Ewropeaidd tramor dros y canrifoedd.
Erbyn canol y19g, roedd cenedlaetholdeb yr Eidal yn ei anterth, ac felly hefyd y galwadau amannibyniaeth er mwyn gostwng rheolaeth dramor, a chafwyd cyfnod o gynnwrf gwleidyddol chwyldroadol. Ar ôl canrifoedd o dra-arglwyddiaethu tramor a rhaniad gwleidyddol, unwyd yr Eidal bron yn gyfan gwbl ym 1861 yn dilyn rhyfel o annibyniaeth, gan sefydluTeyrnas yr Eidal fel pŵer mawr.[16] O ddiwedd y 19g i ddechrau'r20g, diwydiannwyd yr Eidal yn gyflym, yn y gogledd yn bennaf, a ganwyd ymerodraeth drefedigaethol,[17] tra bod y de yn parhau i fod yn dlawd i raddau helaeth ac wedi'i eithrio o ddiwydiant, gan ysgogi diaspora mawr a dylanwadol.[18] Er gwaethaf ei bod yn un o'r pedwar prif bŵer perthynol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth yr Eidal i gyfnod o argyfwng economaidd a chythrwfl cymdeithasol, gan arwain at gynnyddunbennaeth ffasgaidd yr Eidal ym 1922. Yn yrAil Ryfel Byd ochrodd gyda'r Almaen ac yn filwrol, fe'u trechwyd, ac arweiniodd hyn at Ryfel Cartref yr Eidal. Yn dilyn rhyddhau'r Eidal, diddymodd y wlad eu brenhiniaeth, sefydlwyd Gweriniaeth ddemocrataidd, mwynhawyd ffyniant economaidd, a daeth yr Eidal yn wlad ddatblygedig iawn.[1]
Gwlad fynyddig yw'r Eidal. Yn y gogledd, ceiryr Alpau, sy'n ffurfio ffin ogleddol y wlad. Y copa uchaf ywMonte Bianco (Ffrangeg:Mont Blanc), 4,807.5 medr o uchder, ar y ffin rhwng yr Eidal a Ffrainc. Mynydd adnabyddus arall yw'rMatterhorn (Cervino mewnEidaleg, ar y ffin rhwng yr Eidal a'r Swistir. Ymhellach tua'r de, mae mynyddoedd yrApenninau yn ymestyn o'r gogledd i'r de ar hyd yr orynys. Ceir y copa uchaf yn yr Apenninau Canolog, yGran Sasso d'Italia (2,912 m). Ceir nifer olosgfynyddoedd byw yn yr Eidal:Etna,Vulcano,Stromboli aVesuvius.
Afon fwyaf yr Eidal ywAfon Po, sy'n tarddu yn yrAlpau Cottaidd ac yn llifo tua'r dwyrain am 652 km (405 milltir) i'rMôr Adriatig ar hyd gwastadedd eang. Y llyn mwyaf ywLlyn Garda yn y gogledd.
Ar8 Mai,2008, daethSilvio Berlusconi yn Brif Weinidog yr Eidal am y trydydd tro, fel olynydd iRomano Prodi. Roedd Berlusconi hefyd yn Brif Weinidog o1994 hyd1995 ac o2001 hyd2006. Ymddiswyddodd mewn cywilydd ar 16 Tachwedd 2011 oherwydd diffyg arian y wlad a phenodwydMario Monti yn ei le.
Eidaleg yw iaith swyddogol yr Eidal. Yn nhalaithBolzano-Bozen, mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siaradAlmaeneg fel iaith gyntaf, ac mae Almaeneg yn iaith swyddogol yno ar y cyd ag Eidaleg. MaeFfrangeg yn gyd-iaith swyddogol ynVal d'Aosta.
Yr Eidal oedd y wlad gyntaf i ymelwa ar ynni geothermol i gynhyrchu trydan.[19] Mae'r graddiant geothermol uchel sy'n ffurfio rhan o'r penrhyn yn ei gwneud yn bosibl y gellir ei hecsbloetio hefyd mewn rhanbarthau eraill; nododd ymchwil a wnaed yn y 1960au a'r 1970au feysydd geothermol posibl ynLazio aThysgani, yn ogystal ag yn y rhan fwyaf o'r ynysoedd folcanig.[19]
Parciau cenedlaethol a rhanbarthol yn yr Eidal
Ar ôl ei thwf diwydiannol cyflym, cymerodd yr Eidal amser hir i wynebu ei phroblemau amgylcheddol. Mae bellach yn safle 84 yn y byd am gynaliadwyedd ecolegol.[20] Ceir ynddi barciau cenedlaethol sy'n gorchuddio tua 5% o'r wlad,[21] tra bod cyfanswm yr arwynebedd a warchodir gan barciau cenedlaethol, parciau rhanbarthol a gwarchodfeydd natur yn gorchuddio tua 10.5% o diriogaeth yr Eidal,[22] ac mae 12% o'r arfordiroedd ynardaloedd morol gwarchodedig.[23]
Yn y 2010au, daeth yr Eidal yn un o gynhyrchwyr mwyaf blaenllaw y byd o ynni adnewyddadwy, a'r pedwerydd mwyaf y byd o ran ei chapasitiynni solar wedi'i osod[24][25] a'r chweched mwyaf o gapasitiynni gwynt yn 2010.[26] Darparodd ynni adnewyddadwy tua 37% o ddefnydd ynni'r Eidal yn 2020, o'i gymharu a dros hanner yng Nghymru yn yr un cyfnod.[27] Maellygredd aer yn parhau i fod yn broblem ddifrifol, yn enwedig yn y gogledd diwydiannol, gan gyrraedd y degfed lefel uchaf ledled y byd o allyriadaucarbon deuocsid diwydiannol yn y1990au.[28] Yr Eidal oedd y deuddegfed cynhyrchydd carbon deuocsid mwyaf yn 2020.
Mae llawer o gyrsiau dŵr a darnau arfordirol wedi’u halogi gan weithgarwch diwydiannol ac amaethyddol, ac oherwydd bod lefelau dŵr yn codi, maeFenis wedi bod dan ddŵr yn rheolaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw gwastraff o weithgarwch diwydiannol bob amser yn cael ei waredu trwy ddulliau cyfreithiol ac mae wedi arwain at effeithiau iechyd parhaol ar drigolion yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt, fel yn achos trychineb Seveso. Mae'r wlad hefyd wedi gweithredu sawl adweithydd niwclear rhwng 1963 a 1990 ond, ar ôltrychineb Chernobyl a refferendwm ar y mater daeth y rhaglen niwclear i ben, penderfyniad a gafodd ei wyrdroi gan y llywodraeth yn 2008, gan gynllunio i adeiladu hyd at bedair gorsaf ynni niwclear gyda thechnoleg Ffrangeg. Cafodd hyn ei wyrdroi ei daro gan refferendwm yn dilyndamwain niwclear Fukushima.[29]
Maedatgoedwigo, adeiladu anghyfreithlon a pholisïau rheoli tir gwael wedi arwain at erydiad sylweddol ar draws rhanbarthau mynyddig yr Eidal, gan arwain at drychinebau ecolegol mawr fel llifogydd Argae Vajont 1963, Sarno yn 1998[30] a llithriadau llaid Messina yn 2009. Roedd gan y wlad sgôr cymedrig Mynegai Uniondeb Tirwedd Coedwig 2019 o 3.65/10, gan ei gosod yn safle 142 yn fyd-eang allan o 172 o wledydd.[31]
Map dosbarthiad hinsawdd Köppen-Geiger o'r Eidal[32]
Mae hinsawdd yr Eidal yn cael ei ddylanwadu gan ddŵr yMôr Canoldir sy'n amgylchynu'r Eidal ar bob ochr oddigerth i'r gogledd. Mae'r moroedd hyn yn gronfa owres alleithder i'r Eidal. O fewn y parth tymherus deheuol, maen nhw'n pennuhinsawdd y Canoldir gyda gwahaniaethau lleol oherwyddgeomorffoleg y diriogaeth.[33]
Oherwydd hyd y penrhyn (Gog - De)a'r gefnwlad fynyddig yn bennaf, mae hinsawdd yr Eidal yn amrywiol iawn. Yn y rhan fwyaf o'r rhanbarthau mewndirol gogleddol a chanolog, mae'r hinsawdd yn amrywio o is-drofannol llaith i gyfandirol llaith a chefnforol. Mae hinsawdd rhanbarth daearyddol dyffryn Po yn is-drofannol llaith yn bennaf, gyda gaeafau oer a hafau poeth.[34][35] Mae ardaloedd arfordirolLiguria,Toscana a'r rhan fwyaf o'r De yn gyffredinol yn cyd-fynd â hinsawdd arferol Môr y Canoldir (dosbarthiad hinsawdd Köppen).
Mae tywydd yr arfordir yn wahanol i'r rhai y tu mewn i'r wlad, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf pan fo'n oerach ar y mynyddoedd, yn wlyb, ac yn aml yn eira. Mae gan y rhanbarthau arfordirol aeafau mwyn a hafau poeth a sych yn gyffredinol; mae dyffrynnoedd yr iseldir yn boeth yn yr haf. Gall tymheredd cyfartalog y gaeaf amrywio o tua 0 °C (32 °F) yn yr Alpau i 12 °C (54 °F) yn Sisili, felly mae tymheredd cyfartalog yr haf yn amrywio o 20 °C (68 °F) i dros 25 °C (77 °F).
Gall gaeafau amrywio’n fawr ar draws y wlad gyda chyfnodau o oerni, niwl ac eira yn y gogledd ac amodau mwynach a brafiach yn y de. Ceir hafau poeth drwy'r Eidal benbaladr, ac eithrio ar y mynyddoedd, yn enwedig yn y de. Gall ardaloedd gogleddol a chanolog brofi stormyddmellt a tharanau o bryd i'w gilydd o'r gwanwyn i'r hydref.[36]
Cefnogodd yr Eidal ymdrechion rhyngwladol i ailadeiladu a sefydlogiIrac, ond roedd wedi tynnu ei fintai filwrol o ryw 3,200 o filwyr yn ôl erbyn 2006, gan gynnal dim ond gweithredwyr dyngarol a phersonél sifil eraill. Ym mis Awst 2006 anfonodd yr Eidal tua 2,450 o filwyr yn Libanus ar gyfer cenhadaeth cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig UNIFIL . Yr Eidal yw un o arianwyr mwyafAwdurdod Cenedlaethol Palestina, gan gyfrannu €60 miliwn yn 2013 yn unig.[37]
Mae Byddin yr Eidal, y Llynges, yr Awyrlu a'r Carabinieri gyda'i gilydd yn ffurfio Lluoedd Arfog yr Eidal, dan orchymyn yr Uchel Gyngor Amddiffyn, danlywyddiaeth Llywydd yr Eidal, fel y'i sefydlwyd gan erthygl 87 o Gyfansoddiad yr Eidal. Yn ôl erthygl 78, mae gan y Senedd yr awdurdod i ddatgan cyflwr o ryfel a breinio’r pwerau angenrheidiol yn y Llywodraeth.
Er nad yw'n gangen o'r lluoedd arfog, mae gan y Guardia di Finanza (y "Gwarchodlu Ariannol") statws milwrol ac fe'i trefnir yn eitha milwrol.[38] Ers 2005, mae'r gwasanaeth milwrol yn wirfoddol.[39] Yn 2010, roedd gan fyddin yr Eidal 293,202 o bersonél ar ddyletswydd weithredol,[40] gyda 114,778 ohonynt yn Carabinieri.[41] Fel rhan o strategaeth rhannu niwclear NATO mae'r Eidal hefyd yn cynnal 90 o fomiau niwclear B61 yr Unol Daleithiau, sydd wedi'u lleoli yng nghanolfannau awyr Ghedi ac Aviano.[42]
Cerbydau ymladd mwyaf adnabyddus byddin yr Eidalyw cerbyd ymladd milwyr traed Dardo, dinistriwr tanciau Centauro athanc Ariete, ac ymhlith ei awyrennau ceir yr hofrennydd ymosod Mangusta, yn ystod y blynyddoedd diwethaf a ddefnyddiwyd yn nheithiau'r UE, NATO a'r Cenhedloedd Unedig. Mae ganddo hefyd lawer o gerbydau arfog Leopard 1 a M113. Fe'i ffurfiwyd yn 1946 o'r hyn a oedd ar ôl o'rRegio Esercito ("y Fyddin Frenhinol", a sefydlwyd ar achlysur cyhoeddi Teyrnas yr Eidal, 1861 ) ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan ddaeth yr Eidal yn weriniaeth yn dilyn refferendwm.
Mae gan yr Eidal economi gymysg a datblygedig[43] fawr, sy'n safle trydydd mwyaf yn Ardal yrEwro a'r wythfed-fwyaf yn y byd.[44] Yn un o sylfaenwyr yG7, Ardal yrEwro a'r OECD, fe'i hystyrir yn un o genhedloedd mwyaf diwydiannol y byd ac yn wlad flaenllaw ymmyd masnach ac allforion y byd.[45][46][47] Hi oedd yr 8fed wlad o ran ansawdd bywyd uchaf yn y byd yn 2005 a'r 26ain ar y Mynegai Datblygiad Dynol. Mae'r wlad yn adnabyddus am ei busnesau creadigol ac arloesol,[48] sector amaethyddol mawr a chystadleuol[49] (y cynhyrchwr gwin mwya'r byd),[50] ac am ei sector geir dylanwadol ac o ansawdd uchel, peiriannau, bwyd, diwydiant dylunio a ffasiwn.[51][52][53]
Yr Eidal yw chweched wladgweithgynhyrchu fwya'r byd, a nodweddir gan nifer llai o gorfforaethau rhyngwladol byd-eang. Mae wedi cynhyrchu sector gweithgynhyrchu sy'n canolbwyntio'n aml ar allforio marchnad arbenigol a chynhyrchion moethus, os yw ar un ochr yn llai abl i gystadlu ar y swm, ar yr ochr arall mae'n fwy nag abl i gystadlu mewn safon.[54] Yr Eidal oedd degfed allforiwr mwya'r byd yn 2019 ac mae ei chysylltiadau agos â gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd yn gymorth sylweddol. Ei phartneriaid allforio mwyaf yn 2019 oedd yr Almaen (12%), Ffrainc (11%), a'r Unol Daleithiau (10%).[55]
MaeMilan yn ganolfan ariannol fyd-eang ac yn brifddinas ffasiwn y byd.
Mae'r diwydiant modurol yn rhan sylweddol o sector gweithgynhyrchu'r Eidal, gyda dros 144,000 o gwmnïau a bron i 485,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn yn 2015,[56] gyda chyfraniad o 8.5% iCMC yr Eidal.[57] Fiat Chrysler Automobiles neu FCA oedd yseithfed gwneuthurwr ceir mwyaf yn y byd yn y 2010au.[58] Mae gan y wlad ystod eang o gynhyrchion clodwiw, o geir dinas gryno i supercars moethus fel Maserati, Lamborghini, a Ferrari.[59] Banca Monte dei Paschi di Siena yw banc hynaf neu ail hynaf y byd sydd wedi weithredu'n ddi-dor, yn dibynnu ar y diffiniad.[60] Mae gan yr Eidal sectorgydweithredol cryf hefyd, gyda'r gyfran fwyaf o'r boblogaeth (4.5%) yn cael ei chyflogi gan gwmniau cydweithredol.[61]
Mae rhaniad cynyddol rhwng y Gogledd a'r De yn ffactor mawr mewn gwendid economaidd-gymdeithasol.[62] Gellir ei nodi gan y gwahaniaeth enfawr mewn incwm ystadegol rhwng y rhanbarthau gogleddol cyfoethog a thlodi'r de a'r bwrdeistrefi.[63] Mae'r dalaith gyfoethocaf,Alto Adige-South Tyrol, yn ennill 152% o'r CMC cenedlaethol y pen, tra bod y rhanbarth tlotaf, Calabria, yn 61%.[64] Mae'r gyfraddddiweithdra (11.1%) ychydig yn uwch na chyfartaledd Ardal yr Ewro,[65] sef 6.6% yn y Gogledd a 19.2% yn y De.[66] Mae’r gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc (31.7% ym mis Mawrth 2018) yn hynod o uchel o gymharu â safonau’r UE.[67]
Oherwydd na unwyd yr Eidal fel un wladwriaeth hyd yn gymharol ddiweddar, bu amrywiaeth mawr mewn diwylliant. Yn yr Eidal y dechreuoddy Dadeni yn Ewrop.
Bu cerddoriaeth yn elfen bwysig iawn yn niwylliant yr eidal o gyfnod cynnar. Yn yr Eidal y dyfeisiwydopera, ac mae'n parhau'n boblogaidd iawn hyd heddiw. Y tŷ opera enwocaf ywLa Scala ynMilan.
↑Gabriele Abbondanza,Italy as a Regional Power: the African Context from National Unification to the Present Day (Rome: Aracne, 2016)
↑"Operation Alba Mai be considered one of the most important instances in which Italy has acted as a regional power, taking the lead in executing a technically and politically coherent and determined strategy."
↑"The Italian Colonial Empire". All Empires. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 24 Chwefror 2012. Cyrchwyd17 Mehefin 2012.At its peak, just before WWII, the Italian Empire comprehended the territories of present time Italy, Albania, Rhodes, Dodecanese, Libya, Ethiopia, Eritrea, the majority of Somalia and the little concession of Tientsin in China
↑TheGuardia di Finanza also operates a large fleet of ships, aircraft and helicopters, enabling it to patrol Italy's waters and to eventually participate in warfare scenarios
↑"Gross domestic product (2015)"(PDF).The World Bank: World Development Indicators database. World Bank. 28 April 2017. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 1 February 2017. Cyrchwyd17 May 2017.