Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Eicon hoyw

Oddi ar Wicipedia
Yn aml, ystyrirJudy Garland fel yr eicon hoyw amlycaf.

Person hanesyddol neu enwog sy'n cael ei edmygu gan nifer yn y cymunedaulesbiaidd,hoyw,deurywiol, athrawsryweddol (LHDT) yweicon hoyw neueicon LHDT. Yn ddiweddar, mae'r term "Dykon" sy'n gyfuniad o "ddeic" (Saesneg:dyke) ac "icon" wedi cael ei dderbyn i ddisgrifio eiconau lesbiaid.[1]

Mae priodweddau eicon hoyw fel arfer yn cynnwys delwedd goegwych, cryfder mewn adfyd, neurywioldeb amwys. Gall yr eiconau hyn fod ynheterorywiol,cyfunrywiol,deurywiol neu'ndrawsrywiol; mae'n bosibl hefyd nad ydynt wedidod allan neu nad ydynt yn agored ynglŷn â'u rhywioldeb. Er bod y mwyafrif o eiconau hoyw wedi dangos eu cefnogaeth ifudiadau cymdeithasol LHDT, mae rhai wedi gwrthwynebu, gan ymgyrchu yn erbyn yr hyn a ystyriant yn agenda cyfunrywiol.

Yn draddodiadol, dyrchefir eiconau hanesyddol i statws uchel am fod eu rhywioldeb yn parhau i fod yn bwnc llosg ymysg haneswyr. Mae nifer o eiconau hoyw modern, diddanwyr benywaidd gan amlaf, wedi denu dilyniant mawr o'r gymuned hoyw yn ystod eu gyrfaoedd. Syrthia mwyafrif yr eiconau hoyw i mewn i un o ddau gategori: y cymeriad trasig, sydd weithiau'n cyflawni hunanladdiad neu'r eicon diwylliant-poblogaidd blaenllaw.

Ymysg eiconau enwog y maeSant Sebastian,Judy Garland,Bette Davis,Barbra Streisand,Shirley Bassey,Margaret Williams,[2]Cher,Janet Jackson,Gloria Gaynor,Madonna, aLady Gaga.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Euan Ferguson,Daniela's still dying for it; 16 Chwefror, 2003; Adalwyd ar 2007-02-08
  2. Jobbins, Siôn T.The Phenomenon of Welshness, 'or How many Aircraft Carriers would an independent Wales have?' (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 2011), t. 73.
PynciauLHDT
Cyfunrywioldeb
Deurywioldeb
Trawsrywedd
Pynciau eraill
Hanes
Diwylliant
Gwleidyddiaeth, cymdeithas a'r gyfraith
Meddygaeth
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Eicon_hoyw&oldid=1600276"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp