Gwaith hydroelectrigLlyn Stwlan, gerFfestiniog,Gwynedd lle cynhyrchir 360 MW o drydan o fewn eiliadau o wasgu botwm
Egni (ar ffurftrydan) wedi'i gynhyrchu o ddŵr ydyegni hydro neuegni dŵr neuhydroelectrig ac mae sawl math ar gael heddiw. Daw o ganlyniad i ddŵr yn symud mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft, dŵr yn troi olwyn y felin. Ymhlith y dulliau mwyaf poblogaidd o greu trydan, y mae hydroelectrig megis 'mynydd electrig',Llanberis lle mae dŵr y llyn yn llifo i lawr pibellau drwy rymdisgyrchiant ac yn troityrbeinau. Cynhyrchir 1728 MegaWatt (MW) o drydan yma drwy droi chwegeneradur anferthol.
Ceir dulliau eraill o symud egni o un lle i'r llall drwy egni hydro ee
Ceir hefyd ffermydd gwynt yn y môr, ffermydd megis fferm wyntNorth Hoyle gerllawPrestatyn, ond nid oes a wnelo'r rhain ddim oll ag egni hydro. Ynni gwynt a gynhyrchir o felinau gwynt ar y môr yw'r rhain.
Ym Mehefin 2015 rhoddwyd caniatâd i brosiect enfawr i harneisio ynnicarbon isel ymMae Abertawe ac a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau.[2] Saif Bae Abertawe o fewnaber afon Hafren ac amrediad llanw'r aber yw'r ail fwyaf yn y byd - gyda'r gwahaniaeth rhwng trai a llanw cymaint â 10.5 metr ar ei uchaf.[3] Lleolir y lagŵn, a'i forglawdd, i'r de o Ddoc y Frenhines - rhwng Afon Tawe a ac Afon Nedd. Disgwylir y bydd y prosiect yn cynhyrchu 250MW o drydan - digon i gyflenwi 155,000 o gartrefi, dros gyfnod o 120 o flynyddoedd.