Basilica ymMethlehem yn yLan Orllewinol ywEglwys y Geni, neu weithiauBasilica'r Geni.[a] Ceirgroto oddi fewn i'r eglwys sydd ag arwyddocâd crefyddol amlwg iGristnogion o wahanol enwadau felman geni honedigIesu Grist. Y groto yw'r safle hynaf a ddefnyddir fel addoldy Cristnogol, a'r basilica yw'r brif eglwys hynaf yn y Wlad Sanctaidd.
Comisiynwyd yr eglwys yn wreiddiol ganCystennin I,ymerawdwr Rhufain, ychydig amser ar ôl ymweliad ei famHelena âJeriwsalem a Bethlehem yn 325–326, ar y safle a ystyrid yn draddodiadol fel man geni yr Iesu.[1] Mae'n debyg bod y basilica gwreiddiol hwnnw wedi'i adeiladu rhwng 330 a 333, ac fe'i cysegrwyd ar 31 Mai 339.[1] Fe'i dinistriwyd gan dân yn ystod gwrthryfeloedd ySamariaid yn y6g, o bosibl yn529, ac adeiladwyd basilica newydd nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach gan yr Ymerawdwr BysantaiddIwstinian I (a deyrnasodd o 527 i 565). Ychwanegodd Iwstinian gyntedd a disodli'r gysegr wythochrog gyda thrawslun croesffurf wedi'i orchuddio â thri aps, ond i raddau helaeth roedd yn cadw cymeriad gwreiddiol yr adeilad, gydag atriwm a basilica yn cynnwys corff gyda phedwar ystlys.[1][2]
Mae Eglwys y Geni, er ei bod yn aros yn ddigyfnewid (fwy neu lai) ers ei ailadeiladu yn oes Iwstinian, wedi gweld nifer o atgyweiriadau ac ychwanegiadau, yn enwedig o gyfnod yCroesgadwyr, megis dau glochdy, brithwaith wal a phaentiadau (wedi'u cadw'n rhannol). Dros y canrifoedd, mae'r adeiladau o'i amgylch wedi'i ehangu, a heddiw mae'n gorchuddio oddeutu 12,000 metr sgwâr, yn cynnwys tair mynachlog wahanol: unEglwys Uniongred Roegaidd, unApostolaidd Armenaidd, ac unGatholig Rhufeinig.[3] Mae'r ddau gyntaf o'r rhain yn cynnwys tyrau cloch wedi'u hadeiladu yn ytod yr oes fodern.[4]
Cafodd y seren arian, sy'n nodi'r fan lle cafodd Crist ei eni, gydag arysgriiad Lladin, ei dwyn yn Hydref 1847 gan fynachod Groegaidd a oedd am gael gwared ar yr eitem Gatholig hon.[5] Mae rhai yn honni bod hyn yn ffactor a gyfrannodd atRyfel y Crimea yn erbynYmerodraeth Rwsia;[6] mae eraill yn honni bod y rhyfel wedi tyfu allan o'r sefyllfa Ewropeaidd ehangach.[7]
O'r pedair efengyl ganonaidd, dim ondMathew aLuc sy'n cynnig naratifau ynghylch genedigaeth yr Iesu. O'r ddau hyn, dim ond Luc sy'n cynnig manylion genedigaeth Iesu ym Methlehem. Mae Luc yn sôn am y preseb, ond nid yr ogof: "a rhoddodd [Mair] enedigaeth i'w mab cyntaf-anedig. Lapiodd ef mewn clytiau a'i roi mewn preseb, oherwydd nad oedd gwesty ar gael ar eu cyfer." (Luc 2:7.)
Yn 135, trawsnewidiodd yr YmerawdwrHadrian y safle uwchben y groto yn addoldy i'r Duw GroegaiddAdonis, cariad marwolAphrodite, duwies harddwch ac awydd Gwlad Groeg.[12] NododdSierôm yn420 fod y groto wedi'i gysegru i addoli Adonis, a bod perllan gysegredig wedi'i phlannu yno er mwyn dileu'r cof am yr Iesu o'r byd yn llwyr.[12] Mae rhai ysgolheigion modern yn anghytuno â'r ddadl hon ac yn mynnu mai cwlt Adonis-Tammuz a greodd y gysegrfa ac mai'r Cristnogion a'i cymerodd drosodd, gan ddisodli addoliad Iesu.[13] Fodd bynnag, mae'r ffaith bod y safle'n gysylltiedig â genedigaeth yr Iesu ers yr ail ganrif OC o leiaf, wedi'i ardystio gan y diwinydd Cristnogol Cynnar a'r athronydd GroegaiddOrigen oAlecsandria (185 – tua 254), a ysgrifennodd tua OC 248:
Ym Methlehem, tynnir sylw at yr ogof lle cafodd Ef ei eni, a'r preseb yn yr ogof lle cafodd Ei lapio mewn dillad cysgodi. Ac mae'r si yn y lleoedd hynny, ac ymhlith tramorwyr y Ffydd, fod Iesu yn wir wedi Ei eni yn yr ogof hon sy'n cael ei addoli a'i barchu gan y Cristnogion.[14]
Adeiladwyd y basilica cyntaf ar y safle hwn gan yr YmerawdwrCystennin I, ar safle a nodwyd gan ei fam,Helena,[15] a Makarios, esgob Jeriwsalem.[16] Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn 326[17] dan oruchwyliaeth Makarios, a ddilynodd orchmynion Cystennin, ac a gysegrwyd ar 31 Mai339[18] – sut bynnag, roedd Pererin Bordeaux wedi ymweld ag ef eisoes yn 333,[19][20] pan roedd eisoes yn cael ei ddefnyddio.[19]
Adeiladwyd yr eglwys gynnar hon fel rhan o brosiect mwy yn dilynCyngor Cyntaf Nicaea yn ystod teyrnasiad Cystennin, gyda'r nod o adeiladu eglwysi ar y safleoedd y tybiwyd ar y pryd eu bod wedi bod yn dyst i'r digwyddiadau hanfodol ym mywyd yr Iesu.[21] Roedd dyluniad y basilica yn canolbwyntio ar dair prif adran bensaernïol:[22]
Yn y pen dwyreiniol, aps mewn siâp pentagon wedi torri, yn hytrach na'r octagon llawn a gynigiwyd unwaith, yn amgylchynu llwyfan uchel gydag agoriad yn ei lawr tua 4 metr o ddimedr, a oedd yn caniatáu gweld safle'r Geni oddi tano'n uniongyrchol. Roedd llwybr cerdded gydag ystafelloedd ochr yn amgylchynu'r aps hwn.[23]
Basilica pum-ystlys yn parhau â'r aps dwyreiniol, un bae yn fyrrach nac adluniad Iwstinian sy'n dal i sefyll.[22]
Llosgwyd a dinistriwyd y strwythur yn un o wrthryfeloedd y Samariad yn naill ai 529 neu 556, ac yn yr ail ymddengys bod Iddewon wedi ymuno â'r Samariaid.[24][25][26]
Ailadeiladwyd y basilica yn ei ffurf bresennol yn y6g gan yr Ymerawdwr BysantaiddIwstinian I (527–565), ar ôl cael ei ddinistrio yn naill ai 529 neu 556.[5]
Goresgynnodd ySassaniaid (y Persiaid) o dan Khosrau IIgwlad Palesteina a goresgyn Jeriwsalem gerllaw yn 614, ond ni wnaethant ddinistrio'r adeiladau hyn. Yn ôl y chwedl, symudwyd eu cadlywydd Shahrbaraz gan y darlun uwchben mynedfa eglwys y Tri Gŵr Doeth yn gwisgo dilledynoffeiriaid Zoroastriaidd Persia, felly gorchmynnodd fod yr adeilad yn cael ei arbed.[27][28]
Cyfnod y Croesgadwr hyd at y Mamlwciad (12g – dechrau'r 16g)
Y basilica a'r tiroedd fel y cawsant eu darlunio mewn gwaith a gyhoeddwyd ym 1487
Defnyddiwyd Eglwys y Geni fel y brif eglwys goroni ar gyfer brenhinoeddy Croesgadau, o ail reolwrTeyrnas Jeriwsalem yn 1100 hyd at 1131. Adferwyd ac addurnwyd yr eglwys yn helaeth gan y Croesgadwyr, ac felly hefyd y basilica a'r tiroedd,[29] proses a barhaodd tan 1169.[30]
Credir i'r Twrciaid Khwarezmian ddistrywio Eglwys y Geni yn Ebrill1244, gan adael y to mewn cyflwr gwael.[31] Ymrwymodd Dugiaeth Burgundy adnoddau i adfer y to yn Awst1448,[32] a chyfrannodd sawl rhanbarth gyflenwadau i atgyweirio to’r Eglwys ym1480:Lloegr a gyflenwodd y plwm, DugiaethBwrgwyn a gyflenwodd y pren, aGweriniaeth Fenis ddarparodd y llafur.[33]
Cyfnod Otomanaidd, y tair canrif gyntaf (16g – 18g)
Groto'r Geni, paentiwyd gan Luigi Mayer, diwedd y 18g
Ar ddiwedd y 18g gwelodd Abbé Giovanni Mariti fod yr haenau denau o farmor wedi cael eu tynnu o waliau'r eglwys, a rhoddodd y bai ar swltan yr Aifft a nododd bod y darnau haearn a oedd wedi dal y slabiau marmor yn y waliau yn dal i fod yn weladwy.[34]
Gwnaethdaeargrynfeydd ddifrod sylweddol i Eglwys y Geni rhwng 1834 a 1837. Difrodwyd clochdy'r eglwys gan ddaeargryn Jeriwsalem 1834 a dodrefn yr ogof y mae'r eglwys wedi'i hadeiladu arni, a rhannau eraill o'i strwythur. Achoswyd mân ddifrod pellach ym 1836 a daeargryn Galilea ym 1837.[35] Fel rhan o'r atgyweiriadau a gyflawnwyd gan Eglwys Uniongred Gwlad Groeg, adeiladwyd wal rhwng corff yr eglwys a'r ystlysau, a ddefnyddiwyd ar y pryd fel marchnad, a rhan ddwyreiniol yr eglwys a oedd yn cynnwys y côr, a oedd yn caniatáu addoli i barhau yno.[5]
Camau gogleddol i Grotto yn yr 1880au
Erbyn 1846, roedd Eglwys y Geni a'r safle o'i chwmpas yn dadfeilio ac yn agored i ysbeilio. Ysbeiliwyd llawer o'r lloriau marmor mewnol yn gynnar yn hanner y 19g a throsglwyddwyd llawer ohono i'w ddefnyddio mewn adeiladau eraill o amgylch yr ardal, gan gynnwysBryn y Deml yn Jeriwsalem. Cafodd y seren arian grefyddol arwyddocaol sy'n nodi union fan geni Iesu ei dwyn yn Hydref 1847 o Groto'r Geni.[5] Roedd yr eglwys o dan reolaeth yr Ymerodraeth Otomanaidd, ond tua Nadolig 1852, gorfododdNapoleon III yr Otomaniaid i gydnabod Ffrainc fel yr "awdurdod sofran" dros safleoedd sanctaidd Cristnogol yn y Wlad Sanctaidd.
Rhoddodd Sultan Twrci seren arian arall yn y Groto, ynghyd ag arysgrif Ladin, ond roedd Ymerodraeth Rwsia'n anghytuno â'r newid mewn awdurdod. Fe ddyfynon nhw Gytundeb Küçük Kaynarca a danfonwyd byddinoedd i ardalAfon Donaw. O ganlyniad, cyhoeddodd yr Otomaniaid eu bod yn gwrthdroi eu penderfyniad cynharach, gan ymwrthod â chytundeb Ffrainc, ac adfer y Groegiaid i'r awdurdod sofran dros eglwysi'r Wlad Sanctaidd am y tro, a thrwy hynny gynyddu tensiynau lleol. Roedd hyn i gyd yn dyfnhau'r gwrthdaro rhwng ymerodraethau Rwsia a'r Otomaniaid dros reoli yr holl safleoedd sanctaidd.
Ehangwyd y dramwyfa sy'n cysylltu Ogof Sant Sierôm ac Ogof y Geni ym mis Chwefror 1964, gan ganiatáu mynediad haws i ymwelwyr. Roedd y dyn busnes Americanaidd Stanley Slotkin yn ymweld ar y pryd a phrynodd swm o'r rwbel calchfaen, mwy na miliwn o ddarnau afreolaidd tua 5 milimetr ar draws. Fe'u gwerthodd i'r cyhoedd wedi'u gorchuddio â chroesau plastig ym 1995 a gwnaeth ei ffortiwn.[36]
Yn 2012, cyfadeilad yr eglwys oedd y safle cyntaf ym Mhalesteina i gael ei restru felSafle Treftadaeth y Byd gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd, yn ei 36ain sesiwn ar 29 Mehefin.[37] Fe'i cymeradwywyd trwy bleidlais gudd o 13–6 yn y pwyllgor 21 aelod, yn ôl llefarydd ar ranUNESCO, Sue Williams,[38] ac yn dilyn ymgeisyddiaeth frys a oedd yn osgoi'r broses o aros am 18 mis ar gyfer y mwyafrif o safleoedd, er gwaethaf gwrthwynebiad yr Unol Daleithiau ac Israel.
Cymeradwywyd y safle o dan feini prawf pedwar a chwech.[39] Fe'i gosodwyd ar y Rhestr o Dreftadaeth y Byd sydd mewn Perygl rhwng 2012 a 2019, gan ei fod wedi'i ddifrodi gan ddŵr.[40][41]
Gosodwyd y basilica ar Restr Gwylio 2008 o'r 100 Safle Mwyaf Mewn Perygl gan Gronfa Henebion y Byd.
Yn 2010, cyhoeddoddAwdurdod Cenedlaethol Palesteina fod rhaglen adfer gwerth miliynau o ddoleri ar fin digwydd. Er eu bont yn Fwslimaidd, mae Palesteiniaid yn ystyried bod yr eglwys yn drysor cenedlaethol ac yn un o'u safleoedd twristiaeth yr ymwelir â hi fwyaf.[42] Mae'r ArlywyddMahmoud Abbas wedi chwarae rhan weithredol yn y prosiect, sy'n cael ei arwain gan Ziad al-Bandak. Ariennir y prosiect yn rhannol gan Balesteiniaid a'i gynnal gan dîm o arbenigwyr Palesteina a rhyngwladol.[42]
Datgelodd gweithwyr adfer o'r Eidal seithfed angel mosäig sydd wedi goroesi, yng Ngorffennaf 2016, a guddiwyd cyn hynny o dan blastr.[43] Yn ôl yr adferwr Eidalaidd Marcello Piacenti, mae'r brithwaith "wedi'i wneud o ddail tennau, tennau o aur wedi'i gosod rhwng dau blat gwydr" ac "mae wyneb, breichiau a choesau'r angel wedi eu llunio a darnau bach o gerrig."[44]
Cynllun Eglwys y Geni oEncyclopædia Britannica 1911. (1) Narthecs; (2) corff; (3) eiliau. Mae Groto'r Geni wedi'i leoli reit o dan y gangell, gyda'r seren arian yn ei phen dwyreiniol (ochr uchaf y cynllun). Mae'r gogledd i'r chwith
Canolbwynt cyfadeilad y Geni yw Groto'r Geni, ogof sy'n ymgorffori'r safle lle dywedir i'r Iesu gael ei eni.
Mae craidd yr adeiladau sy'n gysylltiedig â'r Groto yn cynnwys Eglwys y Geni ei hun, ac Eglwys Gatholig gyfagos Santes Catrin i'r gogledd ohoni.
↑Shomali, Qustandi."Church of the Nativity: History & Structure". Cyrchwyd8 April 2018.Today, the compound of the Nativity church covers an area of approximately 12,000 square meters and includes, besides the Basilica, the Latin convent in the north, the Greek convent in the south-east and the Armenian convent in the south-west. A bell-tower and sacristy were built adjoining the south-east corner of the Basilica.
↑Shomali, Qustandi."Church of the Nativity: History & Structure". Cyrchwyd8 April 2018.Today, the compound of the Nativity church covers an area of approximately 12,000 square meters and includes, besides the Basilica, the Latin convent in the north, the Greek convent in the south-east and the Armenian convent in the south-west. A bell-tower and sacristy were built adjoining the south-east corner of the Basilica.Shomali, Qustandi."Church of the Nativity: History & Structure". Retrieved8 April 2018.Today, the compound of the Nativity church covers an area of approximately 12,000 square meters and includes, besides the Basilica, the Latin convent in the north, the Greek convent in the south-east and the Armenian convent in the south-west. A bell-tower and sacristy were built adjoining the south-east corner of the Basilica.
↑Shomali, Qustandi."Church of the Nativity: History & Structure". Cyrchwyd8 April 2018.Today, the compound of the Nativity church covers an area of approximately 12,000 square meters and includes, besides the Basilica, the Latin convent in the north, the Greek convent in the south-east and the Armenian convent in the south-west. A bell-tower and sacristy were built adjoining the south-east corner of the Basilica.Shomali, Qustandi."Church of the Nativity: History & Structure". Retrieved8 April 2018.Today, the compound of the Nativity church covers an area of approximately 12,000 square meters and includes, besides the Basilica, the Latin convent in the north, the Greek convent in the south-east and the Armenian convent in the south-west. A bell-tower and sacristy were built adjoining the south-east corner of the Basilica.