| Math | eglwys gadeiriol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Nawddsant | Dewi Sant |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | canol dinas Caerdydd,Castell, Caerdydd |
| Sir | Caerdydd,Castell, Caerdydd,Cymru |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 10.2 metr |
| Cyfesurynnau | 51.481°N 3.174°W |
| Cod post | CF10 2SF |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Cysegrwyd i | Dewi Sant |
| Manylion | |
| Deunydd | bricsen |
| Esgobaeth | Archesgobaeth Caerdydd, Archesgobaeth Caerdydd-Mynyw |
CadeirlanGatholig yngNghaerdydd ywEglwys Gadeiriol Fetropolitan Dewi Sant. Fe'i lleolir ar Stryd Charles yng nghanol y ddinas. Adeiladwyd hi ym 1884–1887 fel olynydd i eglwys Gatholig fechan (hefyd wedi'i chysegru atDewi Sant) a oedd yn dyddio'n ôl i 1842. Crëwyd archesgobaeth Catholig yng Nghaerdydd ym 1916, a dyrchafwyd yr eglwys i statws cadeirlan ym 1920. Niweidiwyd yr adeilad gan fomiau yn yrAil Ryfel Byd ac fe'i hatgyweiriwyd yn y 1950au.[1]
Ym 1975 penodwyd y gadeirlan ynadeilad rhestredig Gradd II; yn ôl testun y cofrestr, "y mae, er gwaethaf canlyniadau difrod yn y rhyfel, yn enghraifft o eglwys Gatholig fawr gan benseiri pwysig yn y 19eg ganrif",[2] sefPugin & Pugin. Ffỳrm pensaernïol oedd hyn a oedd yn arbenigo mewn eglwysi Catholig; fe'i sefydlwyd gan arloeswr yrAdfywiad Gothig, A. W. N. Pugin (1812–1852); ei feibion oedd wrth y llyw pan adeiladwyd yr eglwys yng Nghaerdydd.[3]
Mae Eglwys Gadeiriol Caerdydd yn un o dair cadeirlan Gatholig yn unig yn y Deyrnas Unedig sydd ag ysgol gôr.[4]
