Edward Abbey | |
---|---|
Ganwyd | 29 Ionawr 1927 ![]() Home,Indiana ![]() |
Bu farw | 14 Mawrth 1989 ![]() Tucson ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, athronydd, awdur ysgrifau,sgriptiwr,amgylcheddwr ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Monkey Wrench Gang, Desert Solitaire ![]() |
Arddull | traethawd,Llenyddiaeth natur ![]() |
Prif ddylanwad | Aldo Leopold,Henry David Thoreau, Gary Snyder,Pyotr Kropotkin, A. B. Guthrie Jr. ![]() |
Mudiad | Amgylcheddaeth, green anarchism ![]() |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim ![]() |
Llenor acecolegwr o'rUnol Daleithiau oeddEdward Abbey (29 Ionawr1927 –14 Mawrth1989) sydd yn nodedig am ei nofelau a leolir ynNe Orllewin yr Unol Daleithiau ac am ei ysgrifau sydd yn mynegiathroniaeth amgylcheddol radicalaidd ac anarchaidd. Fe'i gelwir weithiau yn "Thoreau y De Orllewin".
Ganed ym mwrdeistrefIndiana,Pennsylvania, a chafodd ei fagu mewn pentref cyfagos o'r enw Home. Ffermwr oedd ei dad, Paul Revere Abbey. Gadawodd Edward Abbey ei gartref yn Home yn 17 oed er mwynbodio'i ffordd atheithio ar y wagen ar draws yr Unol Daleithiau, tua'r gorllewin i ddiffeithwch y Pedair Cornel (taleithiauUtah,Colorado,Arizona, aNew Mexico). Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol New Mexico ym 1951, a'i radd meistr o'r brifysgol honno ym 1956 ar bwnc "Anarchiaeth a Moesoldeb Trais". Gweithiodd yn goedwigwr ac yn wyliwr tân i'r Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol yn y 1950au a'r 1960au. Wrth ei waith, magai berthynas fynwesol â thirwedd a bywyd gwyllt rhanbarth y De Orllewin.
Ei dair nofel gyntaf oeddJonathan Troy (1954),The Brave Cowboy (1956), aFire on the Mountain (1962). Daeth yn amlwg yn sgil cyhoeddiDesert Solitaire: A Season in the Wilderness (1968), ei atgofion fel ceidwad parc yng nghefn gwlad Utah, a ystyrir yn glasur olenyddiaeth natur.
Mae ei nofel enwocaf,The Monkey Wrench Gang (1975), yn ymwneud â phedwar amgylcheddwr sydd yn ceisio dinistrio Argae Ceunant Glen, yng ngogledd Arizona, gyda bom. Disgrifiodd Abbey y llyfr hwn yn stori ddychanol, ond cafodd ei feirniadu am ddisgrifio'n fanwl sut i ddifrodi eiddo yn fwriadol. O ganlyniad iThe Monkey Wrench Gang, condemniwyd Abbey yn derfysgwr ac yn anarchydd peryglus gan gadwraethwyr sefydledig ac yn feddyliwr ysbrydoledig gan ecolegwyr y gwrthddiwylliant. Sefydlwyd y mudiad radicalaiddEarth First! ym 1980 gan griw o ymgyrchwyr ifanc a oedd yn edmygu gwaith Abbey, a'r nofel hon yn enwedig. Rhoddwyd yr enwmonkey-wrenching ar dacteg o ddefnyddio difrod bwriadol er mwyn amddiffyn yr amgylchedd.
Bu farw Edward Abbey ynTucson, Arizona, oglefyd cylchredol yn 62 oed.[1]