Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Ecosystem

Oddi ar Wicipedia

Ecosystem yw cymdeithas oorganebau mewnecoleg sy'n cynnwysplanhigion,anifeiliaid a chreaduriaid byw eraill yn ogystal a'u hamgylchedd. Fel arfer, maent yn ffurfiocadwyni a gweoedd bwydydd.

Arthur Tansley oedd y gwyddonydd cyntaf a ddefnyddiodd y termecosystem mewn traethawd ym1935, ond roeddRoy Clapham yn defnyddio'r un term ym1930 i ddisgrifo undeb creaduriaid gyda'u hamgylchedd.

Peth deinamig a chymhleth yw ecosystem ac mae egni a defnyddiau'n llifo ynddi. Mae ecosystemau mawr - er enghraifft coedwig gyfan - a bach - er enghraifft pwll. Fel arfer, mae rhwystrau felanialwch,mynyddoedd neuforoedd rhwng ecosystemau, neu mae ecosystem yn system annibynnol, fel pwll neu afon.

Mewn ecosystem, mae cydbwysedd rhwng y creaduriaid, ond mae'n bosib fod amgylchedd yn newid neu greadur newydd yn dod i'r ecosystem yn dymchwel popeth ac o ganlyniad mae'n bosib fod llawer o greaduriaid neu hyd yn oedrhywogaethau yn marw.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Ecosystem&oldid=2300681"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp