| Mae angendiweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Mewn termaucynnyrch mewnwladol crynswth marchnadol, economi 7fed mwyaf y byd oeddeconomi'r Deyrnas Unedig yn 2011. Erbyn 2016 roedd yn 5ed mwyaf.[1] Yn 2017, economi'r DU oedd ychweched fwyaf yn nhermauparedd gallu prynu (PGP) ac o fewnEwrop, hi oedd yr ail fwyaf, yn dilyn economi'rAlmaen. Mae'n gyfrifol am 4% o PGP y byd.
Dywedir fod y DU yn un o wledydd mwyaf globaleiddiedig y byd ac un o brif ganolfannau ariannol y byd yw ei phrifddinas,Llundain, sy'n dilyn dinasoedd megisEfrog Newydd,Hong Cong, aSingapôr.[2]
Yn 2015, y DU oedd 9fed allforiwr mwya'r byd a'r 6ed mewnforiwr.
Yn y 1980au, dan LywodraethMargaret Thatcher, febreifateiddwyd y mwyafrif o fentrau yn y sectorau diwydiannol a gwasanaethau oedd dan berchnogaeth y wladwriaeth a oedd wedi'ugwladoli ers y1940au. Nawr prin yw'r diwydiannau neu fusnesau a berchennir gan y DU – un enghraifft, brin, yw'rPost Brenhinol.
Yn y blynyddoedd diweddar (2017) gwelwyd y twf economaidd mwyaf yn economi y DU ers dros 150 mlynedd; mae'r economi wedi tyfu ym mhobchwarter ers 1992. Mae'n un o economïau cryfaf yr UE ydyw yn nhermauchwyddiant,cyfraddau llog, adiweithdra, sydd i gyda yn aros yn gymharol isel. O ganlyniad mae gan y Deyrnas Unedig, yn ôly Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), y seithfed lefel uchaf o CMC y pen yn yr Undeb Ewropeaidd yn nhermau paredd gallu prynu, ar ôlLwcsembwrg,Iwerddon,yr Iseldiroedd,Denmarc,Awstria, a'rFfindir. Ond, mae ganddi lefelau uwch o anghydraddoldeb incwm na nifer o wledydd Ewropeaidd eraill. Hefyd mae gan y DU y diffyg cyfrif cyfredol trydydd fwyaf yn y byd, er gwaethaf cyllidauolew eang.[angen ffynhonnell]