Mudiad a hawliai annibyniaeth iWlad y Basg oeddEuskadi Ta Askatasuna, a adnabyddir ran amlaf felETA ac a oedd unwaith yn fudiad arfog. Daeth y mudiad i ben ar 4 Mai 2018.[1]
Sefydlwyd ETA yn1959 fel mudiad oedd yn anelu at ddiogelu traddodiadau Basgaidd; yn y cyfnod hwn gwaharddiad llwyr ar unrhyw fynegiant o genedligrwydd Basgaidd, gydaFrancisco Franco a'i gyfundref unbeniaethol. Yn raddol, datblygodd y mudiad yn fudiad arfog a frwydrai dros annibyniaeth y wlad, gydag ideoleg sosialaidd i ddechrau aMarcsaidd-Leninaidd yn ddiweddarach. Daeth ETA i amlygrwydd pan laddasant y LlynghesyddLuis Carrero Blanco, oedd wedi ei nodi fel olynydd Franco yn 1973. Cynrychiolwyd adain wleidyddol y mudiad gan blaidBatasuna, a whaharddwyd ganSbaen yn 2003 gan eu bod (yn ôl Sbaen) yn codi arian tuag at ETA.
Cyhoeddodd y mudiad gadoediad yn gynnar yn2006, a dechreuwyd trafodaethau gyda llywodraeth Sbaen, ond daeth y rhain i ben wedi i aelodau o ETA ffrwydro bom ym maes awyr Barajas,Madrid yn hwyrach yn y flwyddyn.
Yn 2011, cynhaliwydCynhadledd Heddwch Aiete, ac yn dilyn hynny, cyhoeddodd ETA eu bod yn rhoi'r gorau i'w hymgyrch arfog unwaith ac am byth. Daeth y broses dad-arfogi i ben ar 8 Ebrill 2017.[2]