Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

E. O. Wilson

Oddi ar Wicipedia
E. O. Wilson
E. O. Wilson yn 2003.
Ganwyd10 Mehefin 1929 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 2021 Edit this on Wikidata
Burlington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Ymgynghorydd y doethor
  • Frank M. Carpenter Edit this on Wikidata
Galwedigaethpryfetegwr, cymdeithasegwr, nofelydd, etholegydd, hunangofiannydd, naturiaethydd, biolegydd esblygol, awdur gwyddonol, biolegydd, academydd, swolegydd, ecolegydd, myrmecolegydd, casglwr gwyddonol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amJourney to the Ants, The Ants, Sociobiology: The New Synthesis Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadWilliam Morton Wheeler Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Pulitzer am Ysgrifennu Ffeithiol, Cyffredinol, Gwobr Pulitzer am Ysgrifennu Ffeithiol, Cyffredinol, dyneiddiwr, Gwobr William Procter am Gyflawniad Gwyddonol, Gwobr Tyler am Cyflawniad Amgylcheddol, Gwobr Carl Sagan am Addysgu'r Cyhoedd mewn gwyddoniaeth, Medal Canmlynedd Havard, Gwobr Ryngwladol y Brenin Faisal mewn Gwyddoniaeth, Gwobr TED, Gwobr Ryngwladol am Fioleg, Gwobr Kistler, Medal Genedalethol Gwyddoniaeth, Gwobr Ryngwladol Catalwnia, Gwobr Nierenberg, Gwobr Cosmos Rhyngwladol, Gwobr Ecolegydd o Fri, ECI Prize, Medal Trichanrif Linnean, Gwobr Llyfr y Byd Naturiol, Gwobr Sefydliad 'Frontiers of Knowledge' BBVA, Audubon Medal, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Medal Ryngwladol Kew, Gwobr Heartland, Medal Hubbard, Fellow of the Ecological Society of America, Crafoord Prize in Biosciences, Cymrawd y Pwyllgor Ymchwiliad Sgeptig, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Gwobr Llyfr y Byd Naturiol, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Gwobr Leidy, Golden Plate Award, Gwobr Lewis Thomas, Gwobr Eryr y Sgowtiaid Nodedig, Addison Emery Verrill Medal, Medal Thomas Jefferson mewn Pensaernïaeth, Gwobr Phi Beta Kappa mewn Gwyddoniaeth, Global Environmental Citizen Award, Gwobr Newcomb Cleveland, Harper Lee Award, Honorary Fellow of the Zoological Society of London Edit this on Wikidata

Biolegydd anaturiaethwr o'rUnol Daleithiau oeddEdward Osborne Wilson (10 Mehefin192926 Rhagfyr2021) a fu'n nodedig felmorgrugegwr penna'r byd yn ogystal ag awdur poblogaidd ar bynciau gwyddonol a lladmerydd blaenllaw drosfioleg gymdeithasol.

Ganed ef ynBirmingham, Alabama, ac astudiodd fioleg ym Mhrifysgol Alabama, gan dderbyn ei radd baglor yn y gwyddorau ym 1949 a'i radd meistr ym 1950. Wedi iddo ennill ei ddoethuriaeth oBrifysgol Harvard ym 1955, bu'n aelod o gyfadrannau bioleg aswoleg Harvard o 1956 i 1976. Ar anterth ei yrfa yn Harvard, fe'i penodwyd i gadair academaidd Athro Gwyddoniaeth Frank B. Baird (1976–94), Athro'r Gwyddorau Mellon (1990–93), ac Athro Prifysgol Pellegrino (1994–97). Wrth ymddeol, fe'i enwyd yn Athro Emeritws Prifysgol Pellegrino o 1997 ymlaen. Yn ogystal, gwasanaethodd Wilson yn guradurentomoleg i Amgueddfa Swoleg Gymharol y brifysgol o 1973 i 1997.[1]

Ar gychwyn ei yrfa academaidd, cyflawnodd Wilson ddadansoddiad tacsonomig oLasius,genws oforgrug sydd yn hoff o gynefinoedd llaith. Cydweithiodd â William L. Brown i ddatblygu cysyniad "dadleoliad cymeriad", sef proses o boblogaethau o ddwy rywogaeth agos, ar ôl dod i gysylltiad â'i gilydd am y tro cyntaf, yn mynd trwy wahaniaethau esblygiadol cyflym er mwyn lleihau'r siawns o gystadleuaeth a chroesi rhyngddynt. Byddai Wilson yn darganfod sawl ffaith bwysig am forgrug, gan gynnwys eu dull o gyfathrebu drwy gyfrwngfferomonau, a damcaniaeth ycylch tacson, sydd yn dal bod cysylltiad rhwng ffurfiant a gwasgariad rhywogaethau â'u cynefinoedd. Ym 1971 cyhoeddodd ei gyfrol awdurdodol am forgrug a phryfed cymdeithasol eraill,The Insect Societies.

Bu farw ynBurlington, Massachusetts, yn 92 oed.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg) E. O. Wilson. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Ionawr 2022.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=E._O._Wilson&oldid=12930831"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp