Ffordd o ysgrifennu ac anfon negeseuon yn electronaidd ywe-bost.
Mae e-bost wedi newid y ffordd mae pobl yn cyfarthrebu; dros gyfnod o ugain mlynedd mae'r nifer o bobl sy'n cyfathrebu trwy lythyron wedi lleihau ac mae mwy-a-mwy o bobl yn defnyddio e-bost i gyfarthrebu erbyn hyn.
Mae wedi'i seilio ar ySimple Mail Transfer Protocol sy'n galluogi'rcyfrifiaduron i gyfathrebu a'i gilydd drosrwydwaith neu system rhwydweithiol. Ceir system mewnol y 'mewnrwyd' neu'rintranet gan gwmniau, hefyd i yrru negeseuon e-bost o'r naill gyfrifiadur i'r llall, weithiau wedi'u creu / addasu gan y cwmni.
Y niwsans mwyaf ynghylch yr e-bost ydy ydy'r cam-ddefnydd a wneir gan rhai pobol drwy yrru e-byst nad oes mo'u gofyn na'u hangen.Sbam ydy'r gair am y rhain. Ar adegau fe ddefnyddir spam i dargedu cwmniau neu gyrff eraill er mwyn creu hafoc, neu er mwyn ceisio dymchwel eu system gyfrifiadurol. Gall spam hefyd gynnwys 'attachemnts' megisfirws er mwyn creu mwy o niwsans. I rwystro hyn, ceirmeddalweddgwrth-firws a ffiltrau e-bost i atal neu roi'r spam mewnquarantine.
Fe grewyd yr e-bost ychydig cyn yrhyngrwyd ac yn offeryn hanfodol i greu'r rhyngrwyd.Dangosodd yMITeiCompatible Time-Sharing System (CTSS) yn 1961.[1]
Roedd hyn yn galluogi nifer o ddefnyddwyr ar yr un pryd i fewngofnodi ar yr un pryd i system wedi'i osod ar gyfrifiaduron IBM7094[2]o gyfrifiaduron annibynnol a chadw (safio) ffeiliau ar ddisg.
Dechreuodd yr e-bost yn 1965 fel dull i ddefnyddwyr ranu cyfrifiadurmainframe ond mae hi'n amhosibl roi dyddiad ar y defnydd cyntaf ohono. Enwau rhai o'r cwmniau a greodd systemau cynharaf o e-byst oedd: yQ32 ganSystem Development Corporation a CTSS gan gwmniMIT. Yn y 1970au cynnar, datblygoddRay Tomlinson feddalwedd e-bost ar rwydwaith yr ARPAnet, rhag-flaenydd y Rhyngrwyd, tra'n gweithio gyda cwmni technoleg rhwydweithio Bolt, Beranek and Newman. Er mwyn gwahanu enw'r defnyddiwr ac enw'r cyfrifiadur, defnyddiodd y symbol @, sy'n parhau o hyd ar system ebost y Rhyngrwyd.
Ers2005 mae'r safonRFC 2822 yn safonIETF a'r MIME RFC yn safonau drafft o'r enw IETF[3]. Y dogfennau hyn yw dogfennau safoni de facto e-bost y rhyngrwyd.
Mae gan pob e-bost ddwy ran:
Y Pen - gyda rhanau megis:summary, sender, receiver, a gwybodaeth arall ynghylch yr e-bost ei hun
Y Corff - sef y neges ar ffurf testun a all hefyd gynnwys llofnod ar ei ddiwedd.