Bod dynolbenywaidd aeddfed ywdynes neufenyw (woman yn Saesneg) (mewn cyferbyniaeth âdyn) ac mae'n cyfeirio at yr oedolyn yn unig. Mae'n tarddu o'r gairdyn a olygai'n wreiddiol ‘bod dynol’. Lluosog y gairdynes ywmerched neuwragedd.
Benywdod yw'r cyfnod ym mywyd y ddynes ar ôl iddi fynd drwyblentyndod,glasoed allencyndod. Mae gan wahanol wledyddddeddfau gwahanol, ond ystyrir yn aml 18 oed y llawn oed (yr oed pan ddaw person oedolyn cyfreithiol).
Defnyddir y geiriauhogan,merch ageneth (ll.genod) i gyfeirio nid yn unig at blentyn benyw neu lances yn gyffredinol, ond hefyd at ddynes weithiau. Er enghraifft, nid pobl ifanc yn unig ydyw aelodau Merched y Wawr!
Ceir yn ogystal y termgwraig i ddynodi dynes briod,hen ferch (hyfedhen lances) i ddynodi dynes ddi-briod dros yr oed confensiynol i briodi agweddw i ddynodi gwraig sydd wedi colli ei gŵr.