Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Dydd Sadwrn

Oddi ar Wicipedia
Satwrnws, Caravaggio, 16ed ganrif

Maedydd Sadwrn yn ddiwrnod o'rwythnos. Mae gwahanol rannau o'r byd yn ei ystyried yn chweched neu'n seithfed diwrnod yr wythnos. Cafodd ei enwi ar ôlSadwrn, un o dduwiau'rRhufeiniaid. MaeIddewaeth yn clustnodi'r Sadwrn yn ddydd sanctaidd oherwydd dyna'r diwrnod (yn ôl eu crefydd) yr ymlacioddDuw ar ôl creu'rbydysawd.

Termau'r chwarelwyr a'r glowyr

[golygu |golygu cod]
  • 'Sadwrn bownti' - telid bonws am glirio rwbel yn y chwareli (Gogledd)
  • 'Sadwrn cyfrif' - telid cyflog pythefnos neu fis ar y Sadwrn (De a Gogledd)
  • 'Sadwrn cyfrif mawr' - cyffelyb i'r uchod (Gogledd)
  • 'Sadwrn du' - y Sadwrn ar ôl y Sadwrn cyfri, pan na cheid cyflog (Morgannwg, Gogledd-ddwyrain)
  • 'Sadwrn pae' ('Sadwrn tâl') = Sadwrn cyfrif
  • 'Sadwrn syb' ('Sadwrn sist') - Sadyrnau y telid benthyciad i aros pryd tan y Sadwrn cyfrif nesaf (Gogledd)

Ffynhonnell:Geiriadur Prifysgol Cymru, tud. 3156

Dyddiau'r wythnos
Dydd Llun |Dydd Mawrth |Dydd Mercher |Dydd Iau |Dydd Gwener |Dydd Sadwrn |Dydd Sul


Eginyn erthygl sydd uchod amy calendr neuamser. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Chwiliwch amDydd Sadwrn
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Dydd_Sadwrn&oldid=2129887"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp