Gêm chwarae-rôl ffantasi a ddyfeisiwyd yn wreiddiol gan Gary Gygax a Dave Arneson ywDungeons & Dragons ("Daeardai a Dreigiau").
Daeth y pedwerydd argraffiad o'r gêm allan ym Mehefin 2008. Yn yr argraffiad hwnnw mae'r rheolau wedi cael eu symleiddio ond mae yna lawer o bethau newydd hefyd. Y tri llyfr rheolau craidd ywLlawlyfr y Chwaraewr (Player's Handbook),Llawlyfr yr Angenfilod (Monster Manual) acArweinlyfr Meistr y Daeardy (Dungeon Master Guide).
Chwaraeir y gêm gyda disiau (d4, d6, d8, d10, d12 a d20), dalennau cymeriadau a llyfrau. Mae llawer o bobl hefyd yn defnyddio bychanigion (neu ffigurynnau bychain) a teils daeardai.