Dinas yn nhalaith ffederalNordrhein-Westfalen yng ngorllewinyr Almaen ywDuisburg. Saif Duisberg gerllaw'r fan lle maeafon Ruhr yn llifo i mewn iafon Rhein. Gyda phoblogaeth o 495,668 yn2007, saif yn drydydd ymysg dinasoeddArdal y Ruhr o ran poblogaeth.
Yn y cyfnod Rhufeinig, adwaenid Duisberg felDispargum. Ceir cofnod i'r ddinas gael ei hanrheithio gan yLlychlynwyr yn883. Yn wreiddiol roedd y ddinas yn union ar lan afon Rhein, ond tua1200 newidiodd yr afon ei chwrs ychydig, a phenderfynwyd adeiladu harbwr newydd ar yr afon. Harbwr Duisburg yw'r harbwr mwyaf yn Ewrop nad yw ger y môr.
Roedd Duisburg yn adnabyddus am ei gweithfeydd dur a'i diwydiant glo, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae'r rhan fwyaf o'r pyllau glo wedi cau. Bu'r cartograffyddGerardus Mercator yn gweithio yma o 1552 hyd 1594, ac mae wedi ei gladdu yma.