Du Fu |
---|
 |
Ganwyd | 杜甫  712  Gongyi  |
---|
Bu farw | 770  Tanzhou  |
---|
Dinasyddiaeth | Brenhinllin Tang  |
---|
Galwedigaeth | bardd,llenor, caligraffydd  |
---|
Cartre'r teulu | Xiangyang  |
---|
Tad | Du Xian  |
---|
Plant | Du Zongwen, Du Zongwu, Du Siye  |
---|
Llinach | Du clan of Jingzhao  |
---|
RoeddDu Fu (Tsieineeg: 杜甫; pinyin: Dù Fǔ; Wade-Giles: Tu Fu, 712–770) ynfarddTsieinaidd blaenllaw yn y Brenhinlin Tang. Ynghyd â Li Bai (Li Po), fe'i ystyrir yn aml fel y bardd gorau ymysg beirdd Tsieina.[1] Ei brif uchelgais oedd i wasanaethu ei wlad fel gwas sifil llwyddiannus, ond ni fedrodd wneud hynny. Dinistriwyd ei fywyd, a'r wlad gyfan, ganWrthryfel An Lushan yn755, ac roedd 15 mlynedd olaf ei fywyd yn gyfnod o drafferthion a gwrthdaro parhaus.
I ddechrau, nid oedd yn adnabyddus i lenorion eraill, ond daeth ei weithiau yn hynod ddylanwadol yn niwylliant llenyddol Tsieina aJapan. O'i holl weithiau barddonol, cadwyd yn agos i 1,500 o'i gerddi ar hyd y canrifoedd. Mae ef wedi cael ei alw'n Fardd-Hanesyddol gan feirniaid llenyddol Tsieniaidd, tra bod ei ystod o weithiau wedi ei alluogi i gael ei gyflwyno i ddarllenwyr Gorllewinol fel y "Virgil,Horas,Ofydd,Shakespeare,Milton,Burns,Wordsworth,Béranger,Hugo neu'rBaudelaire Tsieniaidd".[2]
- ↑Ebrey, Walthall, Palais, (2006). East Asia: A Cultural, Social, and Political History. Boston: Houghton Mifflin Company. td.103.
- ↑Hung, William; (1952). Tu Fu: China's Greatest Poet. Harvard University Press.ISBN 0-7581-4322-2.