Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

DreamWorks Pictures

Oddi ar Wicipedia
DreamWorks Pictures
Math
cwmni cynhyrchu ffilmiau
Diwydiantcreu ffilmiau
Sefydlwyd12 Hydref 1994
SefydlyddSteven Spielberg
PencadlysUniversal City
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
Cynnyrchmeddalwedd
Nifer a gyflogir
80 (2012)
Lle ffurfioUniversal City
Gwefanhttps://www.dreamworks.com/ Edit this on Wikidata

Cwmni dosbarthuffilmiau Americanaidd ywDreamWorks Pictures, sy'n eiddo iAmblin Partners. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ar 12 Hydref 1994 fel stiwdio ffilm actio ganSteven Spielberg,Jeffrey Katzenberg, aDavid Geffen. Dosbarthodd y stiwdio ei ffilmiau ei hun a a rhai a gynhyrchwyd gan eraill.

Yn 2005 cytunodd y sylfaenwyr i werthu'r stiwdio iViacom, sy'n rhiant iParamount Pictures. Cwblhawyd y gwerthiant ym mis Chwefror 2006 ("DW Studios" yw enw'r fersiwn hon bellach). Yn 2008, cyhoeddodd DreamWorks ei fwriad i ddod â’i bartneriaeth â Paramount i ben a gwnaeth gytundeb i gynhyrchu ffilmiau gyda Grŵp Reliance Anil Dhirubhai Ambani India, a chafodd DreamWorks Pictures ei ail-greu fel endid annibynnol. Y flwyddyn ganlynol, ymrwymodd DreamWorks i gytundeb dosbarthu gydaWalt Disney Studios Motion Pictures, lle byddai Disney yn dosbarthu ffilmiau DreamWorks trwyTouchstone Pictures; parhaodd y drefn tan 2016. Ers 2016, maeUniversal Pictures wedi dosbarthu a marchnata'r ffilmiau a gynhyrchir gan DreamWorks Pictures. Ar hyn o bryd, lleolir swyddfedd DreamWorks ynUniversal Studios Hollywood.

Mae DreamWorks Pictures yn wahanol iDreamWorks Animation, ei hen adran animeiddio a gafodd ei ddeillio yn 2004 ac a ddaeth yn is-gwmni iNBCUniversal yn 2016. Mae cwmni Spielberg yn parhau i ddefnyddio nodau masnach gwreiddiol DreamWorks dan drwydded ganDreamWorks Animation.

Eginyn erthygl sydd uchod amsinema'r Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=DreamWorks_Pictures&oldid=11583931"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp