Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Diwylliant Cymru

Oddi ar Wicipedia
Diwylliant Cymru
Cerddoriaeth
WiciBrosiect Cymru

Dylanwadwyd arddiwylliant Cymru gan lu o bethau: cenedl, iaith, crefydd, a daearyddiaeth. Diwylliant arbennig y Cymry Cymraeg ywdiwylliant Cymraeg. Mae'n rhan hanfodol o ddiwylliant Cymru ond hefyd yn rhan o hanesY Wladfa ym Mhatagonia, a chymunedau eraill yn y byd sy'n Gymraeg eu hiaith.

Y diwylliant gwerin a thraddodiadol

[golygu |golygu cod]

Nodir diwylliant traddodiadol Cymru gan etifeddiaeth y Celtiaid wedi ei chyfuno âChristnogaeth, hen chwedlau a straeon sydd wedi ymgynefino â'r llên gwerin a'r traddodiad llenyddol, a bywyd y werin yn ycefn gwlad.

Mytholeg a'r hen grefydd

[golygu |golygu cod]
Prif:Mytholeg Gymreig aEglwys Geltaidd

Y deunyddmytholegol y gwelir ei olion yn llenyddiaeth gynnar a chanoloesol Cymru a hefyd, i ryw raddau, yn ei chwedlau gwerin yw mytholeg Gymreig. Mae'n rhan o draddodiad hynafol Cymru ond mae'n perthyn hefyd i fyd ehangachmytholeg Geltaidd a mytholeg ryngwladol. Ceir y deunydd hwn mewn sawl ffynhonnell, yn gerddi cynnar (ynLlyfr Taliesin, er enghraifft), yn chwedlau Cymraeg cynhenid yr Oesoedd Canol (yn enwedig ynCulhwch ac Olwen aPedair Cainc y Mabinogi), mewn cyfeiriadau yng ngwaithBeirdd y Tywysogion aBeirdd yr Uchelwyr, yn y casgliad o ddeunydd mnemonig a elwirTrioedd Ynys Prydain, ac mewn chwedlau gwerin, diweddar yn eu ffurf bresennol ond sydd o darddiad hynafol.

Llên gwerin

[golygu |golygu cod]
Prif:Llên gwerin Cymru

Maellên gwerin Cymru yn enw cyfleus am y corff amrywiol o chwedlau, traddodiadau, coelion ac arferion poblogaidd sy'n rhan bwysig o etifeddiaeth ddiwylliannol y wlad. Mae Cymru yn un o'r gwledydd Celtaidd a cheir elfennau yn ei llên gwerin sy'n gyffredin i'r gwledydd hynny. Ceir yn ogystal nifer o elfennau a elwir yn "fotiffau llên gwerin rhyngwladol" ac sydd i'w gweld mewn sawl diwylliant arall. Yn ogystal wrth gwrs mae digon o nodweddion cynhenid Gymreig yn y gwaddol diwylliannol a elwir heddiw yn llên gwerin Cymru.

Gwyliau

[golygu |golygu cod]

Nawddsant Cymru ydyDewi Sant. DethlirDydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth, a chred rhai pobl y dylai fod yn wyliau cyhoeddus yng Nghymru.[1] Mae'r 16 Medi (y diwrnod pan ddechreuodd gwrthryfelOwain Glyndŵr) a'r 11 Rhagfyr (marwolaethLlywelyn ein Llyw Olaf) wedi cael eu hawgrymu fel diwrnodau posib eraill ar gyfer gwyliau cyhoeddus.

Y gwyliau tymhorol traddodiadol yng Nghymru yw:

Traddodiadau ac arferion lleol

[golygu |golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.

Y celfyddydau

[golygu |golygu cod]
Prif:Y celfyddydau yng Nghymru

Cerddoriaeth

[golygu |golygu cod]
Prif:Cerddoriaeth Cymru

Mae gan gerddoriaeth Cymru hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y 18g pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc. Cyfeirir at Gymru'n aml fel "Gwlad y Gân", yn ystrydebol braidd.

Llenyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Prif:Llenyddiaeth Gymraeg aLlenyddiaeth Saesneg Cymru

Ac eithrio llenyddiaeth glasurol, llenyddiaeth Gymraeg yw'r hynaf yn Ewrop. Mae gan y Gymraeg draddodiad cyfoethog o lenyddiaeth sy'n dyddio o'r 6g hyd heddiw. Oherwydd eu bod yn ysgrifennu mewn iaith â mwy o bobl yn ei deall, mae ysgrifenwyr llenyddiaeth Saesneg Cymru yn aml wedi llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd llawer mwy na'u cyd-wladwyr sy'n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn unig. Dwy enghraifft adnabyddus o hyn yw'r beirdd byd-enwogDylan Thomas acR. S. Thomas.

Celf

[golygu |golygu cod]
Prif:Celf Cymru

Er i lenyddiaeth a cherddoriaeth y wlad ddangos sawl traddodiad unigryw, maecelf Cymru i raddau helaeth wedi dibynnu ar yr un ffurfiau ac arddulliau a geir yng ngweldydd eraill Prydain. Sonir yn aml am gelf Cymru, neu gelf yng Nghymru, i gynnwys y gweithiau niferus a wnaed gan arlunwyr estron yn y wlad, yn enwedig tirluniau.

Dawns

[golygu |golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.

Theatr

[golygu |golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.

Diwylliant poblogaidd

[golygu |golygu cod]

Cerddoriaeth boblogaidd

[golygu |golygu cod]

Mae Cymru'n enwog am eu cerddorion cyfoes felManic Street Preachers,Catatonia,Tom Jones, aCharlotte Church.

Ffilm

[golygu |golygu cod]
Prif:Ffilm yng Nghymru

Mae ffilm yng Nghymru, ai mewn Cymraeg neu Saesneg, wedi bod yn symbol o ddiwylliant y wlad ers blynyddoedd, ac wedi hyrwyddo enw Cymru ar draws y byd. Mae nifer o actorion a chyfarwyddwyr enwog wedi dod o Gymru, yn cynnwysRichard Burton aPeter Greenaway.

Teledu

[golygu |golygu cod]
Prif:Teledu yng Nghymru

Y prif ddarlledwyr teledu yng Nghymru ywBBC Cymru,S4C, acITV Wales. Yn ddiweddar mae S4C wedi cynhyrchu sawl cyfres ddrama Gymraeg o fri, gan gynnwysY Gwyll,Byw Celwydd, a35 Diwrnod.

Chwaraeon

[golygu |golygu cod]
Prif:Chwaraeon yng Nghymru

Dywedir yn aml tawrygbi'r undeb yw mabolgamp genedlaethol Cymru, er maepêl-droed yn denu mwy o wylwyr i'r maes. Bu'r Cymry hefyd yn dangos eu medr ynsnwcer,dartiau,golff,paffio, acathletau. Ymhlith yr hen chwaraeon bucnapan,bando,pêl-droed traddodiadol, a chwarae pêl.

Coginiaeth

[golygu |golygu cod]
Prif:Coginiaeth Cymru

Mae bwydydd Cymreig yn cynnwyscawl,teisen gri,bara lawr,bara brith,selsig Morgannwg, aWelsh rarebit.

Symbolau cenedlaethol

[golygu |golygu cod]

Mae'n debyg taw'rDdraig Goch, sy'n ymddangos ar yfaner genedlaethol, yw symbol amlycaf Cymru. Ceir hefyd ygenhinen Bedr a'rgenhinen.Hen Wlad fy Nhadau yw'ranthem genedlaethol.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 'St David's Day holiday would promote Wales' WalesOnline. 27-02-2007. Adalwyd ar 10-07-2010
Cyffredinol
Rhanbarthau a lleoliadau
Tirffurfiau
Bywyd gwyllt
Economi
Demograffeg
Cymdeithas
Diwylliant
gw  sg  go
Diwylliant Ewrop
Gwladwriaethau sofranaidd
Gwladwriaethau trawsgyfandirol
Tiriogaethau dibynnol,
ardaloedd ymreolaethol,
athiriogaethau eraill
Dynodirgwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol ganlythrennau italig.
1 YnNe Orllewin Asia yn gyfan gwbwl. 2 Yn rhannol neu'n gyfan gwbwl yn Asia, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 3 Gyda'r mwyafrif o'i thir yn Asia. 4 ArBlât Affrica5 ArBlât Gogledd America.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Diwylliant_Cymru&oldid=12434286"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp