Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Disgo

Oddi ar Wicipedia

Maedisgo fel arfer yn fath ogerddoriaethddawns, sy'n groes rhwngfunk asoul gyda phatrwm rhythmig gyda rhwng 110 a 136 curiad y munud. Gall disgo hefyd gyfeirio atglwb lle mae pobl yn dawnsio i gerddoriaeth. Ceir disgos symudol hefyd, lle chwaraeir cerddoriaeth gyda system sain a ellir ei chludo er mwyn cynnal dawns mewn unrhyw fan.

Hanes Disgo

[golygu |golygu cod]

Agorwyd y disgo cyntaf ym1941, yn La Discothèque, Rue de la Huchette,Paris.[angen ffynhonnell] O amgylch1950-1951, agorwyd llawer o glybiau disgo ymMharis, hynny yw, clybiau a oedd yn chwarae recordiau yn hytrach naseindorf ddawns.

Agorwyd y disgo cyntaf yng Nghymru ym1964;[angen ffynhonnell] yCardiff Discothèque Club, Stryd Siarl,Caerdydd. Roedd llawer o neuaddau dawnsio yn chwarae recordiau neu yn cynnal "disgo," ond hwn oedd y clwb disgo cyntaf yng Nghymru. Roedden nhw'n chwarae cerddoriaeth felSoul,Ska, acR&B.

Ym1965, fe ddaeth yn ffasiynol i ddawnsio'rGo-go. Roedd dawns y Go-go yn addas iawn i'r disgo gan ei fod yn rhoi cyfle i'r dawnswyr fflawntio arddangos eu hunain. Doedd dim recordiau wedi cael eu gwneud yn arbennig i chwarae mewn disgo tan1973. Roedd recordiau addas yn bodoli, felShaft (1971) gan Isaac Hayes. Byddai rhai yn dweud maiSoul Makossa (1972) gan Manu Dibango oedd y record ddisgo gyntaf.

Oes y Disgo

[golygu |golygu cod]

1975 oedd y flwyddyn pan ddaeth disgo yn boblogaidd gyda recordiau felThe Hustle gan Van McCoy,Love to Love You Baby gan Donna Summer, aNever Can Say Goodbye gan Gloria Gaynor. CafoddOes y Disgo (1977 - 1979) wthiad bach ym1977 gan y ffilm "Saturday Night Fever," ac yn1979 gan "The Bitch."

Datblygiadau diweddarach

[golygu |golygu cod]

Yn yr80au, fe ddatblygoddHouse aTechno o gerddoriaeth ddisgo.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Disgo&oldid=13044834"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp