Dione yw'r fwyaf dwys o loerennau Sadwrn (ac eithrioTitan: cynyddir dwysedd Titan gan wasgedd dwysterol). Mae Dione wedi ei chyfansoddi'n bennaf ganiâdŵr ond rhaid iddi hefyd gynnwys cryn dipyn o ddeunydd mwy dwys fel craig silicaidd.
Mae Dione yn debyg iawn i'r lloerenRhea, er bod Rhea yn fwy. Mae gan ill dwy gyfansoddiadau tebyg, nodweddion albedo (nodweddion tywyll neu rai golau ar yr arwyneb sydd ddim o reidrwydd yn nodweddion daearyddol neu dopograffig) a thirweddau amrywiol. Mae'r ddwy loeren yn cylchdroi'n gydamserol (hynny yw: bydd yr un hemisffer yn wynebu Sadwrn trwy'r amser, fel mae'r un hemisffer o'rLleuad bob amser yn wynebu'r Ddaear. Bydd yr un hemisffer bob amser yn wynebu cyfeiriad symudiad y lloeren -yr hemisffer arweiniol- tra bo'r hemisffer arall -yr hemisffer llusgol- bob amser yn wynebu'r tu ôl) ac mae ganddynt hemisfferau arweiniol sydd yn wahanol iawn i'w hemisfferau llusgol.
Ar hemisffer llusgol Dione ceir rhwydwaith o resi disglair ar gefndir tywyll a cheir ychydig iawn ograterau gweladwy.
Mae ffotograffau a dynnwyd gan y chwiliedyddCassini yn2004 yn dangos bod y rhesi'n rhwydwaith cymhleth o doriadau tectonig sydd yn iau na'r rhan fwyaf o'r craterau.
Ar hemisffer arweiniol Dione ceir craterau ym mhobman ac mae'r cefndir yn ddisglair.
MaeHelene ynbwynt Lagrange arweiniol i Ddione. Mae'r lloeren fachPolydeuces, a ddarganfuwyd gan y chwiliedydd Cassini yn2004, yn bwynt Lagrange llusgol i Ddione.