Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Diod feddwol

Oddi ar Wicipedia
Rhai diodydd alcoholig traddodiadol

Diod sy'n cynnwysethanol (a adwaenir yn fwy cyffredin felalcohol) ywdiod feddwol. Weithiau caiff diod feddwol ei galw'nddiod alcoholaidd neu'nddiod gadarn. Rhennir diodydd meddwol i mewn i dri prif gategori:cwrw,gwinoedd agwirodydd.

Yfir diodydd meddwol yn y mwyafrif o wledydd y byd. Mae gan bob cenedl ddeddfau sy'n rheoli'r modd y cânt eu cynhyrchu, gwerthu a'u hyfed. Mae'r cyfreithiau hyn yn nodi'r oed y gall person yfed neu brynu'r diodydd hyn yn gyfreithlon. Amrywia'r oed hyn rhwng 16 a 25 mlwydd oed, yn dibynnu ar y genedl ac ar y math o ddiod. Gyda'r mwyafrif o wledydd, yr oed cyfreithiol i brynu ac yfed alcohol yw 18 mlwydd oed.[1]

Gwelir alcohol yn cael ei gynhyrchu a'i yfed yn y mwyafrif o ddiwylliannau'r byd, o bobloeddhela a chasglu igenhedloedd-wladwriaeth.[2] Yn aml, mae diodydd meddwol yn chwarae rhan bwysig mewn digwyddiadau cymdeithasol y diwylliannau hyn. Mewn nifer o ddiwylliannau, maeyfed yn chwarae rôl allweddol mewn rhyngweithio cymdeithasol - oherwydd effeithiau niwrolegol alcohol yn bennaf.

Hanes

[golygu |golygu cod]

Cynhyrchwyd diodydd alcoholaidd yn yr Henfyd am resymau ymarferol ac nid, i gychwyn, er mwyn meddwi arnynt. Mae alcohol yn atalbacteria rhag tyfu mewn diod, ac felly yn eu cadw rhag mynd yn ddrwg. Cafodd y diodydd meddwol hynaf euheplesu, ac mae'n debyg mae'rBabiloniaid hynafol oedd y bobl gyntaf i wneud hynny. Darganfu llechi Babilonaidd sydd yn disgrifio'r broses o fragu cwrw ohaidd. Yrhen Eifftiaid oedd y cyntaf i wneud gwin, wedi iddynt ganfod bodeplesu sudd y grawnwin yn ei gadw rhag difetha. Mewn rhai llefydd, roedd yfed diodydd eplesedig yn fwy diogel na llyncu dŵr y ffynhonnau amhur.

Yn sgil cwympyr Ymerodraeth Rufeinig, cedwid cyfrinachau eplesu gan ymynachlogydd er mwyn cynhyrchu gwin ar gyfery cymun. Ymledodd bragdai agwinllannoedd ar draws Ewrop yn yr Oesoedd Canol, ac erbyn oesy Dadeni roedd urddau crefft yn rheoli'r fasnach gwrw a'r fasnach win.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Minimum Age Limits WorldwideArchifwyd 2009-08-27 yn yPeiriant Wayback. Adalwyd ar 2009-09-20 International Center for Alcohol Policies
  2. Volume of World Beer Production European Beer Guide. Adalwyd ar 2006-10-17
Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch amdiod feddwol
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Diod_feddwol&oldid=12902638"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp