![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Mawddwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.71944°N 3.69083°W ![]() |
Cod OS | SH857148 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref yngcymunedMawddwy yn ne-ddwyrainGwynedd ywDinas Mawddwy[1][2] ( ynganiad ). Saif fymryn oddi ar y fforddA470, lle mae'r ffordd fechan i bentrefLlanuwchllyn yn gadael yr A470 i ddringo drosFwlch y Groes, y bwlch uchaf yng Nghymru sydd a ffordd fodur drosto. O'r pentref mae'r ffordd yma yn arwain i'r gogledd trwyGwm Cywarch i gyfeiriadAran Fawddwy. Mae'r pentref gerllawAfon Dyfi. Daw'r enw oddi wrth hen gwmwdMawddwy, oedd ar un adeg yn deyrnas annibynnol.
Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf reilffordd, arReilffordd Mawddwy oedd yn gwasanaethu chwareli llechi ymMinllyn acAberangell. Yn yr ardal yma yr oeddGwylliaid Cochion Mawddwy yn byw, ac yn Nugoed Mawddwy heb fod ymhell o'r pentref y llofruddiwyd y BarwnLewys ab Owain,Siryf Sir Feirionnydd, ganddynt yn 1555. Dywedir fod Gwesty'r Llew Coch yn y pentref yn dyddio i'r12g.
Ychydig i'r gorllewin mae mynyddMaesglase, a rhwng Dinas Mawddwy a'r mynydd mae Cwm Maesglasau, lle roedd yr emynydd a barddHugh Jones, Maesglasau (1749-1825) yn byw.
Un o gymoedd sydd yn ymestyn draw o Ddinas Mawddwy ar hydAfon Cywarch yw Cwm Cywarch. Cafodd Rhys Gwynn ei swyno gan un o hen drigolion y cwn hwnnw, sef Beti Williams, Plas y Bont, Cwm Cywarch.
”Mae Beti yn agor ei beibl ar fwrdd y gegin. Ymhlyg yng nghefn y beibl roedd y gerdd* roedd Beti wedi cofnodi sy'n nodi nifer o'r enwau ar Graig Cywarch* a gwyd tu ôl i'r fferm yn gefnlen urddasol i'r cwm. Dwn i ddim be ddywedai'r heddlu barddol am ddefnyddio 'void' i odli gydag erioed! A pha blanhigion tybed yw dail syfri a selon? Ta waeth, roedd Beti'n gwybod lle roedd y dail beibl yn tyfu wrth odre'r graig ac yn eu defnyddio fel nod llyfr, yn y llyfr priodol wrth gwrs. Dyma un o fy hoff luniau, yn bennaf am ei fod yn mynegi yn llawer gwell nag mewn geiriau y cyfan mae'r gair "cynefin" yn ei olygu i fi - nid dim ond bodoli mewn ardal benodol, ond ei adnabod yn drylwyr o ran gallu enwi pob cornel ohono (onid yw'r gerdd ar ryw ystyr yn "canu'r tir", fel y gwnai pobl yr Aborijini?) a gwybod drwy'r adnabyddiaeth yna lle'n "union" i fynd i ganfod planhigyn at ddefnydd. Mae'n llun athrist ar un ystyr hefyd ac yn dwyn i gof brawddeg olaf [cyfieithiad o’r Wyddeleg] Tomás Ó Criomhthain ynThe Islandman - "for the like of us will never be seen again."
At hynny, roedd y te a weinodd Beti'n hyfryd ond yn fwyaf cofiadwy oedd y ffordd y torrodd hi'r dorth yn yr hen ddull - dal y dorth o dan y fraich a'r gyllell yn torri tuag ati. Cofio mam yn adrodd y bennill fach yma:
Os yw'th feddwl ar briodi
Edrych ar y dorth wrth dorri.
Os yw hi fel dau gorn lleuad,
Paid â chymryd honno'n gariad.Sut byddid yn cynghori darpar briodfab heddiw yn oes y bara tafellog, Duw a wyr![3]
Mae’r enwau manwl a lleol a gasglodd Rhys Gwynn am gynefin Beti Williams ymMwletin Llên Natur rhifyn 60 t.3.[4]
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw ·Y Bala ·Bethesda ·Blaenau Ffestiniog ·Caernarfon ·Cricieth ·Dolgellau ·Harlech ·Nefyn ·Penrhyndeudraeth ·Porthmadog ·Pwllheli ·Tywyn
Pentrefi
Aberangell ·Aberdaron ·Aberdesach ·Aberdyfi ·Aber-erch ·Abergwyngregyn ·Abergynolwyn ·Aberllefenni ·Abersoch ·Afon Wen ·Arthog ·Beddgelert ·Bethania ·Bethel ·Betws Garmon ·Boduan ·Y Bont-ddu ·Bontnewydd (Arfon) ·Bontnewydd (Meirionnydd) ·Botwnnog ·Brithdir ·Bronaber ·Bryncir ·Bryncroes ·Bryn-crug ·Brynrefail ·Bwlchtocyn ·Caeathro ·Carmel ·Carneddi ·Cefnddwysarn ·Clynnog Fawr ·Corris ·Croesor ·Crogen ·Cwm-y-glo ·Chwilog ·Deiniolen ·Dinas, Llanwnda ·Dinas, Llŷn ·Dinas Dinlle ·Dinas Mawddwy ·Dolbenmaen ·Dolydd ·Dyffryn Ardudwy ·Edern ·Efailnewydd ·Fairbourne ·Y Felinheli ·Y Ffôr ·Y Fron ·Fron-goch ·Ffestiniog ·Ganllwyd ·Garndolbenmaen ·Garreg ·Gellilydan ·Glan-y-wern ·Glasinfryn ·Golan ·Groeslon ·Llanaber ·Llanaelhaearn ·Llanarmon ·Llanbedr ·Llanbedrog ·Llanberis ·Llandanwg ·Llandecwyn ·Llandegwning ·Llandwrog ·Llandygái ·Llanddeiniolen ·Llandderfel ·Llanddwywe ·Llanegryn ·Llanenddwyn ·Llanengan ·Llanelltyd ·Llanfachreth ·Llanfaelrhys ·Llanfaglan ·Llanfair ·Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) ·Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) ·Llanfihangel-y-traethau ·Llanfor ·Llanfrothen ·Llangelynnin ·Llangïan ·Llangwnadl ·Llwyngwril ·Llangybi ·Llangywer ·Llaniestyn ·Llanllechid ·Llanllyfni ·Llannor ·Llanrug ·Llanuwchllyn ·Llanwnda ·Llanymawddwy ·Llanystumdwy ·Llanycil ·Llithfaen ·Maentwrog ·Mallwyd ·Minffordd ·Minllyn ·Morfa Bychan ·Morfa Nefyn ·Mynydd Llandygái ·Mynytho ·Nantlle ·Nantmor ·Nant Peris ·Nasareth ·Nebo ·Pant Glas ·Penmorfa ·Pennal ·Penrhos ·Penrhosgarnedd ·Pen-sarn ·Pentir ·Pentrefelin ·Pentre Gwynfryn ·Pentreuchaf ·Pen-y-groes ·Pistyll ·Pontllyfni ·Portmeirion ·Prenteg ·Rachub ·Y Rhiw ·Rhiwlas ·Rhos-fawr ·Rhosgadfan ·Rhoshirwaun ·Rhoslan ·Rhoslefain ·Rhostryfan ·Rhos-y-gwaliau ·Rhyd ·Rhyd-ddu ·Rhyduchaf ·Rhydyclafdy ·Rhydymain ·Sarnau ·Sarn Mellteyrn ·Saron ·Sling ·Soar ·Talsarnau ·Tal-y-bont, Abermaw ·Tal-y-bont, Bangor ·Tal-y-llyn ·Tal-y-sarn ·Tanygrisiau ·Trawsfynydd ·Treborth ·Trefor ·Tre-garth ·Tremadog ·Tudweiliog ·Waunfawr