dinas global, dinas â phorthladd, dinas yn yr Unol Daleithiau,dinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf, dinas o fewn talaith Efrog Newydd, metropolis, mega-ddinas
Dinas ynNhalaith Efrog Newydd ywDinas Efrog Newydd (Saesneg:New York City; enw brodorol:Lenapehoking). Hi yw'r ddinas fwyaf poblog ynUnol Daleithiau America ac fe'i lleolir ar arfordir Gogledd-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau ar lannauMôr Iwerydd. Ers 1898, pan ffurfiwyd y ddinas, ceir yma bum bwrdeisdref: YBronx,Brooklyn,Manhattan,Queens, acYnys Staten[1]. Poblogaeth y ddinas ei hun yw 8,804,190(1 Ebrill 2020)[2] o fewn arwynebedd ychydig yn llai na 305 milltir sgwâr (790 km²), sy'n ei gwneud y ddinas gyda'r dwysedd poblogaeth mwyaf yn yr unol Daleithiau.[3] Mae poblogaeth yr ardal ehangach, sef yr ardal fetropolitan tua 19,940,274(2024)[4][5] o bobl dros ardal o 6,720 milltir sgwâr (17,400 km²).[6]
Mae'n ddinas ryngwladol flaenllaw, gyda dylanwad sylweddol yn fyd-eang ar fasnach, economi, diwylliant, ffasiwn ac adloniant. Yma hefyd ceir pencadlys yCenhedloedd Unedig, ac felly mae'n ganolfan bwysig o safbwynt materion rhyngwladol. Fe'i disgrifir gan rai fel "prifddinas arian a diwylliant y Ddaear".[7]
Mae Efrog Newydd fwyaf adnabyddus ymysg dinasoedd yr Unol Daleithiau am ei thrafnidaeth 24 awr, am ddwysedd ei phoblogaeth a'r amrywiaeth o bobl sy'n trigo yno. Yn 2005, roedd bron 170 o ieithoedd yn cael eu siarad yn y ddinas a ganwyd 36% o'i phoblogaeth y tu allan i'r Unol Daleithiau. Weithiau cyfeirir at y ddinas fel "Y Ddinas sydd Byth yn Cysgu", tra bod ei ffugenwau eraill yn cynnwys "Gotham" a'r "Big Apple".
Ym 1609, fe wnaeth yfforiwr-archwiliwr o LoegrHenry Hudson ailddarganfod Harbwr Efrog Newydd wrth chwilio am yNorthwest Passage i'r Dwyrain, tra'n gweithio i gwmniVereenigde Oost-Indische Compagnie. Erbyn 1624 roedd y ddinas wedi'i sefydu fel canolfan fasnachu'r cwmni. Galwyd y lleoliad newydd yn "Amsterdam Newydd" tan 1664 pan ddaeth y drefedigaeth o dan reolaeth Lloegr. Newidiwyd yr enw gan Frenin Lloegr pan drosglwyddodd y tiroedd yma i'w frawdy Duke of York ('Dug Efrog').[8][9] Bu Efrog Newydd yn brifddinas yr Unol Daleithiau o 1785 tan 1790, ac ers hynny dyma ddinas fwyaf y genedl.[8]
Am ganrifoedd cyn y trefedigaeth gan yr Ewropead, roedd Americanwyr BrodorolAlgonquian a'rLenape yn byw yn yr ardal lle saif Dinas Efrog Newydd heddiw. Roedd eu mamwlad, o'r enw Lenapehoking, yn cynnwys Ynys Staten, Manhattan, y Bronx, rhan orllewinolLong Island (gan gynnwys yr ardaloedd a fyddai wedyn yn dod yn fwrdeistrefi Brooklyn a Queens), a Dyffryn Hudson Isaf. Mae gan y Lenape system hanesyddol lle'r oeddent yn wreig-gynefinol hy roedd y teulu newydd yn byw gyda mam y ferch; ac felly ceid tair cenhedlaeth yn byw gyda'i gilydd yn aml iawn. Cafodd y brodorion hyn eu hel o'r ardal o dan polisi ffurfiol o'u symud a'u rhoi mewn tiriogaeth neilltuol, i'r dwyrain o'r ddinas.[10]
Dechreuodd gwladychiad Ewropeaidd cyntaf o'r ardal yn 1614 a sefydlodd yr IseldirwyrAmsterdam Newydd ym 1626, ar ran deheuol Manhattan. Ymsefydlodd nifer o Huguenotiaid yno hefyd, yn chwilio am ryddid crefyddol. Cipwyd y ddinas gan y Saeson yn 1664, a'i hail-enwi'n "Efrog Newydd" ar ôlDug Caerfrog.
Datblygodd pwysigrwydd Dinas Efrog Newydd fel porthladd masnachol tra'r oedd o dan reolaeth Brydeinig. Cynhaliodd y ddinas achos llys arloesol John Peter Zenger ym 1735, a geisiodd sefydlu rhyddid y wasg yngNgogledd America. Ym 1754, sefydlwyd Prifysgol Columbia gan siarter George II o'rDU fel Coleg y Brenin ym Manhattan Isaf. Cyfarfu Cynghrair y Ddeddf Stamp yn Efrog Newydd ym mis Hydref 1765.
Daeth y ddinas yn ganolbwynt ar gyfer cyfres o frwydrau mawrion a adwaenid felYmgyrch Efrog Newydd yn ystodRhyfel Annibyniaeth America. Ar ôl Brwydr Ffort Washington ym Manhattan Uchaf ym 1776, daeth yn ddinas yn ganolbwynt gwleidyddol a milwrol Prydain yng Ngogledd America tan ddaeth y meddianaeth milwrol i ben ym 1783. Yn fuan ar ôl hyn, gwnaed Dinas Efrog Newydd yn brifddinas cenedlaethol gan Gynghrair y Conffederasiwn; cadarnhawyd Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau ac ym 1789, urddwydGeorge Washington yn Arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau yno; cyfarfu Cynghrair cyntaf yr Unol Daleithiau yno am y tro cyntaf ym 1789, a draffiwyd Mesur Hawliau a hyn oll yn y Neuadd Ffederal ar Wall St. Erbyn 1790, roedd Dinas Efrog Newydd wedi goddiweddydPhiladelphia fel dinas fwyaf yr Unol Daleithiau.
Yn ystod y19g gweddnewidwyd y ddinas gan fewnlifiad a datblygiad. Ehangwyd y grid strydoedd i gynnwys holl ardaloedd Manhattan gan Gynllun y Comisiynnydd ym 1811, a phan agorodd Camlas Erie, cysylltodd porthladd Môr Iwerddon gyda marchnadoedd amaethyddol eang mewndirol Gogledd America. Aeth gwleidyddiaeth lleol o dan ddylanwad Neuadd Tammany, peiriant gwleidyddol a gefnogwyd gan fewnfudwyrGwyddelig. Ymgyrchoedd hen aristocratiaid morol am sefydlu parc ganolog, "Central Park", a ddatblygodd i fod y parc tir-luniedig cyntaf mewn dinas Americanaidd ym 1857. Roedd poblogaeth o dduon-rhydd hefyd yn bodoli ym Manhattan, yn ogystal ag yn Brooklyn. Daliwydcaethweision yn Efrog Newydd tan 1827, ond yn ystod y1830au daeth yn ganolbwynt yr ymgyrch i ddiweddu caethwasiaeth aml-hil yn y Gogledd.
Stryd Mulberry, ar Ochr Ddwyreiniol Isaf Manhattan, tua 1900
Arweiniodd ddicter at orfodaeth milwrol yn ystodRhyfel Annibyniaeth America (1861–1865) atDerfysgoedd Drafftio 1863, un o ddigwyddiadau mwyaf cythryblus yn hanes America. Ym 1898, ffurfiwyd dinas fodern Efrog Newydd drwy gyfuno â Brooklyn (a oedd yn ddinas annibynnol cyn hyn), Swydd Efrog Newydd (a oedd yn cynnwys rhannau o'r Bronx), Swydd Richmond a rhan orllewinol o Swydd Queens. Pan agorodd rheilffordd danddaearol Dinas Efrog Newydd ym 1904, llwyddodd hyn i ddod a'r ddinas newydd at ei gilydd. Trwy gydol hanner gyntaf yr20g, roedd y ddinas yn ganolbwynt y byd o ran diwydiant, masnach a chyfathrebu. Fodd bynnag, roedd pris i'w dalu am y datblygiad hwn. Ym 1904, bu tân ar long-stêm yGeneral Slocum yn yrEast River, gan ladd 1,021 o bobl a oedd ar fwrdd y llong. Ym 1911, bu farw 146 o weithwyr dillad yn nhrychineb diwydiannol gwaethaf y ddinas, pan fu tân yn Ffatri Triangle Shirtwaist. Arweiniodd hyn at sefydlu Undeb Rhyngwladol y Gweithwragedd Dillad a gwnaed gwelliannau mewn safonau diogelwch ffatrïoedd.
Yn ystod y1920au, roedd Dinas Efrog Newydd yn gyrchfan boblogaidd i Americanwyr-Affricanaidd yn ystod yr Ymfudo Mawr oDde America. Erbyn1916, roedd Dinas Efrog Newydd yn gartref i'r boblogaeth fwyaf o Affricaniaid dinesig yngNgogledd America. BlodeuoddDadeni Harlem yn ystod cyfnod y Gwaharddiad, ynghyd â thŵf economaidd a welodd y ddinas yn cystadlu i adeiladu'r wybren-grafwyr uchaf. Erbyn dechrau'r 1920au, Dinas Efrog Newydd oedd yr ardal ddinesig fwyaf poblog yn y byd, gydag ardal fetropolitanaidd o dros 10 miliwn o drigolion erbyn dechrau'r1930au. Yn sgîl yr amodau byw caled a ddaeth ar ôl yDirwasgiad Mawr, etholwyd y diwygiwrFiorello La Guardia ynfaer y ddinas.
Ar ôl yrAil Ryfel Byd, dychwelodd y milwyr a mewnfudwyr oEwrop ac arweiniodd hyn yn ei dro at dŵf economaidd arall a datblygiadau enfawr o dai yn nwyrain Queens. Prin iawn oedd effaith y rhyfel ar Efrog Newydd a chydaWall Street yn arwain y wlad at ddominyddiaeth economaidd, pencadlys yCenhedloedd Unedig (a gwblhawyd ym 1950), yn pwysleisio dylanwad gwleidyddol y ddinas, a thŵf celf mynegiannol yn y ddinas, dadleolwydParis fel canolbwynt y byd celfyddydol.
Yn ystod y1960au, dioddefodd Efrog Newydd o broblemau economaidd, cynnydd mewn trais a gwrthdarohiliol, a gyrhaeddodd uchafbwynt yn y1970au. Gwellodd sefyllfa economaidd y ddinas yn y1980au wrth i'r diwydiant ariannol ail-sefydlu ei hun. Erbyn y1990au roedd gwrthdaro hiliol wedi lleihau, cyfradd troseddau wedi gostwng yn sylweddol a thon newydd ofewnfudwyr wedi cyrraedd oAsia acAmerica Ladin. Ymddangosodd sectorau newydd, megisDyffryn Silicon, yn economi'r ddinas a chyrhaeddodd poblogaeth y ddinas record newydd yngnghyfrifiad2000.
Ar11 Medi2001 bu ymosodiad terfysgol ar y ddinas pan drawodd dwy awyrenGanolfan Fasnach y Byd. Bu farw bron i 3,000 o bobl yn yr ymosodiad. Bwriedir adeiladu Canolfan Fasnach y Byd newydd (a adwaenid yn flaenorol fel y Tŵr Rhyddid), ynghyd â chofeb a thri tŵr newydd o swyddfeydd ar y safle, a dylai fod yn gyflawn erbyn 2013. Ar y19eg o Ragfyr,2006, gosodwyd y colofnaudur cyntaf yn sylfeini'r adeilad. Mae tri adeilad uchel arall wedi'u cynllunio ar gyfer y safle ar hyd Stryd Greenwich, a byddant yn amgylchynu Cofeb Canolfan Fasnach y Byd, sydd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Bydd y safle hefyd yn gartref i amgueddfa a fydd yn olrhain hanes y safle.
Lleolir Dinas Efrog Newydd yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau, yn ne-ddwyrain Talaith Efrog Newydd, oddeutu hanner ffordd rhwngWashington, D.C. aBoston. Saif y ddinas ger aberAfon Hudson, sy'n bwydo harbwr cysgodol ac yna Mor Iwerddon, ac mae'r lleoliad hwn wedi cynorthwyo'r ddinas i dyfu fel tref masnachol. Adeiladwyd rhannau helaeth o Efrog Newydd ar dair ynysManhattan,Ynys Staten aLong Island a achosodd prinder tir a dwysedd poblogaeth uchel.
Llifa'r Afon Hudson drwyDdyffryn Hudson ac i mewn i Fae Efrog Newydd. Rhwng Dinas Efrog Newydd a Troy, Efrog Newydd, mae'r afon yn aber. Gwahana'r Hudson y ddinas oNew Jersey. Mae Afon y Dwyrain yn llifo oSwnt Long Island ac yn gwahanu'r Bronx a Manhattan o Long Island. Mae'r Afon Harlem yn gwahanu Manhattan o'r Bronx.
Mae tir y ddinas wedi newid yn sylweddol oherwydd ymyrraeth dynol, gyda rhannau helaeth o dir wedi'u had-ennill ar hyd y glannau ers cyfnod y trefidigaethau Iseldireg. Gwelwyd yr enghraifft amlycaf o ad-ennill tir ym Manhattan Isaf, gyda datblygiadau fel Dinas Battery Park yn ystod y1970au a'r1980au. Mae rhai o amrywiadau naturiol topograffeg wedi cael eu llyfnhau, yn enwedig ym Manhattan.
Amcangyfrifir fod arwynebedd y ddinas yn mesur 304.8 milltir sgwâr (789 km²). Cyfanswm arwynebedd Dinas Efrog Newydd yw 468.9 milltir sgwâr (1,214 km²). Mae 164.1 milltir sgwâr (425 km²) o hyn yn ddwr a 304.8 milltir sgwâr (789 km²) yn dir. Man uchaf y ddinas yw Todt Hill ar Ynys Staten, sydd 409.8 troedfedd (124.9 m) uwchlaw lefel y mor a dyma yw'r man uchaf ar y glannau dwyreiniol, i'r de oMaine. Mae copa'r mynydd wedi'i orchuddio gan goedwig fel rhan o dir gwyrdd Ynys Staten.
Yn gyffredinol, mae'r hafau yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o 79–84 °F (26–29 °C) a thymheredd isaf o 63–69 °F (17–21 °C). Fodd bynnag, mae'r tymheredd yn pasio 90 °F (32 °C) am tua 16-19 diwrnod bob haf.[13]
Tuedda'r gaeafau i fod yn oer, gyda'r lleoliadau arfordirol ychydig yn gynhesach, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o 38–43 °F (3–6 °C) a thymheredd isaf o 26–32 °F (−3 i 0 °C), ond gall y tymheredd ostwng cymaint a'r 10au i'r 20au °F (−12 i −6 °C) am rai dyddiau. Weithiau gall y tymheredd godi i hyd at y 50au neu 60au °F (~10 i 15 °C) yn ystod y gaeaf.[14] Cyfnewidiol yw'r tywydd yn y Gwanwyn a'r Hydref, a gall fod yn oer neu'n gynnes, er fod y cyfnodau hyn yn bleserus gan amlaf oherwydd y lleithder isel.[15]
Y defnydd o drafnidiaeth yn Ninas Efrog Newydd yw'r uchaf yn yr Unol Daleithiau ac mae'r defnydd odanwydd yno yn gyfatebol i'r cyfartaledd cenedlaethol yn ystod y1920au.[16] Mae allyriannau nwyon sy'n achosi'r effaith tŷ gwydr yn Ninas Efrog Newydd yn 7.1 tunnell metrig i bob person o'i gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 24.5 tunnell metrig.[17] Mae holl drigolion Efrog Newydd yn gyfrifol am 1% o holl allyriannau nwyoneffaith tŷ gwydr er mai 2.7% o holl boblogaeth y wlad maent yn cynrychioli. Mae person cyffredin sy'n trigo yn Efrog Newydd yn defnyddio hanner ytrydan a ddefnyddir gan drigolionSan Francisco a bron i chwarter o'r trydan a ddefnyddir gan berson oDallas, Texas.[18]
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r ddinas wedi bod yn canolbwyntio ar leihau ei heffaith ar yr amgylchedd. Arweiniodd llygredd y ddinas at lefelau uchel oasma a chyflyrrauresbiradol eraill ymysg trigolion y ddinas.[19] Rhaid i lywodraeth y ddinas brynu'r offer mwyaf effeithiol o ran ynni yn unig ar gyfer swyddfeydd a thai cyhoeddus yn y ddinas. Mae gan Efrog Newydd y fflyd mwyaf ofysiau awyr lan hybrid-diesel yn y wlad, a rhaitacsis hybrid cyntaf.
Y math o adeilad a gysylltir â Dinas Efrog Newydd gan amlaf yw'rwybrengrafwr, a gwelwyd adeiladau'r ddinas yn newid o adeiladau llai o faint, Ewropeaidd yr olwg, i dyrrau enfawr yr ardaloedd busnes. Erbyn mis Awst 2008, roedd gan Ddinas Efrog Newydd 5,538 o adeiladau tal, gyda 50 o wybregrafwyr a oedd yn dalach na 656 troedfedd (200m). Mae hyn yn fwy nag unrhyw ddinas arall yn yr Unol Daleithiau, ac yn ail y byd ar ôlHong Cong. Am fod y ddinas wedi'i hamgylchynu i raddau helaeth gan ddŵr, dwysedd poblogaeth uchel y ddinas a phrisiau uchel ar adeiladau yn yr ardaloedd masnachol, gwelodd y ddinas y casgliad mwyaf o dyrrau unigol o swyddfeydd a chartrefi yn y byd.
Mae gan Efrog Newydd adeiladau nodedig o safbwynt pensaernïol ac mae eu harddulliau'n amrywio. Mae'r adeiladau hyn yn cynnwys yrAdeilad Woolworth (1913), gwybrengrafwr gothig cynnar a adeiladwyd gyda nodweddion gothig y gellir eu gweld o'r stryd sawl can troedfedd yn îs. Mae cynllunart deco yrAdeilad Chrysler (1930), gyda'i thŵr dur yn adlewyrchu'r cyfyngiadau a gyflwynwyd er mwyn sicrhau fod digon o oleuni naturiol yn cyrraedd y strydoedd. Ystyria nifer o haneswyr a phenseiri y tŵr hwn fel adeilad mwyaf godidog Efrog Newydd, gyda'i addurniadau cywrain. Mae'rAdeilad Condé Nast (2000) yn enghraifft bwysig o'r cynllunio amgylcheddol a gyflwynwyd yn ddiweddarach i wybrengrafwyr Americanaidd.
↑"Top 8 Cities by GDP: China vs. The U.S." Business Insider, Inc. 31 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd1 Gorffennaf 2018.For instance, Shanghai, the largest Chinese city with the highest economic production, and a fast-growing global financial hub, is far from matching or surpassing New York, the largest city in the U.S. and the economic and financial super center of the world."New York City: The Financial Capital of the World". Pando Logic. 8 Hydref 2015. Cyrchwyd1 Gorffennaf 2018.
↑AmHeritageBk2; 1961;The American Heritage Book of Indians gan Alvin M. Josephy, Jr., (golygydd); Cyhoeddwyd ganAmerican Heritage Publishing Co., Inc..
↑Coburn, Jason, Jeffrey Osleeb, Michael Porter (June 2006). "Urban Asthma and the Neighbourhood Environment in New York City". Health & Place 12(2): td. 167–179. doi:10.1016/j.healthplace.2004.11.002.PMID 16338632.