Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Differu

Oddi ar Wicipedia
Graff o ffwythiant mewn du, a llinell tangiad y ffwythiant mewn coch. Mae graddiant y llinell tangiad yn gyfartal â differiad y ffwythiant ar y pwynt sydd wedi ei farcio.
Mae'r cord (glas) yn fras amcan o'r tangiad ar y pwynt (x, f(x)).

Mesuriad o sut maeffwythiant mathemategol yn newid wrth i'r mewnbynnau newid ywdifferu. Mae'n rhan o gangencalcwlws ofathemateg.

Diffiniad

[golygu |golygu cod]

Cyn iIsaac Newton aGottfried Wilhelm Leibniz ddarganfod calcwlws yn y1670au, fe wyddid eisoes fod graddiant y llinell syth,y =mx +c, yn hafal i newid mewny wedi ei rannu gan newid mewnx; Δyx =m. Fe wyddid hefyd fod graddiant cromlin ar ryw bwynt yn hafal i raddiant y tangiad ar y pwynt hwnnw. Ond nid oedd ffordd gydlynol o ganfod graddiant cromliniau ac felly ni allai gwyddonwyr astudio cyfraddau anghyson yn hawdd. Ysgogodd y broblem hon ddatblygiad calcwlws.

Nid dim ondy sy'n ffwythiant ox, mae graddiant y gromliny = f(x) yn ffwythiant ox hefyd gan nad ydyw'n gyson. Y differiad yw'r ffwythiant hwn. Ystyriwch ddau bwynt sy'n agos iawn at ei gilydd ar y gromlin: (x,y) ac (x + Δx,y + Δy). Po leiaf yw Δx (ac felly Δy), yr agosaf y mae Δyx at y graddiant ar y pwynt (x,y), a phan fo Δx yn agosáu at 0, mae Δy/Δx yn agosáu at derfyn sy'n hafal i raddiant y gromlin ar y pwynt (x,y). Y differiad yw'rterfyn (lim) hwn ac fel arfer fe ddefnyddir y nodiant dy/dx i'w symboleiddio:

dydx=limΔx0(y+Δy)y(x+Δx)x=limΔx0ΔyΔx{\displaystyle {\frac {\mathrm {d} y}{\mathrm {d} x}}=\lim _{\Delta x\to 0}{\frac {(y+\Delta y)-y}{(x+\Delta x)-x}}=\lim _{\Delta x\to 0}{\frac {\Delta y}{\Delta x}}}

Gan fody = f(x), gellir canfod ffwythiant y graddiant f '(x), y differiad, drwy ddefnyddio algebra:

f(x)=dydx=limΔx0f(x+Δx)f(x)Δx{\displaystyle f'(x)={\frac {\mathrm {d} y}{\mathrm {d} x}}=\lim _{\Delta x\to 0}{\frac {f(x+\Delta x)-f(x)}{\Delta x}}}

Enghraifft

[golygu |golygu cod]

Wrth ddiferu'r ffwythiant,f(x)=x2{\displaystyle f(x)\!=x^{2}}, ceir:

f(x)=limΔx0(x+Δx)2x2Δx=limΔx0x2+2xΔx+(Δx)2x2Δx=limΔx0(2x+Δx)=2x{\displaystyle {\begin{aligned}f'(x)&{}=\lim _{\Delta x\rightarrow 0}{\frac {(x+\Delta x)^{2}-x^{2}}{\Delta x}}\\&{}=\lim _{\Delta x\rightarrow 0}{\frac {x^{2}+2x\Delta x+(\Delta x)^{2}-x^{2}}{\Delta x}}\\&{}=\lim _{\Delta x\rightarrow 0}(2x+\Delta x)\\&{}=2x\end{aligned}}}

Hynny yw, wrth i Δx agosáu at 0, mae (2x + Δx) yn agosáu at derfyn o 2x. Felly fe gasglwn fod y graddiant ar unrhyw bwynt ar y gromlin f(x) =x2 yn hafal i 2 wedi'i luosi â chyfeirnodx y pwynt hwnnw. Er enghraifft y graddiant ar y pwynt (4,16) yw f '(4) = 2 × 4 = 8.

Differiadau cyffredin

[golygu |golygu cod]

Ffwythiannau cyffredin

[golygu |golygu cod]

Isod gweler rhestr o ddifferiadau'r ffwythiannau a ddefnyddir fynychaf mewn calcwlws:

ddxxn=nxn1{\displaystyle {\frac {d}{dx}}x^{n}=nx^{n-1}}
ddxlnx=1x{\displaystyle {\frac {d}{dx}}\ln x={\frac {1}{x}}}
ddxex=ex{\displaystyle {\frac {d}{dx}}e^{x}=e^{x}}
ddxsinx=cosx{\displaystyle {\frac {d}{dx}}\sin x=\cos x}
ddxcosx=sinx{\displaystyle {\frac {d}{dx}}\cos x=-\sin x}
ddxtanx=sec2x{\displaystyle {\frac {d}{dx}}\tan x=\sec ^{2}x}
ddxlogax=1x lna{\displaystyle {\frac {d}{dx}}\log _{a}x={\frac {1}{x\ \ln a}}}
ddxax=ax lna{\displaystyle {\frac {d}{dx}}a^{x}=a^{x}\ \ln a}

Rheolau cyffredinol

[golygu |golygu cod]

Mae hefyd ar gael reolau cyffredinol er mwyn hwyluso'r broses o gyfrifo differiadau cymhleth:

  • Rheol adio:
ddx(f(x)+g(x))=f(x)+g(x){\displaystyle {\frac {d}{dx}}(f(x)+g(x))=f'(x)+g'(x)}
  • Rheol lluosi:
ddx(f(x) g(x))=f(x) g(x)+g(x) f(x){\displaystyle {\frac {d}{dx}}(f(x)\ g(x))=f'(x)\ g(x)+g'(x)\ f(x)}
  • Rheol cadwyn:
ddxf(g(x))=f(g(x)) g(x){\displaystyle {\frac {d}{dx}}f(g(x))=f'(g(x))\ g'(x)}

Nodiant

[golygu |golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Differu&oldid=12563438"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp