Yng nghyd destynbwyd, maediet yn golygu:
- dewis a dethol rhai bwydydd yn unig, er mwyn cadw pwysau'r person yn is na'r hyn sy'n arferol e.e. mynd ar ddeiet
- y detholiad o fwydydd a fwyteir gan berson neuanifail e.e. 'Mae deiet y gwnhingen yn wahanol...'
Mae cenhedloedd gwahanol yn bwyta bwydydd gwahanol, ond mae un peth yn sicr, ac yn gyffredin rhyngddynt: er mwyn cael corff iach mae'n angenrheidiol i'r maeth fod yn amrywiol er mwyn cynnwys yr hanfodion angenrheidiol hyn:fitaminau,mwynau a thanwydd megiscarboheidrad,protinau abraster. Weithiau mae elfennau allanol megiscrefydd yn effeithio ar ddeiet person. Gall y deiet hefyd effeithio nid yn unig ar iechyd person (neu anifail) ond hyd ei oes.
Yng Nghymru, ers degawdau bu diddordeb arbennig yn neiet traddodiadolMôr y Canoldir. Yn wahanol i nifer o ddietau eraill, cefnogir y diet hwn gan dystiolaeth safonol[1]. Datblygwyd y syniad gan Ancel Keys (1904-2004)ffisiolegydd Americanaidd a astudiodd trigolion pentref Pioppi ynyr Eidal, pentref bychan o 190 ar lan Môr Tyrrhenia, ryw 10 km o dref hynafol Velia[2] a 88 km i'r de oSalerno. Bellach cydnabyddir Pioppi fel safle treftadaethUnesco, fel tarddle Diet Môr y Canoldir[2].