Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Diabetes

Oddi ar Wicipedia
Diabetes
Enghraifft o:dosbarth o glefyd,clefyd Edit this on Wikidata
Mathafiechyd metabolaeth glwcos, endocrine system disease, autoimmune disease of endocrine system Edit this on Wikidata
Yn cynnwystype 2 diabetes, y clefyd melys teip 1, gestational diabetes, malnutrition-related diabetes mellitus, Diabetes mellitus and deafness, Mitochondrial diabetes, maturity-onset diabetes of the young, Latent autoimmune diabetes Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Anhwyldeb metabolig ywdiabetes, sy’n digwydd pan mae’r corff yn methu defnyddio’rsiwgr sydd yn ygwaed. Heb ei reoli’n iawn, gall diabetes arwain atglefyd y galon,clefyd yr arennau,dallineb, a niwed i bellafon y corff a achoswyd gan gylchrediad wan o waed. Ar y llaw arall, o gael eu trin a’u cefnogi’n iawn, gall pobl â diabetes fyw bywydau hir a llawn iawn.

Hen enwau Cymraeg arno yw clefyd siwgr a'r clefyd melys ond nid yw'r rhain yn cael eu cymeradwyo heddiw am eu bod yn medru bod yn gamarweiniol.[1]

Mae tua 93,000 o bobl Cymru’n gwybod bod diabetes arnynt, ac mae’n debyg bod tua 40,000 o bobl eraill yn byw gyda’r cyflwr ond heb wybod hynny hyd yn hyn. Diabetes a’i gymhlethdodau sy’n gyfrifol am 9% o gostau ysbytai Cymru. Mae'relusen Diabetes UK yn cynorthwyo pobl sydd â'r clefyd.

Yn2007 collodd y Cymro pybyr a'r cyn-chwaraewr rygbiRay Gravell ei goes oherwydd y clefyd.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. http://termau.cymru/#diabetes&sln=cy

Dolen allanol

[golygu |golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod amfeddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Diabetes&oldid=10847874"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp