Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Dewiniaeth

Oddi ar Wicipedia
"Circe yn Cynnig y Cwpan iWlysses" ganJohn William Waterhouse

Dewiniaeth, (hefyddewindabaeth,hudoliaeth,y gelfyddyd aswyngyfaredd) yw'r term am ddylanwadu ar ddigwyddiadau, gwrthrychau, pobl a ffenomena trwy foddion goruwchnaturiol, paranormal neu gyfriniol. Gallai hefyd gyfeirio at yr ymarferion a ddefnyddir i wneud hynny, a'r credau sy'n defnyddio'r rhain i esbonio digwyddiadau a ffenomena. Mewn termauocwltwyr modern, dewino yw'r weithred o gyfuno'r bydol â'r aruchel er mwyn canolbwyntio'r ewyllys fel y caiff ddylanwad ar ddigwyddiad, gwrthrych, a bodau. Yn aml maecyfriniaeth,ocwltiaeth,crefydd,gwyddoniaeth, aseicoleg yn dylanwadu ar ddewiniaeth.

Un o nodweddion sylfaenol dewiniaeth yw'r gred y gall efelychiad o weithred gael yr un effeithiau â'r weithred go iawn. Gwneir hynny drwy gyfatebiaeth symbolaidd. Enghraifft o hynny yw "lladd" neu niweidio dòl gŵyr sy'n cynrychioli person go iawn, yn y gred y byddai'r fath efelychiad yn cael effaith cyffelyb ar y person hwnnw. "Dewiniaeth sympathetig" yw'r enw ar y cysyniad hwn. Mae dewiniaeth sympathetig yn ffurfio rhan hanfodol o bron bob math o ddewiniaeth, osiamaniaeth i ddewiniaeth ddefodol, sy'n ffocysu ar y defnydd o ddefodau sydd llawn cyfatebiadau symbolaidd cymhleth er mwyn dewino, yn ogystal â mewn defodau crefyddol megis yrofferenGristnogol.

Yn aml defnyddir technegau i weld pethau'r tu hwnt i'r dewin mewn gofod ac amser, yn bennaf iddarogan y dyfodol. Roedd unwaith adeg yngNghymru pan fyddaidarogan yn rhan barchus, gydnabyddedig o fywyd cymdeithas, fel mae sylwadau Gerallt Cymro ynglŷn agawenyddion[1] a hanesdynion hysbys yng Nghymru yn tystio. Yn ôl tystiolaeth gynnar, roedd darogan yn rhan sylfaenol o fywyd crefyddol yCeltiaid, gydavates (Gâl) afili (Iwerddon) yn gyfrifol amdano gan amlaf. Byddai rhai yn derbyn eu gwybodaeth am y dyfodol drwy arsylwadau o ehediadau a galwadau adar. Dull arall ymhlith y Celtiaid oedd darogan yn ôl breuddwydion neu weledigaethau a gafwyd mewn llewyg, neu "swyngwsg",[2] sy'n ffurf ar hypnotiaeth.

Ffurf arall ar ddarogan ywsêr-ddewiniaeth neu "astroleg", sef grŵp o systemau, traddodiadau, a chredoau lle mae gwybodaeth am leoliadplanedau yng nghyswlltcytserau'rSidydd yn galluogi i'r dewin ddeall a dehongli gwybodaeth am bersonoliaethau pobl a rhagddweud eu dyfodol. YmMesopotamia a'rHen Aifft, roedd dosbarth arbennig o offeiriaid yn astudio'r nefoedd er mwyn ceisiodarogan y dyfodol. Roedd sêr-ddewiniaeth a'r defnydd ohorosgopau yn boblogaidd iawn ymhlithdynion hysbys yng Nghymru, a ddefnyddiai hefydddaeargoel i ddarogan y dyfodol.

Geirdarddiad a thermau eraill

[golygu |golygu cod]

Tarddiad y gair "dewiniaeth" yw'rLladindivinatio "darogan", odivinare "rhagweld gydag ysbrydoliaeth ddwyfol"[3], sydd ei hun yn dod o'r gairdivinus "dwyfol" (yr un tarddiad â'r gair "diwinydd"), ond a ddefnyddiwyd hefyd i olygu "gweledydd" a "rhagweledydd". Yn wir, gellir ystyried y gairdivinus yn yr ystyr "gweledydd" fel tarddiad y gairdewin.

Yn yGymraeg ceir sawl gair sydd naill ai yn gyfystyr â dewiniaeth neu'n gysylltiedig iddi. Mae'r geiriauhudo,swyno,cyfareddu aswyngyfareddu i gyd yn awgrymu'r weithred o orfodi ewyllys y dewin ar bobl, bodau neu bethau. Defnyddir y gairhud fel gair cyffredin am y pŵer goruwchnaturiol y mae'r dewin yn ei geisio, er gall hefyd olyguswyn, sef y fformiwla ddefodol y mae'r dewin yn ei defnyddio i gael effaith benodol. Mae'r gairrheibio, a gysylltir yn draddodiadol â gwrachod, yn disgrifio swyno er mwyn peri niwed neu ddifrod i bersonau a'u heiddo, neu'r dylanwad neilltuol sy'n cadw dyn neu anifail rhag cyflawni ei briod waith, tra maedadreibio yn disgrifio ymgais swynol i wrthweithio dylanwadau drwg ar eiddo, nad oes neb yn siŵr sut na pham y daethant.[4] Ceir dewiniaeth wen a dewiniaeth ddu, a elwir hefyd y gelfyddyd wen a'r gelfyddyd ddu. Clywir y fath bolareiddio rhwng da a drwg yng ngeiriauGiovanni Pico della Mirandola; yn ôl yr Eidalwr y mae dwy fath wahanol o ddewiniaeth - y cyntaf yw γοητεια, "Goëtia", dewiniaeth ddu lle mae'r dewin yn cynghreirio gyda chythreuliaid neu ysbrydion drygionus, a'r ail yw Dwyfolwaith, dewiniaeth ddwyfol lle mae'r dewin yn cynghreirio gydag ysbrydion dwyfol, fel angylion a duwiau. O ran ymarferwyr dewiniaeth yn y Gymraeg, ar wahân iwrach (arheibies) ceirawenyddion yn amserGerallt Cymro, sef daroganwyr tebyg i'rdivinatores,[1] ondDyn Hysbys yw'r enw mwyaf cyffredin am ddewiniaid a swynwyr yngNghymru.

Damcaniaethau gwyddonol

[golygu |golygu cod]

Diffiniadau anthropolegol

[golygu |golygu cod]

Y prif bersbectifau ar ddewiniaeth mewnanthropoleg yw'r persbectif ffwythianyddol, y persbectif symbolaidd, a'r persbectif deallaethol. Defnyddir y tri phersbectif hyn i ddisgrifio sut mae dewiniaeth yn gweithio mewn cymdeithas. Mae'r persbectif ffwythianyddol, a gysylltir yn bennaf â gwaithBronisław Malinowski, yn honni bod gan bob agwedd ar gymdeithas ei hystyr londer a'i chydberthynas.[5] Yn ôl y persbectif ffwythianyddol, perfformia dewiniaeth swyddogaeth gudd mewn cymdeithas. Astudia'r persbectif symbolyddol ystyr cywrain y defodau a mythau sy'n diffinio cymdeithas[6] yn ogystal â delio â chwestiynau ynglŷn âtheodiciaeth. Yn olaf, mae'r persbectif deallaethol, a gysylltir â gwaithEdward Burnett Tylor a gwaithJames Frazer, yn gweld dewiniaeth fel rhywbeth sydd yn rhesymegol, ond wedi ei seilio ar ddealltwriaeth ddiffygiol o'r byd,

Meddwl dewinol

[golygu |golygu cod]

Mewnanthropoleg,seicoleg agwyddorau gwybyddol mae "meddwl dewinol" yn derm i ddisgrifio ymresymu achosol anwyddonol sydd yn aml yn cynnwys syniadau fel meddwl cysylltiadol, gallu'r meddwl i effeithio ar y byd ffisegol, a chamgymryd cydberthyniad am arhosiad. Gallai'r meddwl dewinol ddefnyddio mynegiant symbolaidd yn ogystal âthrosiad,trawsenwad achydamserydd. Yn aml caiff ymarferwyr dewiniaeth eu portreadu fel personau anghymarebol, ond mae rhai damcaniaethwyr yn honni nad yw dibenion y dewin o reidrwydd yn faterol, a gall dewiniaeth mewn rhai achosion fod yn effeithiol.

Damcaniaethau seicolegol

[golygu |golygu cod]

Mae damcaniaethau seicolegol ar ddewiniaeth yn ei thrin fel ffenomen bersonol sy'n ceisio cwrdd ag anghenion unigol, mewn cyferbyniad â ffenomen gymdeithasol sy'n ceisio cwrdd ag anghenion cymunedol. Mae damcaniaethau seicolegol yn amrywio o weld dewiniaeth felniwrosis, neu weld dewiniaeth fel gwyddoniaeth ddrwg, i weld dewiniaeth fel cais i drin gor-bryder.

Gwreiddiau anthropolegol a seicolegol

[golygu |golygu cod]
Siaman y llwythurarina,1988.

Mae'r gred y gellir dylanwadu ar bwerau goruwchnaturiol drwy weddïo, offrymu neu gyda blaenweddïadau yn dyddio'n ôl igrefydd gynhanesyddol ac i'w weld mewn cofnodion cynnar megistestunau'r pyramidau a'rVeda.

Yn ôlJames Frazer, mae'r meddylfryd sydd yn sylfaen i'r cydsyniad o ddewiniaeth yn tarddu o gyfuniad o ymarferion a chredoau y mae unigolion mewn cymdeithas yn troi atynt er mwyn gwneud lles neu gyrraedd nod, naill ai fel grŵp pan fo rhwystr naturiol yn effeithio yn llym ar gymdeithas (sychder neu anffrwythlonder) ynteu fel unigolyn pan fo angen, er enghraifft, cael gwared â gelyn.

Yn ôl Frazer ceir dau fath o ddewiniaeth.

  • Dewiniaeth sympathetig, lle mae'r cyffelyb yn cynhyrchu'r cyffelyb, sef lle mae efelychiad o weithred yn cael yr un effeithiau ar wrthrych penodol â'r weithred go iawn.
  • Dewiniaeth ddifwynol, lle mae pethau a oedd mewn cysylltiad â gwrthrych yn dal yn gysylltiedig â'r gwrthrych yn dragwyddol, ac felly gellir defnyddio'r pethau i gael effaith ar y gwrthrych serch y pellter rhyngddynt mewn amser a gofod.

Credai Frazer fod dewiniaeth yn system gamarweiniol a honni taw canlyniad anghyffael mewnol oedd arsylwadau dewinol. Gwrthodai eraill syniadau Frazer, yn eu plithSigmund Freud. Yn ôl Freud, grym dymuniadau oedd yn gyfrifol am arwain dynion cyntefig at ddewiniaeth.

Damcaniaethau ymlynwyr

[golygu |golygu cod]

Mae gan ymlynwyr dewiniaeth sawl ddamcaniaeth i esbonio sut gallai dewiniaeth weithio.

  • Grymoedd naturiol cudd nas darganfuwyd eto gan wyddoniaeth, ac efallai ni chânt fyth eu darganfod. Mae'r grymoedd dewinol hyn yn bodoli ochr yn ochr â grymoedd sylfaenol natur feldisgyrchiant acelectromagneteg.
  • Ymyriad ysbrydion, yn debyg i rymoedd naturiol cudd ond gyda'u hymwybyddiaeth a dealltwriaeth eu hun. Bydd credinwyr yn aml yn disgrifio llond cosmos o bob math o ysbryd gyda'u hierarchaethau eu hun.
  • Grym cyfriniol megis mana, numen, tshî, neu kundalini, sy'n bodoli ym mhob peth. Weithiau bydd y grym yn cael ei grynodi i mewn i ryw wrthrych dewinol, megis modrwy, carreg neu swynogl, a fydd yn cael ei ddefnyddio gan y dewin.
  • Grym astudrwydd sef y cred y gall meddwl y dewin gael rheolaeth ar wrthrych neu gyrraedd rhyw nod penodol drwy ganolbwyntio ei feddyliau arno.
  • Grym yr isymwybod sef y cred bod gan yr isymwybod bwerau dewinol gall y dewin eu defnyddio drwy dechnegau amrywiol. Enghraifft o hyn yw techneg yseliau.
  • Cydgysylltiad neuUndod y Cyfan, sef y cred bod pob peth yn ybydysawd yn gysylltiedig â phob peth arall, ac felly gall y dewin defnyddio'r cydgysylltiadau hyn i effeithio ar bethau. Erbyn heddiw ceir amrywiaethau ar y cred hwn sy'n benthyg syniadau oddi wrth feysydd gwyddonol megisffiseg,mecaneg cwantwm,mathemateg aDamcaniaeth Caos.
  • Dim angen esboniad, hynny yw'r farn nad oes angen esboniad ar y dewin i egluro sut mae dewiniaeth yn gweithio: "os mae'n gweithio, mae'n gweithio."
  • Caniateir i bopeth; nid oes gwirionedd, un o brif ddywediadaudewiniaeth Caos. Yn ôl dewiniaeth caos gall unrhyw baradeim neu ddamcaniaeth fod yn ddilys gan nad yw'r fath beth â gwirionedd yn bodoli mewn unrhyw synnwyr gwrthrychol. Fel canlyniad bydd y dewin Caos yn defnyddio paradeimau ar hap ac ar fympwy.

Ceir llu o ddamcaniaethau eraill, ac yn wir fe fydd llawer o ymlynwyr yn creu eu damcaniaethau eu hun. Ond mae astudrwydd, synfyfyrio a defnydd y dychymyg (neu "weledoleiddio") yn gydsyniadau allweddol i ddewiniaeth yn gyffredin.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1Thomas Jones (cyf.),Gerallt Gymro, Caerdydd, 1938.
  2. Griffiths, Kate Bosse;Byd y Dyn Hysbys: Swyngyfaredd yng Nghymru, td 83-84 , Y Lolfa 1977.
  3. http://penelope.uchicago.edu/Thayer/E/Roman/Texts/secondary/SMIGRA*/Divinatio.html
  4. Griffiths, Kate Bosse;Byd y Dyn Hysbys: Swyngyfaredd yng Nghymru, td 9-10 , Y Lolfa 1977.
  5. Winthrop, Robert H.Dictionary of concepts in cultural anthropology. Efrog Newydd: Greenwood P, 1991.
  6. Dictionary of anthropology. Rhydychen: Blackwell, 1997.
gw  sg  go
Dewiniaeth
Mathau
Mythau/Llên gwerin
Prif Draethawd Hanesyddol
Ffuglen Ddiwddar
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Dewiniaeth&oldid=10782750"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp