| Deng Xiaoping |
|---|
 |
| Ganwyd | 22 Awst 1904  Guang'an  |
|---|
| Bu farw | 19 Chwefror 1997  Beijing  |
|---|
| Man preswyl | Q21018281  |
|---|
| Dinasyddiaeth | Brenhinllin Qing, Gweriniaeth Tsieina,Gweriniaeth Pobl Tsieina  |
|---|
| Alma mater | - Prifysgol Sun Yat-sen Moscfa
- Communist University of the Toilers of the East
- Q125785011

|
|---|
| Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr, diplomydd  |
|---|
| Swydd | paramount leader of the People's Republic of China, Chairman of the Central Military Commission of the Chinese Communist Party, Chairman of the National Committee of the Chinese People's Political Consultative Conference, Chairman of the Central Military Commission of the People's Republic of China, Vice Premier of the State Council of the People's Republic of China, member of the Politburo Standing Committee of the Chinese Communist Party, member of the Politburo Standing Committee of the Chinese Communist Party, member of the Politburo Standing Committee of the Chinese Communist Party, General Secretary of the Central Committee's Secretariat  |
|---|
| Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Tsieina, Kuomintang  |
|---|
| Mudiad | Chinese economic reform  |
|---|
| Priod | Zhang Xiyuan, Jin Weiying, Zhuo Lin  |
|---|
| Plant | Deng Pufang, Deng Nan, Deng Rong, Deng Zhifang  |
|---|
| Gwobr/au | People's Liberation Army Strategist, Person y Flwyddyn y Financial Times  |
|---|
| llofnod |
|---|
 |
Gwleidydd Tsineaidd oeddDeng Xiaoping (22 Awst1904 –19 Chwefror1997). Ef oedd arweinyddGweriniaeth Pobl Tsieina o 1977 hyd 1989.
Ganed ef ynChongqing. Yn y1920au, bu'n astudio ynFfrainc, lle daeth yn aelod o gymdeithas y myfyrwyr Tsieineaidd Comiwnyddol. Yn1926 aeth iMoscfa. Wedi dychwelyd i Tsieina, daeth yn aelod o Blaid Gomiwnyddol Tsieina.
Bu'n ymladd yn y rhyfel gerila yn erbyn yKuomintang, ac yna yn erbynJapan. Daeth yn aelod o Gyngor Canolog y Blaid Gomiwnyddol yn1945, ac wedi i'r blaid ddod i rym yn1949, daeth yn ddirprwy brif weinidog ac yn aelod o'r aelod o'r Politbureau yn1952. Yn1956 daeth yn ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol, a'r ail berson mwyaf pwerus yn Tsieina ar ôlMao Zedong.
Wedi marwolaeth Mao yn1976, bu ymryson am rym rhwng Deng a'rGang o Bedwar, oedd yn cynnwys gweddw Mao,Jiang Qing. Enillodd Deng, ac ef fu'n rheoli Tsieina o hynny hyd1989, pan benododdJiang Zemin fel ei olynydd. O hynny ymlaen, roedd yn parhau yn ffigwr pwysig yn y cefndir.