Ardal fetropolitaidd yng ngogleddIndia ywDelhi, yn swyddogolTiriogaeth y Brifddinas Genedlaethol (NCT), sydd hefyd yn 'diriogaeth undeb India' sy'n cynnwysDelhi Newydd, prifddinas India,Hen Ddelhi, a'u maestrefi.[1] Maearwynebedd yr NCT yn 1,484 cilomedr sgwâr (573 metr sgwâr). Lleolir Delhi ar lannauAfon Yamuna rhwng talaithUttar Pradesh i'r dwyrain a thalaithHaryana ar y tair ochr arall. Mae ganddi boblogaeth o tua 26,495,000(2016).[2] Bellach ystyrir bod ardal drefol Delhi yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau NCT, ac yn cynnwys dinasoedd-lloeren cyfagosGhaziabad,Faridabad, Gurgaon a Noida mewn ardal o'r enw'r Brifddinas-Ranbarth Cenedlaethol (NCR), gan ei gwneud yn ardal drefol ail-fwyaf y byd (yn 2021) yn ôl yCenhedloedd Unedig.[3]
Delhi yw'r ddinas ail gyfoethocaf yn India ar ôlMumbai ac mae'n gartref i 18 biliwnydd a 23,000 miliwnydd.[4] Delhi yw'r pumed talaith a thiriogaethau undeb yn India, o ranmynegai datblygiad dynol, ac mae ganddi’rCMC y pen (neu 'GDP per capita') ail uchaf yn India.[5]
Mae hi o arwyddocâd hanesyddol mawr fel dinas fasnachol, o ran trafnidiaeth ac yn ddiwylliannol, yn ogystal â bod yn ganolfan wleidyddol India.[6] Mae Delhi yn un o'r dinasoedd hynaf yn y byd, ac mae pobl wedi byw yno'n barhaus ers y6g CC.[7] Trwy'r rhan fwyaf o'i hanes, mae Delhi wedi gwasanaethu fel prifddinas amryw o deyrnasoedd ac ymerodraethau, yn fwyaf arbennig yPandavas,Swltaniaeth Delhi a'rYmerodraeth Mughal. Mae'r ddinas wedi cael ei chipio, ei llorio a'i hailadeiladu sawl gwaith, yn enwedig yn ystod ycyfnod canoloesol, ac mae Delhi fodern yn glwstwr o nifer o ddinasoedd sydd wedi'u gwasgaru ar draws y rhanbarth metropolitan. Am ganrifoedd lawer mae Delhi wedi bod yn brif ganolfan fasnachol yng ngogledd India, ac ar ôl1990au mae wedi dod i'r amlwg fel canolfan bwysig yn y rhwydwaith corfforaethol ac ariannol rhyngwladol.[8]
Fel 'tiriogaeth undeb', caiff ei rheoli'n ffederal gan Lywodraeth ganol India. Mae gweinyddiaeth wleidyddol NCT Delhi heddiw'n debyg i wladwriaeth India, gyda'i deddfwrfa ei hun, yr uchel lys a chyngor gweithredol gweinidogion dan arweiniad Prif Weinidog. Gweinyddir Delhi Newydd ar y cyd gan lywodraeth ffederal India a llywodraeth leol Delhi, ac mae'n gwasanaethu fel prifddinas y genedl yn ogystal â NCT Delhi. Cynhaliodd Delhi y Gemau Asiaidd cyntaf 1951, Gemau Asiaidd 1982, Uwchgynhadledd NAM 1983, Cwpan y Byd Hoci Dynion 2010,Gemau'r Gymanwlad 2010, Uwchgynhadledd BRICS 2012 ac roedd yn un o brif ddinasoedd cynnal Cwpan y Byd Criced 2011.
Mae'r enw 'Delhi' yn ôl y chwedl yn deillio o Dhillu neu Dilu, brenin a adeiladodd ddinas yn y lleoliad hwn yn 50 BCE a'i enwi ar ei ôl ei hun.[9][10][11] Mae chwedl arall yn mynnu bod enw'r ddinas wedi'i seilio ar y gairHindi /Prakrit 'dhili' ("rhydd") a'i bod wedi'i defnyddio gan y Tomaras i gyfeirio at y ddinas oherwydd bod gan biler haearn Delhi sylfaen wan a bod yn rhaid ei symud.[11] Enw'r ddinas ar adeg y Brenin Prithviraj oedd "Dilpat", ac mae’n debyg bod 'dilpat' a 'dilli' yn deillio o’r hen air Hindi 'dil' sy’n golygu “bryncyn” neu "godiad tir". Soniodd cyn gyfarwyddwr Arolwg Archeolegol India, Alexander Cunningham, i'r enw 'dilli', yn ddiweddarach, droi'n "Dihli / Dehli".[12]
Mae'n debyg bod pobl wedi byw yn yr ardal o amgylch Delhi cyn yr ail mileniwm BCE ac mae tystiolaeth o breswylio parhaus ers y 6ed ganrif BCE o leiaf.[7] Credir bod y ddinas yn safle Indraprastha, prifddinas chwedlonol y Pandavas yn yr epig Indiaidd Mahabharata. Yn ôl y Mahabharata, roedd y tir hwn i ddechrau yn fàs enfawr o goedwigoedd o'r enw 'Khandavaprastha' a losgwyd i lawr gan y Pandavas i adeiladu dinas Indraprastha.[9]
Mae'r creiriau pensaernïol cynharaf yn dyddio'n ôl i gyfnod Maurya (tua 300 BCE); ym 1966, darganfuwyd arysgrif o'r Ymerawdwr Mauryan Ashoka (273–235 BCE) ger Srinivaspuri. Gellir gweld olion sawl dinas fawr yn Delhi. Roedd y cyntaf o'r rhain yn rhan ddeheuol Delhi heddiw. Sefydlodd y Brenin Anang Pal o linach Tomara ddinas Lal Kot yn 736 CE. Gorchfygodd Prithviraj Chauhan Lal Kot ym 1178 a'i ailenwi'n Qila Rai Pithora.
Gorchfygwyd y brenin Prithviraj Chauhan ym 1192 gan Muhammad Ghori yn ail frwydr Tarain, goresgynnwr oAffganistan, a wnaeth ymdrech ar y cyd i goncro gogledd India.[9] Erbyn 1200, roedd y pwer brodorol Hindŵaidd wedi gwanhau, ac daeth y goresgynwyr Mwslimaidd yn fuddugol. Byddai goruchafiaeth newydd Mwslimaidd Tyrcig tramor yng ngogledd India yn para am y pum canrif nesaf.[9]
Cafodd y cadfridog Qutb-ud-din Aibak, y cyfrifoldeb o lywodraethu tiriogaethau gorchfygedig India nes i Ghori ddychwelyd i'w brifddinas, Ghor. Pan fu farw Ghori heb etifedd yn 1206 CE, rhannwyd ei diriogaethau, gyda chadfridogion amrywiol yn hawlio sofraniaeth dros wahanol ardaloedd. Cymerodd Qutb-ud-din reolaeth ar eiddo Indiaidd Ghori, a gosod sylfaen Sultanate Delhi a llinach Mamluk. Dechreuodd adeiladu mosgQutb Minar a Quwwat-al-Islam ("Cryfder Islam"), y mosg cynharaf sy'n bodoli ynIndia. Ei olynydd, Iltutmish (1211–1236), a gynorthwyodd yng nghoncwest y Turkic yng ngogledd India. Dilynodd Razia Sultan, sef merch Iltutmish, ef fel Sultan Delhi. Hi oedd y fenyw gyntaf a'r unig fenyw i reoli Delhi cyn yRaj Prydeinig.[17]
Am y tri chan mlynedd nesaf, rheolwyd Delhi gan olyniaeth o Turkic ac linach Afghanistan, Lodi. Fe wnaethant adeiladu sawl cae a threfgordd sy'n rhan o saith dinas Delhi. Roedd Delhi yn brif ganolfan Sufism yn ystod y cyfnod hwn.
Cafodd Delhi ei gipio a’i chwalu gan Timur ym 1398, a laddodd 100,000 o garcharorion.[18][19] Parhaodd dirywiad Delhi o dan linach Sayyid (1414–1451), nes i'r swltanad gael ei leihau i Delhi'n unig. O dan linach Lodi Afghanistan (1451–1526), fe adferodd swltanad Delhi reolaeth ar y Punjab a’r gwastadedd Gangetig i sicrhau goruchafiaeth unwaith eto dros Ogledd India. Fodd bynnag, byrhoedlog oedd yr adferiad a dinistriwyd y swltanad ym 1526 ganBabur, sylfaenydd llinach Mughal.
Yn 1803, yn ystod yr Ail Ryfel Eingl-Maratha, trechodd lluoeddCwmni Dwyrain India Prydain (neu'rEast India Company) luoedd Maratha ym Mrwydr Delhi.[20]
Yn ystodGwrthryfel India ym 1857, cwympodd Delhi i luoedd y 'British East India Company ar ôl ymladd gwaedlyd "Brwydr Gwarchae Delhi". Daeth y ddinas dan reolaeth uniongyrcholLlywodraeth Prydain ym 1858. Fe'i gwnaed yn dalaith ardal yPunjab. Ym 1911, cyhoeddwyd bod prifddinas tiriogaethau Prydain yn India i gael ei throsglwyddo oCalcutta i Delhi.[21]
Bathwyd yr enw "New Delhi" ym 1927, a chafodd y brifddinas newydd ei sefydlu ar 13 Chwefror 1931. Cyhoeddwyd Delhi Newydd, a elwir hefyd yn "Lutyens 'Delhi", yn swyddogol fel prifddinas Undeb India ar ôl i'r wlad ennillannibyniaeth ar 15 Awst 1947.[22][23]
Yn ystod rhaniad India gan Brydain (a ranwyd y wlad yn India aPhacistan[24]), ffodd miloedd o ffoaduriaid Hindŵaidd a Sikhaidd, yn bennaf o Orllewin Punjab i Delhi, tra ymfudodd llawer o drigolion Mwslimaidd y ddinas i Bacistan. Mae'r ymfudo i Delhi o weddill India yn parhau (yn 2021), gan gyfrannu mwy at gynnydd poblogaeth Delhi na'r gyfradd genedigaethau, sy'n gostwng.[25]
↑9.09.19.29.3"Chapter 1: Introduction"(PDF).Economic Survey of Delhi, 2005–2006. Planning Department, Government of National Capital Territory of Delhi. tt. 1–7. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 13 Tachwedd 2016. Cyrchwyd21 Rhagfyr 2011.
↑Bakshi, S.R. (1995) [2002].Delhi Through Ages. Whispering Eye Bangdat. t. 2.ISBN978-81-7488-138-0.
↑Mittal, J.P. (2006), History of Ancient India (4250 BCE to 637 CE) p. 675,ISBN978-81-269-0616-1 (This author considers King Agrasen an actual historical figure)
↑"India: Qutb Minar and its Monuments, Delhi"(PDF).State of Conservation of the World Heritage Properties in the Asia-Pacific Region: : Summaries of Periodic Reports 2003 by property, Section II.UNESCO World Heritage Centre. tt. 71–72. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 24 Mai 2006. Cyrchwyd22 December 2006.