Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Defynnog

Oddi ar Wicipedia
Defynnog
Eglwys Sant Cynog, Defynnog.
Mathpentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCynog Ferthyr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMaescar Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9°N 3.6°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map

Pentref bychan yngnghymunedMaescar,Powys,Cymru, ywDefynnog.[1] Saif yn ardalBrycheiniog yn ne'r sir, fymryn i'r de oBontsenni ar groesffordd lle mae'rA4067 oYstradgynlais yn cwrdd â'rA4215. I'r de-orllewin ceirY Gaer, sefcaer Rufeinig.[2]

I'r de o'r pentref ceir yFforest Fawr, sy'n ffurfio rhan ganologParc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. I'r dwyrain o'r pentref ceir bryn 400 metr Cefn Llechid. Maeafon Senni yn llifo trwy'r pentref ar ei ffordd i aberu ynafon Wysg ger Pontsenni.

Cynrychiolir yr ardal hon ynSenedd Cymru ganJames Evans (Ceidwadwyr)[3] ac ynSenedd y DU ganDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]

Gwenllian Morgan (neu ar lafar Miss Philip Morgan) (9 Ebrill 1852 - 7 Tachwedd 1939) oedd y ferch gyntaf yng Nghymru i gael ei gwneud yn Faer (neu'n Faeres). Roedd yn hynafieithydd a chyhoeddodd lyfrau am ei hardal.

Eglwys Sant Cynog a'r garreg ogham

[golygu |golygu cod]
Carreg ogham Eglwys Sant Cynnog

Cysegrir eglwys yplwyf iSantCynog, un o feibionBrychan, breninTeyrnas Brycheiniog ac mae'r adeilad wedi'i chofrestru'n Radd 1 gan Cadw.[5] Dethlidgwylmabsant Cynog yr eilfed ddydd Iau o fis Hydref. Ceir colofn o garreg yn yllan aChroes Geltaidd ar ei phen; ceir olion arysgrgifLadin acOgam arni ond mae'n anarllenadwy bellach. CyfarfuDaniel Rowland aHowel Harris am y tro cyntaf yn yr eglwys hon yn1737.

Yn 1836 cysegrwyd eglwys arall ym mhlwyf Defynnog iCallwen.[6]

Ceir carreg gydag arysgrif Ladin o5g neu6g yn nhŵr yr eglwys. Arni nodir naill ai:

RVGMIATIO/FI0LI VENDONI

neu

D?0RVGNIATO/FI/LI VENDONI

"Carreg Rugniato, mab Vendonus".

Fe'i gosodwyd yn y mur yn y14g a'i symud i gyntedd yr egwlys yn lled ddiweddar - gan ei gosod mewn concrid!

Hen ywen Defynnog

[golygu |golygu cod]

Ceir ym mynwent Eglwys Sant Cynog hen ywen y credir ei bod oddeutu 5,000 o flynyddoedd oed. Mae'n 60 troedfedd o led ac wedi hollti'n ddwy: y naill yn 40 tr a'r llall yn 20 tr. Yn ei bon, ceir 120 modrwy ym mhob modfedd! Ar ei heithaf, mae coron y goeden yn 60 tr mewn diametr.[7]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru"Archifwyd 2023-03-30 yn yPeiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 12 Mawrth 2024
  2. An Inventory of the Ancient Monuments in Brecknock (Brycheiniog): Hill-forts and Roman remains.Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. 1986. t. 32.ISBN 978-0-11-300003-6.
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Church of Saint Cynog, Maescar". British Listed Buildings. Cyrchwyd17 December 2013.
  6. Rees, Rice (1836), An Essay on the Welsh Saints Or the Primitive Christians, Usually Considered to Have Been the Founders of the Churches in Wales, Longman, Rees, Orme, Brown, Green, and Longman, p. 153, https://books.google.com/books?id=h4gOAAAAQAAJ&pg=PA139, adalwyd 2016-04-07
  7. "5000 years and counting". Woodlands.co.uk. Cyrchwyd29 April 2016.
gw  sg  go
Trefi a phentrefiPowys

Trefi
Aberhonddu  ·Crucywel  ·Y Drenewydd  ·Y Gelli Gandryll  ·Llanandras  ·Llandrindod  ·Llanfair-ym-Muallt  ·Llanfyllin  ·Llanidloes  ·Llanwrtyd  ·Machynlleth  ·Rhaeadr Gwy  ·Talgarth  ·Y Trallwng  ·Tref-y-clawdd  ·Trefaldwyn  ·Ystradgynlais
Pentrefi
Abaty Cwm-hir  ·Aberbrân  ·Abercegir  ·Abercraf  ·Aberedw  ·Abergwesyn  ·Abergwydol  ·Aberhafesb  ·Aberhosan  ·Aberllynfi  ·Aber-miwl  ·Aberriw  ·Abertridwr  ·Aberysgir  ·Adfa  ·Arddlin  ·Bachelldref  ·Y Batel  ·Betws Cedewain  ·Beulah  ·Bochrwyd  ·Bontdolgadfan  ·Y Bontnewydd-ar-Wy  ·Bronllys  ·Bugeildy  ·Bwlch  ·Caersŵs  ·Capel Isaf  ·Capel Uchaf  ·Capel-y-ffin  ·Carno  ·Casgob  ·Castell Caereinion  ·Castell-paen  ·Cathedin  ·Cegidfa  ·Cemaes  ·Ceri  ·Cilmeri  ·Y Clas-ar-Wy  ·Clatter  ·Cleirwy  ·Cnwclas  ·Coedybrenin  ·Coelbren  ·Comins-coch  ·Crai  ·Craig-y-nos  ·Crugion  ·Cwmdu  ·Cwm-twrch  ·Darowen  ·Defynnog  ·Derwen-las  ·Dolanog  ·Dolfor  ·Dylife  ·Einsiob  ·Erwd  ·Esgairgeiliog  ·Felindre, Maldwyn  ·Felin-fach  ·Y Foel  ·Ffordun  ·Gaer  ·Garth  ·Glan-miwl  ·Glantwymyn  ·Glasgwm  ·Y Groes  ·Gwenddwr  ·Heol Senni  ·Isatyn  ·Kinnerton  ·Libanus  ·Llan  ·Llanafan Fawr  ·Llananno  ·Llanarmon Mynydd Mawr  ·Llanbadarn Fynydd  ·Llanbadarn Garreg  ·Llanbister  ·Llanbryn-mair  ·Llandinam  ·Llandrinio  ·Llandyfaelog Tre'r-graig  ·Llandysilio  ·Llandysul  ·Llan-ddew  ·Llanddewi yn Hwytyn  ·Llanddewi Ystradenni  ·Llanelwedd  ·Llanerfyl  ·Llanfair Caereinion  ·Llanfair Llythynwg  ·Llanfechain  ·Llanfihangel Nant Brân  ·Llanfihangel Nant Melan  ·Llanfihangel Rhydieithon  ·Llanfihangel Tal-y-llyn  ·Llanfihangel-yng-Ngwynfa  ·Llanfrynach  ·Llangadfan  ·Llangadwaladr  ·Llangamarch  ·Llangasty Tal-y-llyn  ·Llangatwg  ·Llangedwyn  ·Llan-gors  ·Llangurig  ·Llangynidr  ·Llangynllo  ·Llangynog  ·Llangynyw  ·Llanhamlach  ·Llanigon  ·Llanllugan  ·Llanllwchaearn  ·Llanllŷr  ·Llanrhaeadr-ym-Mochnant  ·Llansanffraid Cwmdeuddwr  ·Llansanffraid-ym-Mechain  ·Llansantffraed (Aberhonddu)  ·Llansantffraed-yn-Elfael  ·Llansilin  ·Llanwddyn  ·Llanwnnog  ·Llanwrin  ·Llanwrthwl  ·Llanwyddelan  ·Llanymynech  ·Llan-y-wern  ·Llawr-y-glyn  ·Llechfaen  ·Llowes  ·Llys-wen  ·Llywel  ·Llwydiarth  ·Manafon  ·Meifod  ·Merthyr Cynog  ·Mochdre  ·Nant-glas  ·Nantmel  ·Pandy  ·Pencelli  ·Pencraig  ·Penegoes  ·Pengefnffordd  ·Pennant Melangell  ·Pentrefelin  ·Penybont  ·Pen-y-bont-fawr  ·Pilalau  ·Pipton  ·Pont-faen  ·Pontneddfechan  ·Pontrobert  ·Pontsenni  ·Pwllgloyw  ·Saint Harmon  ·Sarn  ·Sarnau, Brycheiniog  ·Sarnau, Maldwyn  ·Sgethrog  ·Snead  ·Sycharth  ·Talachddu  ·Talerddig  ·Tal-y-bont  ·Tal-y-bont ar Wysg  ·Tirabad  ·Trallong  ·Trecastell  ·Trefeca  ·Trefeglwys  ·Tregynon  ·Trelystan  ·Tre'r-llai  ·Tretŵr  ·Tre-wern  ·Walton  ·Yr Ystog

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Defynnog&oldid=13302506"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp