Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Deddf disgyrchedd cyffredinol Newton

Oddi ar Wicipedia
Deddf disgyrchedd cyffredinol Newton
Enghraifft o:deddf ffiseg Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewnffiseg,disgyrchiant yw tueddiad gwrthrychau i gyflymu tuag at ei gilydd. Disgyrchiant yw un o'r pedwar grym naturiol sylfaenol. Y lleill yw grymelectromagneteg, ygrym gwan niwclear a'rgrym cryf niwclear. Disgyrchiant yw'r gwanaf o'r pedwar.

Mae disgyrchiant yddaear yn rhoi pwysau i wrthrychau ag yn achosi iddynt ddisgyn tuag at wyneb y ddaear. Mae'r ddaear yn symud tuag at y gwrthrych hefyd ond mae'r symudiad yn rhy fach i'w sylwi. Mae'rplanedau yn trogylchu'rhaul oherwydd effaith disgyrchiant. Yn yr un modd y mae'rlleuad yn trogylchu'r ddaear, gellir gweld dylanwad disgyrchiant y lleuad ar y ddaear mewn bodolaethllanw y môr.

Gwaith Isaac Newton

[golygu |golygu cod]
Ygrym disgyrchiant sydd yn cadw y planedau yn trogylchu yr Haul.

Yn1678 cyhoeddwyd gwaithNewton ar ddeddfau disgyrchiant ynMathematical Principles of Natural Philosophy. Dywedodd Newton fodpob gronyn yn y bydysawd yn atynnu pob gronnyn arall gyda grym sydd yn gyfrannol i wrthdroad y sgwar o'r pellter rhyngddynt. Mae dau ronnyn gyda mâsm1 am2 wedi ei gwahanu gyda pellterr (o'i ganolbwynt disgyrchol), maint y grym disgyrchol yw:

F=Gm1m2r2{\displaystyle F=G{\frac {m_{1}m_{2}}{r^{2}}}}

Lle

F yw maint y grym disgyrchol
G yw'rcysonyn disgyrchol

Mae'r hafaliaf yma yn dilyn i hafaliad y gwaith a wneir yn symud mâs o radiws (R) i anfeidroledd, drwy integru grym disgyrchian o R i anfeidroledd y canlyniad yw:

ED=Gm1m2r{\displaystyle E_{D}=-{Gm_{1}m_{2} \over r}}

Disgyrchiant y ddaear

[golygu |golygu cod]

Fel trafodwyd yn gynharach mae gan y ddaear faes disgrychol ei hun sydd yn atynnu gwrthrychau tuag at o. Mae'r maes disgyrchol yn rhifyddol-hafal i'r cyflymu mae gwrthrych yn ei wneud o dan ei ddylanwad, ei werth ar wyneb y ddaear yw 9.81m/e², dynodwyd fel arfer gan y llythyreng. Golygir hyn bod gwrthyrch sy'n disgyn yn agos i wyneb y ddaear yn cynyddu ei gyflymder 9.81m/e pob eiliad mae'n disgyn (yn anwybyddu gwrthiant aer).

Ar wyneb y ddaear gellir defnyddio yr hafaliad syml

F=mg{\displaystyle F=mg}

i gyfrifo y grym ar wrthrych oherwydd disgyrchiant y ddaear. Diddynwyd y perthynas yma o hafaliad disgyrchol Newton. Gellir defnyddio yr hafaliad yma, drwy integru rhwng0 ah i gyfrifo ynni potential gwrthrych wedi ei leoli yn pwynth uwchben wyneb y ddaear:

ED=mgh{\displaystyle E_{D}=mgh}

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Deddf_disgyrchedd_cyffredinol_Newton&oldid=13682960"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp