| David Bevan Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | 1807 Llandysul |
| Bu farw | 18 Gorffennaf 1863 Logan |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Bardd, emynydd a gweinidog oGymru oeddDavid Bevan Jones (Dewi Elfed) (1807) –18 Gorffennaf1863).[1] Roedd yn weinidog gyda'rBedyddwyr i ddechrau ac wedyn gyda'rMormoniaid.
Ganwyd Dewi Elfed yn Gellifaharen,Llandysul,Ceredigion yn blentyn i John a Hannah Jones. Does dim cofnod o union ddyddiad ei eni ond cafodd ei fedyddio yn Eglwys Dewi Sant, Llandysul ar30 Gorffennaf1807[2] mewn cyfnod pan oedd tuedd i fedyddio plentyn o fewn dyddiau i'w geni.
Er ei fod wedi ei fedyddio ynEglwys Loegr ymunodd Dewi Elfed a'i deulu ag enwad y Bedyddwyr yng Nghapel Pen-y-bontLlanfihangel-ar-arth gan dderbyn bedydd oedolyn tua 1822. Ym 1833, fodd bynnag, digwyddodd rhaniad yng nghynulleidfa Pen-y-bont a arweiniodd at sefydlu achos ar wahân yn Ebeneser, Llandysul. Mae'n ymddangos bod teulu Dewi Elfed ymhlith y rhai a symudodd i Ebeneser. Fel aelod o gapel Ebeneser ddechreuodd bregethu. Fe'i hordeiniwyd yn weinidog ar gapeli Crugmaen a'r Cwrtnewydd ar 18 Mehefin, 1841.[3] Ym 1846 derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar gapel Jerwsalem,Rhymni.[4]
Wedi dwy flynedd yn y Rhymni symudodd Dewi Elfed i fugeilio Capel Gwawr,Aberaman. Roedd Capel Gwawr yn un o'r nifer o gapeli a agorwyd ganThomas Price (Calfaria, Aberdâr) wrth i gynulleidfaoedd y Bedyddwyr tyfu'n aruthrol gyda dyfodiad mewnfudwyr i Gwm Dâr yn sgil twf y fasnach glo. Erbyn cyrraedd Aberaman roedd Dewi Elfed wedi dod o dan ddylanwad Mormoniaeth. Ar27 Ebrill1851 cafodd Dewi ei fedyddio yn aelod o'r Mormoniaid ynAfon Cynon a cheisiodd troi Capel y Wawr yn gapel Mormonaidd. Aeth y Bedyddwyr i gyfraith i gael yr adeilad yn ôl. Ym mis Tachwedd 1851, arweiniodd Price orymdaith o Fedyddwyr i Aberaman i adennill yr adeilad. Ar ôl iddynt gyrraedd Gwawr, daeth yn amlwg bod Dewi Elfed wedi cloi ei hun y tu mewn i'r capel, ynghyd ag un o'i gefnogwyr. Dywedodd swyddog llys nad oedd ganddo'r awdurdod i gael mynediad trwy orfodi'r drws. Ond fe lwyddodd Price i gael mynediad i'r adeilad ynghyd ag un o'i diaconiaid. Bu Price yn ymlid Dewi Elfed o amgylch feinciau ac orielau'r capel mewn modd “gwyllt a chyffroes” hyd ei ddal a'i droi allan o'r capel.[5]
Wedi ei droi allan o'r capel ac enwad y Bedyddwyr dechreuodd Dewi Elfed gweithio fel cenhadwr i'r Mormoniaid ymMorgannwg aGwent a fei a benodwyd yn drysorydd cenhadaeth y sect. 1853 penodwyd Dewi Elfed yn llywydd Cynhadledd MormoniaidLlanelli, cynhadledd Llanelli oedd y bedwaredd fwyaf yng Nghymru ar y pryd[6] Penodwyd Aneurin Jones, ei fab, yn ysgrifennydd cynhadledd Llanelli. Ym 1854, wedi i'r CaptenDan Jones, Mormon amlygaf Cymru, symud pencadlys y sect oFerthyr iAbertawe penodwyd Dewi Emlyn yn llywydd cynhadledd Abertawe.[7] Yn Abertawe sefydlodd eisteddfod Formonaidd, lle'r oedd testunau'r holl gystadlaethau yn ymwneud â llwyddiant gwaith y sect ym Morgannwg. Daeth ei lywyddiaeth i ben ym mis Gorffennaf, 1855 pan gafodd ei gyhuddo'n gyhoeddus a’i ysgymuno am gamymddwyn ariannol.[6] Cyn pen blwyddyn cafodd ei adfer yn aelod o Eglwys y Mormoniaid; er na ddaliodd swydd ffurfiol eto yn ei lywodraeth na'i weinyddiaeth, ond parhaodd i bregethu ac i genhadu ym Morgannwg.
Yn ôl llyfryn John DaviesLlenorion a Llenyddiaeth Ceredigion cyhoeddwyd tair gwaith gan Dewi Elfed:
Dim ond yr olaf sydd dal ar gael.[6] Cafodd nifer o gerddi ac emynau Dewi Emlyn eu cyhoeddi ynYr Haul aSeren Gomer yn ystod ei gyfnod fel Bedyddiwr ac wedyn ynUdgorn Seion wedi iddo droi at y Mormoniaid.
Mae cyfrifiad 1851 yn dweud bod Dewi yn briod a gwraig o'r enw Ann a bod ganddynt bump o blant tair merch a ddau fab.[8] Ym 1860 ymfudodd Dewi ei wraig a'i fab a merch ieuengaf i'r America.[1]
Bu farw o'rdiciâu yn Logan, Cache County, Utah Territory yn 54 mlwydd.[9]