Dafydd ab Edmwnd | |
---|---|
Ganwyd | 15 g ![]() Hanmer ![]() |
Bu farw | 1497 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Blodeuodd | 1450 ![]() |
Bardd Cymraeg oeddDafydd ab Edmwnd (bl.1450 -1497), sy'n adnabyddus yn bennaf am sefydlu'n derfynol y gyfundrefn mesurau caeth 'traddodiadol' a adnabyddir fel ypedwar mesur ar hugain, ynEisteddfod Caerfyrddin 1451.
Brodor oHanmer yn yMaelor Saesneg (ardal bwrdeistref sirolWrecsam heddiw) oedd Dafydd. Ef oedd perchen plasYr Owredd ac mae'n debyg iddo fyw ynLlaneurgain hefyd am gyfnod, ym mhlas teulu ei fam ym Mhwllgwepra. Rhai o dras Seisnig y Gororau, ac a Gymreigwyd yn llwyr gyda threigl amser, oedd ei hynafiaid.
Ei athro barddol oeddMaredudd ap Rhys a bu Dafydd yntau yn athro barddol i ddau o feirdd mawr cyfnodBeirdd yr Uchelwyr, sefTudur Aled aGutun Owain. Ymddengys ei fod yn ewyrth i Dudur Aled.
Enillodd Dafydd y gadair yn yreisteddfod yng Nghaefyrddin a drefnwyd ganGruffudd ap Nicolas. Yn ôl traddodiad, Dafydd oedd yn gyfrifol am y newid yng nghyfundrefn y beirdd yn yr eisteddfod honno (gw.pedwar mesur ar hugain). Mae Dafydd wedi cael ei feirniadu gan sawl beirniad ers hynny am gyflwyno dau fesur astrus o gymhleth o'i ben a'i bastwn ei hun i'r mesurau traddodiadol a gorfodi eu dysgu. Ond pwrpas y mesurau newydd hyn, na fu erioed mewn bri, oedd fod yn brawf dechnegol i ddarpar feirdd er mwyn cyfyngu nifer y beirdd proffesiynol a drwyddedid ynbenceirddiaidd. Gwrthododd rhai o feirdd y cyfnod felGwilym Tew eu derbyn ond yn raddol daethant yn rhan o'r drefn gydnabyddedig.
Roedd Dafydd yn fardd cynhyrchiol a chedwir nifer o'i gerddi ar glawr.Canu serch oedd ei arbenigedd, ond er bod y cerddi yn debyg i raiDafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr o ran themâu, mae ei arddull yn glasurol a gorchestol.
Canodd gerddi mawl hefyd. MaemarwnadauSiôn Eos aDafydd ab Ieuan oLwydiarth,Môn yn cael eu cyfrif fel rhai o'rcywyddau marwnad gorau.
![]() | Mae ganWicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Testunau ar wicilyfrau:
Bedo Hafesb ·Bleddyn Ddu ·Cadwaladr Cesail ·Casnodyn ·Rhisiart Cynwal ·Wiliam Cynwal ·Dafydd ab Edmwnd ·Dafydd Alaw ·Dafydd ap Gwilym ·Dafydd ap Siencyn ·Dafydd Benwyn ·Dafydd Ddu o Hiraddug ·Dafydd Gorlech ·Dafydd Llwyd o Fathafarn ·Dafydd Nanmor ·Dafydd y Coed ·Edward Dafydd ·Deio ab Ieuan Du ·Lewys Dwnn ·Edward Maelor ·Edward Sirc ·Edward Urien ·Einion Offeiriad ·Gronw Ddu ·Gronw Gyriog ·Gruffudd ab Adda ap Dafydd ·Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan ·Gruffudd ap Dafydd ap Tudur ·Gruffudd ap Llywelyn Lwyd ·Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd ·Gruffudd ap Tudur Goch ·Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed ·Gruffudd Gryg ·Gruffudd Hiraethog ·Gruffudd Llwyd ·Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan ·Guto'r Glyn ·Gutun Owain ·Gwerful Fychan ·Gwerful Mechain ·Gwilym Ddu o Arfon ·Gwilym Tew ·Hillyn ·Huw Cae Llwyd ·Huw Ceiriog ·Huw Cornwy ·Huw Llŷn ·Huw Pennant (I) ·Huw Pennant (II) ·Hywel ab Einion Lygliw ·Hywel ap Mathew ·Hywel Cilan ·Hywel Ystorm ·Ieuan ap Huw Cae Llwyd ·Ieuan ap Hywel Swrdwal ·Ieuan Brydydd Hir ·Ieuan Du'r Bilwg ·Ieuan Dyfi ·Ieuan Gethin ·Ieuan Llwyd ab y Gargam ·Ieuan Tew Ieuanc ·Iocyn Ddu ab Ithel Grach ·Iolo Goch ·Iorwerth ab y Cyriog ·Iorwerth Beli ·Iorwerth Fynglwyd ·Ithel Ddu ·Lewis ab Edward ·Lewys Daron ·Lewys Glyn Cothi ·Lewys Môn ·Lewys Morgannwg ·Llywarch Bentwrch ·Llywelyn ab y Moel ·Llywelyn ap Gwilym Lygliw ·Llywelyn Brydydd Hoddnant ·Llywelyn Ddu ab y Pastard ·Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon ·Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ·Llywelyn Goch ap Meurig Hen ·Llywelyn Goch y Dant ·Llywelyn Siôn ·Mab Clochyddyn ·Madog Benfras ·Maredudd ap Rhys ·Meurig ab Iorwerth ·Morus Dwyfech ·Owain Gwynedd ·Owain Waed Da ·Prydydd Breuan ·Tomos Prys ·Gruffudd Phylip ·Phylip Siôn Phylip ·Rhisiart Phylip ·Rhys Cain ·Rhys Nanmor ·Siôn Phylip ·Siôn Tudur ·Raff ap Robert ·Robert ab Ifan ·Robin Ddu ap Siencyn ·Rhisierdyn ·Rhisiart ap Rhys ·Rhys ap Dafydd ab Einion ·Rhys ap Dafydd Llwyd ·Rhys ap Tudur ·Rhys Brydydd ·Rhys Goch Eryri ·Sefnyn ·Simwnt Fychan ·Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan ·Siôn ap Hywel Gwyn ·Siôn Brwynog ·Siôn Cent ·Siôn Ceri ·Sypyn Cyfeiliog ·Trahaearn Brydydd Mawr ·Tudur Aled ·Tudur ap Gwyn Hagr ·Tudur Ddall ·Wiliam Llŷn ·Y Mab Cryg ·Y Proll ·Yr Ustus Llwyd