Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Daearyddiaeth ffisegol

Oddi ar Wicipedia
Strabo
Un o gyhoeddiadau Strabo: Rerum geographicarum libri XVII. I.Casaubonius recensuit. G. Xylandri recognita. Acc. E Morelli observatiunculae. Paris, Typis Reglis 1620

Prif faesdaearyddiaeth ffisegol ywgwyddor Daear. Mae'n ceisio deall ylithosffer, yrhydrosffer,yr atmosffer, ypedosffer a phatrymaufflora affawna (sef y bioseffer). Caiff y maes eang 'Daearyddiaeth' ei rhannu'n ddwy brif faen, y maes hwn a'i chwaer faes,Daearyddiaeth ddynol; mae'r naill yn perthyn yn agos iawn i'r llall e.e. pan sonir am effaith pobl ar y Ddaear, ni ellir osgoi'r ochr ffisegol o'r Ddaear.

Mae ymchwil o fewn daearyddiaeth ffisegol yn un rhyngddisgyblaethol ac yn defnyddio'r dull 'systemau'.

Gellir dosbarthu daearyddiaeth ffisegol fel hyn:

BioddaearyddiaethHinsawdd aTywyddMoroedd acArfordirAmgylchedd
GeodeddDaeareg aGeomorffolegRhewlifegHydroleg aHydrograffeg
Ecoleg tirffurfiauEigionegPriddegPaleoddaearyddiaeth
Gwyddoniaeth cwaternaiddCartograffegMynyddoeddCynhesu byd eang

Y termau arferol am Ddaearyddiaeth ffisegol yn Saesneg yw:Physical geography,geosystems aphysiography.[1][2]

Hanes y ddisgyblaeth

[golygu |golygu cod]

Ers pan cychwynwyd astudio'r maes yng nghyfnod y Groegwyr, a hyd at yC19 hwyr pan cychwynodd 'daearyddiaeth anthropolegol', gwyddoniaeth natur oedd daearyddiaeth gan fwyaf: yr astudiaeth o le a rhestr o leoedd y byd. Gellir nodi'r gweithiau neu'r gwyddonwyr canlynol fel rhai o'r cyhoeddiadau pwysicaf eu hoes yn y maes hwn:Strabo (Geographicarum),Eratosthenes (Geographika), Martín Fernández de Enciso (Summa de Geografía),Dionisio Periegetes (Periegesis Oiceumene) ac yn C19: Alexander von Humboldt (Kosmos).

Y ddwy ffactor cryfaf yn y torriad o'r prif faes daearyddiaeth yn C19 oedd yn gyntaf twf gwladychol, colonial rhai gwledydd i fewn i Asia, Affrica, Awstralia ac America - gan ymchwilio gan grafangu deunyddiau crai'r ardaloedd hyn, er mwyn bwydo'rChwyldro Diwydiannol roeddent wedi ei greu. Er mwyn y twf a'r ehangu tiroedd hyn, crewyd nifer o adrannau newydd mewn prifysgolion i fapio'r 'Byd newydd' hwn. Yr ail ffactor yn sefydlu daearyddiaeth ffisegol yn wyddor ynddi ei hun oedd y datblygiadau cyffrous ym mydesblygiad ganDarwin a gafodd gryn effaith ar yr Almaenwr, yswolegydd a'r daearyddiaethwr Friedrich Ratzel (1844 – 1904) ac a ddatblygodd y wyddor rydym yn ei adnabod heddiw felBioddaearyddiaeth. Ystyrir ycrynnwrWilliam Morris Davis oPhiladelphia,Pennsylvania ynUnol Daleithiau America hefyd fel un a ddatblygodd y maes hwn.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Is-feysydd
Anthropoleg
Cyfraith
Cymdeithaseg
Daearyddiaeth
Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth
Hanes
Ieithyddiaeth
Seicoleg
Meysydd rhyngddisgyblaethol
Dulliau a methodoleg
Categorïau a dosbarthiadau tebyg
  1. Fundamentals of Physical Geography, 2nd Edition, by M. Pidwirny, 2006
  2. Pidwirny, Michael; Jones, Scott (1999–2015)."Physical Geography".
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Daearyddiaeth_ffisegol&oldid=14326248"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp