Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Daeargryn a tsunami Sendai 2011

Oddi ar Wicipedia
Daeargryn a tsunami Sendai 2011
Enghraifft o:megathrust earthquake,tsunami, off Sanriku earthquake, multi-segment earthquake, Q18460157 Edit this on Wikidata
Dyddiad11 Mawrth 2011 Edit this on Wikidata
Lladdwyd19,759 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganMarch 2011 Sanriku earthquake Edit this on Wikidata
LleoliadNorth Pacific Ocean Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethJapan Edit this on Wikidata
Hyd160 eiliad Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0gh6mkc edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lleoliad y ddaeargryn.
Tokyo wedi'r daeargryn a tsunami Sendai

Daeargryn arraddfa 9.0 Mw a daroddSendai ynJapan, am 14:46 amser lleol ar11 Mawrth2011 (05:46:23 11 MawrthUTC) oeddDaeargryn Sendai 2011. Roedd yruwchganolbwynt yn agos i Sendai ar yr ynysHonshu, tua 130kilometr (81 milltir) i ffwrdd o draeth dwyreiniol Penrhyn Oshika, Tōhoku, gyda'r canolbwynt oddeutu 24.4 km (15.2 mi) o ddyfnder.[1]

Achosodd y daeargryn itsunami godi a tharo'r tir mawr ychydig wedyn. Gwelwyd tonnau o hyd at 4-10 metr o uchder.

Ceir adroddiadau fod "trefi cyfan" wedi cael eu golchi i ffwrdd gan y tswnami, a bod 9,500 o bobl ar goll yn Minamisanriku;[2] a bod Kuji ac Ofunato wedi cael eu diddymu "heb olion o'u bodolaeth i'w weld yn unman."[3] Difrodwyd Rikuzentakata, Iwate, hefyd, ble y dywedir fod y tswnami yn dri llawr - o ran uchder.[4]

Effaith ar isadeiledd

[golygu |golygu cod]

Atomfeydd

[golygu |golygu cod]

Yn dilyn y ddaeargryn, diffoddodd yradweithyddion niwclear mewn pedairatomfa o fewn yr ardal a effeithwyd yn awtomatig. Methodd systemauoeri y ddwy atomfa ynFukushima, a dywedodd Cwmni Pŵer Trydanol Tokyo (TEPCO) ei fod yn pwmpio dŵr i brif adweithydd atomfa Fukushima-Daiichi er mwyn ei oeri. Ar 12 Mawrth bu ffrwydrad mawr yn atomfa Fukushima-Daiichi, ac anafwyd pedwar gweithiwr.[5]

Ymateb

[golygu |golygu cod]

Ymateb rhyngwladol

[golygu |golygu cod]

DywedoddDavid Cameron, Prif Weinidogy Deyrnas Unedig, bod y DU yn "barod i gynorthwyo mewn unrhyw modd y gallwn". Cynigwyd cymorth gan y grwpiauchwilio ac achub o BrydainInternational Rescue Corps aRapid UK. Mae'rCenhedloedd Unedig yn cydgordio'r gwaith achub gan 45 o wledydd.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. <Gwefan Saesneg y BBC
  2. "Gwefan SaesnegThe Mainichi Daily News". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2011-03-16. Cyrchwyd2011-03-16.
  3. "copi archif".Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-13. Cyrchwyd2011-03-13.
  4. "Wiped off the map: The moment apocalyptic tsunami waves drown a sleepy coast town". Gwefan y Daily Mail.
  5. (Saesneg) Huge blast at Japan nuclear power plant. BBC (12 Mawrth 2011).
gw  sg  go
Daeargrynfeydd yn 2011
Ionawr
Tirúa, Chile (7.1, 2 Ionawr) ·Pakistan (7.2, 19 Ionawr)
Chwefror
Mawrth
Yunnan, Tsieina (5.4, 10 Mawrth) ·Tōhoku, Japan (9.0, 11 Mawrth)†‡ ·Myanmar (6.8, 24 Mawrth)
Ebrill
Java, Indonesia (6.8, 3 Ebrill) ·Miyagi, Japan (7.1, 7 Ebrill) ·Fukushima, Japan (6.6, 11 Ebrill)
Mai
Guerrero, Mexico (5.7, 5 Mai) ·Lorca, Sbaen (5.1, 11 Mai) ·Simav, Twrci (5.8, 19 Mai)
Mehefin
Eritrea ac Ethiopia (4.5, 12 Mehefin) ·Christchurch, Seland Newydd (ail) (6.3, 13 Mehefin)
Gorffennaf
Awst
Port Vila, Fanwatw (7.1, 20 Awst) ·Colorado, UDA (5.3, 22 Awst) ·Virginia, UDA (5.8, 23 Awst)
Medi
Alaska, UDA (6.8, 2 Medi) ·Aceh Singkil, Indonesia (6.7, 6 Medi)  ·British Columbia, Canada (6.4, 9 Medi)  ·Sikkim, India (6.8, 18 Medi)
Hydref
Gujarat, India (5.3, 20 Hydref) ·Van, Twrci (7.2, 23 Hydref)
yn dynodi daeargryn a achosodd o leiaf 30 o farwolaethau
yn dynodi daeargryn fwyaf angheuol y flwyddyn
Eginyn erthygl sydd uchod amJapan. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Daeargryn_a_tsunami_Sendai_2011&oldid=11098357"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp