Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Daeargryn Sichuan 2008

Oddi ar Wicipedia
Daeargryn Sichuan 2008
Enghraifft o:Daeargryn Edit this on Wikidata
Dyddiad12 Mai 2008 Edit this on Wikidata
Lladdwyd69,195 Edit this on Wikidata
LleoliadSichuan Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/043ptpq edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daeargryn ar raddfa 7.9Mw oeddDaeargrynSichuan,2008 (Tsieineeg: 四川大地震;Pinyin:Sìchuān dà dìzhèn). Digwyddodd am 14:28:01.42Amser Safonol Tsieina (06:28:01.42UTC) ar12 Mai2008 yn nhalaithSichuan,Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mae wedi cael ei galw ynDdaeargryn Wenchuan yn Tsieina (Tsieineeg: 汶川大地震; Pinyin:Wènchuān dà dìzhèn), am fod canolbwynt y daeargryn ynSwydd Wenchuan, Sichuan. Roedd y canolbwynt 90 km i'r gogledd-orllewin oChengdu, prifddinas Sichuan, ar ddyfnder o 19 km dan wyneb y ddaear.[1] Teimlwyd y daeargryn mor bell i ffwrdd âBeijing aShanghai, lle siglodd adeiladau gan y cryndod.[2] Teimlwyd y daeargryn mewn gwledydd cyfagos yn ogystal.

ArdalMarwolaethau (amcangyfrif)
SichuanMianyang8,113[3]
Deyang6,701[4]
Chengdu1,215[5]
Guangyuan1,479[5]
Ngawa161[5]
Eraill3,276
Cyfanswm19,509
Gansu365[6]
Shaanxi108[7]
Chongqing14[5]
Henan2[5]
Yunnan1[5]
Cyfanswf (amcangyfrif):19,999[5]

Cymorth

[golygu |golygu cod]

Ardal

[golygu |golygu cod]
  • Baner Tsieina Tsieina : Y prif fudiad cymorth ywCymdeithas Croes Goch Tsieina. Dywedodd Gweinyddiaeth Materion Dinesig y rhoddwyd $125.4 miliwn gan y cyhoedd yn Tsieina. Rhoddodd chwaraewr mwyaf poblogaidd y wlad,Yao Ming, $214,000 a $71,000 i Gymdeithas Croes Goch Tsieina. Mae Cymdeithas Croes Goch Tsieina wedi casglu tua $26 miliwn hyn yn hyn.[8] Casglodd cwmnïau rhyngwladol arian hefyd.[9]
  • Baner Cambodia Cambodia : Rhoddodd Croes Goch Cambodia $10,000 i helpu dioddefwyr y drychineb.[10]
  • Baner Ffrainc Ffrainc : Danfonodd y llywodraeth awyren gyda phebyll, sachau cysgu, blancedi, tarpowlin, offer coginio a phethau eraill tebyg. Amcangyfrifwyd fod hyn gwerth tua $385,500.
  • Baner Yr Almaen Yr Almaen : Cyhoeddodd y llywodraeth ei bod am gyflwyno $770,000 fel y "cam cyntaf" trwy Groes Goch yr Almaen yn gymorth.[11]
  • Baner Japan Japan : Roedd $4.8 miliwn mewn arian a nwyddau i gael ei ddosbarthu trwy lywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina a mudiadau rhyngwladol. Dywedodd Tokyo eu bod yn barod i gynnig cymorth ychwanegol pe bai angen.[15]
  • Baner Macau Macau : $14.3 miliwn gan y llywodraeth a $1.43 miliwn gan Sefydliad Macau.[8]
  • Baner Maleisia Maleisia : Gallai'rSpecial Malaysia Disaster Assistance and Rescue Team (SMART) gael ei anfon i Tsieina i fod o gymorth i ddioddefwyr yn Chengdu.[16]
  • Baner Norwy Norwy : Mae'r llywodraeth wedi addo $3.92 miliwn.[17]
  • Baner Rwsia Rwsia : Awyren gludo am hedfan 30 tunnell o ddeunydd cymorth i Chengdu dydd Mercher, a 100 tunnell pellach i ddod.[18]
  • Baner Singapôr Singapôr : Y llywodraeth wedi rhoi $200,000 o gymorth yn ogystal â $70,000 wedi ei godi trwy gasglwyr yng nghymunedau China.[19]
  • Baner De Corea De Corea : Tua $1 miliwn i China. Mae Seoul hefyd yn bwriadu anfon gweithwyr achub.[20]
  • Baner Gwlad Tai Gwlad Tai : Neilltuodd Gwlad Tai $500,000 o gymorth i Tsieina a Myanmar.[22]
  • Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America : Rhoddodd yr Unol Daleithiau $500,000 fel cymorth cychwynnol mewn ymateb i apêl am arian gan y Groes Goch Rhyngwladol. Byddent yn ystyried rhoi mwy o arian.[23]

Mudiadau

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1.  Magnitude 7.9 - EASTERN SICHUAN, CHINA. USGS (12 Mai 2008).
  2.  'Hundreds buried' by China quake. BBC (2008-05-12).
  3. http://news.sina.com.cn/c/2008-05-15/185315547642.shtml
  4. Earthquake Killed More than 6,000 in Deyang.
  5. 5.05.15.25.35.45.55.6Gwall cyfeirio: Tag<ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwdata
  6. Earthquake Killed 365 in Gansu,Sina.com
  7. http://news.sina.com.cn/c/2008-05-15/194015547712.shtml
  8. 8.08.18.2Charity Begins at Home - The Wall Street Journal
  9.  FACTBOX: Earthquake aid for China. Reuters (May 14, 2008).
  10.  Cambodian Red Cross donates $10,000 to help China's quake relief efforts. Xinhua News Agency (2008-05-14).
  11.  Germany announces aid to China over earthquake. Xinhua News Agency (2008-05-14).
  12.  $300m proposed to help Sichuan quake victims (2008-05-13).
  13.  HKJC organises fund-raising drive, calls on public to donate to earthquake relief. The Hong Cong Jockey Club (2008-05-14).
  14.  Quake aid donations accepted from May 14. Government of Hong Kong (May 13, 2008).
  15.  China requests quake aid - Japan foreign minister. The Guardian (May 13 2008).
  16.  SMART ready to deploy to Sichuan. The Star (May 14, 2008).
  17.  Norway to provide aid to China over earthquake. Xinhua News Agency (14 Mai 2008).
  18.  Russia to send humanitarian aid for quake-hit China. Xinhua News Agency (13 Mai 2008).
  19.  Singapôr to donate $200,000 for earthquake relief. Xinhua (2008-05-14).
  20.  SKorea to send China US$1 million in earthquake aid. Associated Press (May 14, 2008).
  21.  FACTBOX-Earthquake aid for China. Reuters (14 May 2008).
  22.  Cabinet approves 30 million baht to aid China and Myanmar. Relief Web (13 Mai 2008).
  23.  US to give $500,000 to China earthquake relief. Reuters (13 Mai 2008).
  24.  IOC sends $1M in earthquake aid to China. CBC.
  25.  Locals mobilizing to help Chinese earthquake victims. The Chronicle Herald (14 Mai 2008).
  26.  Oxfam allocates $1.5 million for China earthquake relief. Oxfam (14 Mai 2008).
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Daeargryn_Sichuan_2008&oldid=13452910"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp