Bu ymladd yn Dacia yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwrDomitian, ond gorchfygwyd byddinoedd Rhufeinig yn87 ac eto yn88 ganDecebalus, brenin Dacia. Bu raid i Rufain dalu i'r Daciaid am heddwch. Fodd bynnag bu'r ymerawdwrTrajan yn fwy llwyddiannus. Yn fuan ar ôl dod yn ymerawdwr yn98 dechreuodd gyfres o ymgyrchoedd a arweiniodd at ymgorfforiad Dacia fel talaith o'r ymerodraeth yn107. Rhannodd yr ymerawdwrHadrian Dacia yn ddwy dalaith, Dacia Inferior a Dacia Superior. Yn159 crëwyd trydydd talaith, Dacia Porolisense, ac ail-enwyd y ddwy arall yn Dacia Apulensis a Dacia Malvensis, Yn168 dan yr ymerawdwrMarcus Aurelius unwyd hwy yn un dalaith unwaith eto.
Prifddinas y dalaith oeddSarmizegetusa, a enwyd yUlpia Traiana am gyfnod. Bu rhyfela cyson ar y ffin, gyda'rSarmatiaid yn ymosod yn barhaus. Ildiodd Rhufain y dalaith yn275.