CytserOrion yn atlas sêr y seryddwr Johann Hevelius o'r flwyddyn 1690.
Rhanbarth seryddol yn yr awyr o safbwynt rhywun yn edrych o'r ddaear ywcytser. Ceir 88 ohonyn nhw heddiw yn hemisfferau'r De a'r Gogledd ac maen' nhw'n dilyn ffiniau cydnabyddiedig. Mae cytser yn cynnwys nifer osêr agalaethau a chyrff nefol eraill sy'n aml yn dwyn enw'r cytser, e.e.Messier 31, 'Y Galaeth Troellog yn Andromeda'.