Cynhelir y gystadleuaeth yn yrEsprit Arena,Düsseldorf.[2][3] Hwn fydd y trydydd tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn yr Almaen (fe'u cynhaliwyd yn yr Almaen yn flaenorol yn 1957 a 1983). Hefyd hwn fydd y tro cyntaf y cynhelir y gystadleuaeth yn yr Almaen fel gwlad unedig. Enillydd cyntaf y '4 Mawr' yw'r Almaen. Cyfranoga'r '4 Mawr' y mwyaf o bres i'rUDE: yr Almaen, yDeyrnas Unedig,Ffrainc aSbaen - sydd felly yn eu caniatáu i gystadlu yn y rownd derfynol, a hynny ers i'r rheol gael ei chyflwyno yn 2000.
Gall stadiwm yr Esprit Arena ddal 24,000 o wylwyr ar gyfer y Gystadleuaeth Cân Eurovision.[7] Gall Düsseldorf ddarparu 23,000 o welyâu a 2,000 mwy yn yr ardal gyfagos ac ar longau arAfon Rhein. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Düsseldorf yn agos i'r man cyfarfod, a bydd arena athletau, sydd yn gyfagos hefyd, yn cael ei ddefnyddio fel canolfan y wasg i letya 1,500 o newyddiadurwyr.
Ar 13 Hydref 2010 cyhoeddodd Thomas Schreiber, cydlynydd i ARD, fanylion am y cysyniad: bydd yr Esprit Arena yn cael ei rhannu'n ddwy ran. Adeiladir y llwyfan ar un ochr a bydd yr ochr arall yn cael ei defnyddio fel ystafelloedd gwisgo ac ystafelloedd i gyd-weithwyr yr artistiaid. Bydd tocynnau ar gael ar gyfer saith o sioeau yn gyfan gwbl (y rownd derfynol, y ddau rownd cyn-derfynol a phedwar ymarfer gwisg).
Gall 4 gwlad "4 Mawr" a'r wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth gystadlu yn y rownd derfynol yn unig, gan osgoi'r rowndiau cynderfynol. Yng nghystadleuaeth 2011, bydd un o'r "4 Mawr" a gwlad gynnal y gystadleuaeth yr un peth, sef yr Almaen, ac o ganlyniad mae hyn wedi gadael man gwag. Yn y cyfarfod Grŵp Cyfeireb ymMelgrade, penderfynwyd y byddai llai o gyfranogwyr yn y rownd derfynol. Bydd 24 gwlad yn cystadlu yn lle 25.[8] Sut bynnag, mae'rEidal wedi dychwelyd i'r gystadleuaeth ac wedi dod un o'r "5 Mawr" felly bydd Yr Eidal yn perfformio yn y rownd derfynol yn awtomatig sy'n golygu y bydd 25 o wledydd yn perfformio yn y rownd derfynol.
Ar 30 Awst 2010, cyhoeddodd Svante Stockselius y byddai'n ymddeol fel Goruchwyliwr Gweithredol Cystadleuaeth Cân Eurovision ar 31 Rhagfyr 2010.[9] Ar 26 Tachwedd 2010, cyhoeddodd yrUDE y bydd Jon Ola Sand yn Oruchwyliwr Gweithredol newydd Cystadleuaeth Cân Eurovision.[10]
Cafodd y gwledydd sy'n cystadlu eu rhannu'n chwe pot, yn seiliedig ar batrymau bleidleisio hyd at 2010 ar 17 Ionawr 2011. Cafodd y gwledydd eu dewis o'r potiau i benderfynu a fyddant yn cystadlu yn y rownd cyn-derfynol cyntaf neu'r ail rownd cyn-derfynol. Hefyd, mae'r dewis yn penderfynu a fydd yn rownd gyn-derfynol y "5 Mawr" (Yr Almaen, y Deyrnas Unedig, Yr Eidal, Ffrainc, Sbaen) wledydd bleidleisio ynddo.
Mae Israel wedi gofyn i gystadlu yn yr ail rownd cyn-derfynol o achos Diwrnod Cofio Israel yn gwrthdaro â'r rownd cyn-derfynol cyntaf. Roedd darlledwr yr Almaen, NDR, wedi gofyn am ganiatâd i bleidleisio yn yr ail rownd cyn-derfynol am resymau amserlennu.[11]