![]() | |
Math | pentref,cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 542, 610 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,015.38 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.959°N 3.406°W ![]() |
Cod SYG | W04000150 ![]() |
Cod OS | SJ056411 ![]() |
Cod post | LL21 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref achymuned ynSir Ddinbych,Cymru, ywCynwyd ( ynganiad ). Roedd gynt yn yr henSir Feirionnydd. Saif ar y ffordd B4401, tua dwy filltir i'r de-ddwyrain o drefCorwen, lle maeAfon Trystion yn ymuno agAfon Dyfrdwy. Gerllaw mae coedwig gonifferaidd Coed Cynwyd. Gorwedd y pentref ym mhlwyfLlangar, ynNyffryn Edeirnion, wrth droedY Berwyn.
Ceir yma ddwy dafarn, yPrince of Wales a'rBlue Lion, a cheir hostel ieuenctid. Yma hefyd mae lleoliad man sefydlu cwmni trelars Ifor Williams. SaifEglwys Llangar rhwng Cynwyd aChorwen, un o eglwysi mwyaf nodedig Cymru, gyda'i murluniau canoloesol.
Cynrychiolir yr ardal hon ynSenedd Cymru ganKen Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]
Yn ôl yr hanesyddAntony Carr, Cynwyd oedd canolfan cwmwdEdeirnion, ac yma y deuai hyd at 30 o farwniaid Edeirnion at ei gilydd, mewn cae o'r enw Cae Llys a oedd yn rhan o Fryn yr Orsedd (Bryn yr Eryr heddiw). Mae'n bur debyg mai dyma darddiad yr enw Cynwyd, sef 'man cyfarfod'. Yn y12g talwyd mwy o drethi gan Drigolion Cynwyd nag unrhyw dref-ddegwm arall yn y cwmwd.
Yngnghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Cynwyd (pob oed) (542) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cynwyd) (312) | 59.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cynwyd) (358) | 66.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cynwyd) (69) | 30.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen ·Dinbych ·Llangollen ·Prestatyn ·Rhuddlan ·Rhuthun ·Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler ·Betws Gwerful Goch ·Bodelwyddan ·Bodfari ·Bontuchel ·Bryneglwys ·Bryn Saith Marchog ·Carrog ·Cefn Meiriadog ·Clocaenog ·Cwm ·Cyffylliog ·Cynwyd ·Derwen ·Diserth ·Y Ddwyryd ·Efenechtyd ·Eryrys ·Four Crosses ·Gallt Melyd ·Gellifor ·Glyndyfrdwy ·Graeanrhyd ·Graigfechan ·Gwyddelwern ·Henllan ·Loggerheads ·Llanarmon-yn-Iâl ·Llanbedr Dyffryn Clwyd ·Llandegla ·Llandrillo ·Llandyrnog ·Llandysilio-yn-Iâl ·Llanelidan ·Llanfair Dyffryn Clwyd ·Llanferres ·Llanfwrog ·Llangwyfan ·Llangynhafal ·Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch ·Llanynys ·Maeshafn ·Melin y Wig ·Nantglyn ·Pandy'r Capel ·Pentrecelyn ·Pentre Dŵr ·Prion ·Rhewl (1) ·Rhewl (2) ·Rhuallt ·Saron ·Sodom ·Tafarn-y-Gelyn ·Trefnant ·Tremeirchion