Senedd Cymru (Saesneg:Welsh Parliament) neu'rSenedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyodeddfwriaeth sy'n ymwneud âChymru. Rhan o'i waith yw dwynLlywodraeth Cymru i gyfrif.[1] Rhwng Mai 1999 a Mai 2020, enw'r sefydliad oeddCynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg:National Assembly for Wales).[2][3] Sefydlwyd y Cynulliad ym1999 ar ôl cynnalrefferendwm ym1997.
Ceir 60 o aelodau, neu 'Aelodau o'r Senedd' (AS) a etholir (ers 2011) am dymor o bum mlynedd; mae 40 ohonynt yn cynrychioli etholaeth ddaearyddol ac 20 yn cael eu hethol dan drefn cynrychiolaeth gyfrannoldull D'Hondt dros y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru. Mae'r Senedd yn gweithredu systemun siambr, hynny yw, nid oes 'ail siambr' iddeddfwrfa Cymru.
Ffurfiwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn dilynDeddf Llywodraeth Cymru 1998, a oedd yn ymateb iRefferendwm datganoli i Gymru, 1997.[4] Mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.[5]
Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor penodedig. Pedair blynedd oedd y tymor gwreiddiol, ond yn sgil deddfwriaeth yn San Steffan i greu Seneddau o 5 mlynedd ymestynnwyd cyfnod y Senedd i bum mlynedd. Cynhaliwydetholiadau ym1999,2003,2007,2011,2016 a2021. Cynhelir is-etholiadau os oes sedd etholaeth leol o'r Senedd yn dod yn wag, ond os oes gwagle ar y rhestr ranbarthol bydd pleidiau gwleidyddol yn enwebu'r unigolyn nesaf ar y rhestr i ymuno â'r Senedd.
Ar 27 Tachwedd 2019 pasiwyd deddf, sef yDdeddf Senedd ac Etholiadau, i roi'r bleidlais i bobl 16 oed, yn dechrau oetholiadau Senedd 2021. Yn ogystal, cafodd preswylwyr o dramor sy'n byw yng Nghymru hawl i bleidleisio. Adeg y bleidlais ar y ddeddf, roedd 41 o 60 aelod o blaid y newid gyda Llafur a Phlaid Cymru o blaid a'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn erbyn. Roedd y ddeddf hefyd yn rhoi enw newydd dwyieithog i'r Cynulliad fel yr oedd, sef Senedd Cymru a Welsh Parliament, er gwaethaf ymgyrchu i gael enw uniaith Gymraeg ar y sefydliad. Yn ymarferol, er bod enw dwyieithog ar y sefydliad, tueddir i'w alw'nSenedd yn y ddwy iaith.
Ym Mai 2024, pleidleisiodd y Senedd dros gynyddu nifer yr aelidau o 60 i 96, gyda chefnogaeth Llafur a Phlaid Cymru. O 2026 ymlaen, fe fydd etholiadau Seneddol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd yn hytrach na phob chwe blynedd.[6]
Ar 3 Mawrth 2011, cynhaliwydrefferendwm i benderfynu a ddylai'r Cynulliad gael y pŵer i lunio ei ddeddfau ei hun. Pleidleisiodd pobl Cymru o blaid y cynnig. Ers 2017, defnyddir model cadw pwerau yn ôl, ac mae gan y Senedd yr hawl i ddeddfu mewn unrhyw faes sydd heb ei eithrio.